Arestio dau wrth ymchwilio diflaniad llanc yn 2002

Roedd Robert Williams yn 15 oed pan ddiflannodd yn 2002
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi eu harestio mewn cysylltiad â diflaniad llanc 21 mlynedd yn ôl.
Roedd Robert Williams yn 15 oed pan ddiflannodd o ardal Resolfen, Castell-nedd Port Talbot ar 22 Mawrth 2002.
Dywedodd yr heddlu bod dynes 59 oed a dyn 35 oed wedi eu harestio yn gynnar fore Mawrth.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechniaeth.
Y gred yw bod Robert wedi mynd i barti yn Aberdulais ar y diwrnod canlynol, ond er gwaethaf sawl apêl am wybodaeth, nid yw wedi ei ganfod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu De Cymru bod mam Robert, Cheryl, wedi cael gwybod am y datblygiad.
"Ein blaenoriaeth yw eu cefnogi nhw wrth i ni barhau gyda'r ymholiadau yma."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un all helpu gyda'r ymchwiliad.