'Gofod i greu' wrth agor canolfan gelfyddydol newydd

Canolfan Nyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan hynaf yr adeilad wedi ei droi'n ofod ar gyfer ymarferion

  • Cyhoeddwyd

Bydd canolfan gelfyddydol newydd ym Mangor yn hwb i greadigrwydd a’r sector greadigol yng ngogledd Cymru, yn ôl artistiaid.

Wedi buddsoddiad o £4.5m mae canolfan Nyth, sy’n eiddo i gwmni Theatr Frân Wen,, dolen allanol yn paratoi i agor ei drysau yn swyddogol ddiwedd yr haf, ond mae eisoes yn llawn bwrlwm.

Mae’r ganolfan wedi ei lleoli mewn hen eglwys yng nghanol dinas Bangor, sydd wedi ei thrawsnewid i gynnwys sawl stiwdio, neuaddau ymarfer ac ardaloedd ar gyfer gweithwyr goleuo a sain.

Er nad ydi’r ganolfan wedi agor yn swyddogol, mae sawl cynhyrchiad eisoes yn gwneud defnydd o’r safle cyn mentro ar deithiau ledled Cymru.

Bywyd newydd i hen adeilad

Er mwyn creu mynedfa hygyrch roedd yn rhaid tyllu dan ddaear i greu gofod gwastad a newydd, sydd hefyd wedi rhoi cyfle i osod swyddfeydd newydd a mannau cymunedol.

Yn ôl cwmni Frân Wen roedd awydd pendant gan y cwmni a’r bobl ifanc ynghlwm i wneud defnydd o hen adeilad gwag yn hytrach na chodi adeilad newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan newydd yn safle "hollol hyblyg" yn ôl cyfarwyddwr artistig Frân Wen, Gethin Evans

“Mae’r pensaer wedi gwneud gwaith arbennig yn dod â’r hen a’r newydd at ei gilydd," meddai cyfarwyddwr artistig Frân Wen, Gethin Evans. 

“Mae’r adeilad yn listed felly oeddan ni eisiau gwarchod y treftadaeth yna ond hefyd dod â bywyd newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys mannau tawel i sgriptwyr a chyfarwyddwyr

Wrth ymweld â Nyth roedd nifer o bobl ifanc yn sgriptio, ymarfer eu crefft ac yn paratoi am gynyrchiadau, gyda Hedydd Ioan yn eu plith.

“Mae’n mynd yn ôl rhyw bum mlynedd... mwy rŵan... pan o'n i’n 15 oed yn ymwneud â Frân Wen fel rhywun ifanc ac wrth weithio ar brosiectau haf - roedd sôn am yr adeilad newydd oedd am ddod.

“Dwi’n meddwl fod o wedi dod â fi a lot o’r bobl ifanc sy’n gweithio efo’r cwmni yn agos i’r adeilad a ‘da ni’n teimlo rhyw berchnogaeth dwi’n meddwl."

'Gwahoddiad i greu'

Mae Nyth yn cynnwys gofodau eang i ymarfer a mannau distaw i sgriptwyr a chyfarwyddwyr.

Un o’r mannau mwyaf trawiadol yw rhan hyna’r eglwys, sydd bellach yn ofod eang i ymarferion.

“Ma’n hollol hyblyg," meddai Gethin Evans.

“Da ni’n gallu dod â seti allan, da ni’n gallu dod â pherfformiadau informal 'mlaen, mae 'na ymarferion yn digwydd ar hyn o bryd.

“Y gobaith yw ei fod o'n wahoddiad i greu o’r newydd ac i gymunedau a phobl ifanc greu o’r newydd, ond hefyd i fynegi eu hunain.

“Ma’n rhan ddiddorol a phwysig o’r sector greadigol yn yr ardal ac i artistiaid gael y gofod i greu."

Disgrifiad o’r llun,

Hen eglwys yng nghanol Bangor ydi lleoliad y ganolfan newydd

Ers prynu’r adeilad nôl yn 2019 mae’r gwaith adnewyddu wedi bod yn bellgyrhaeddol, gyda chyllid wedi deillio o sawl ffynhonnell fel y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. 

Wedi blynyddoedd o actio ac ymarfer mewn hen siop 'sgidiau ar stryd fawr Bangor, mae actorion ifanc eisoes yn cymryd mantais. 

“Dwi’n meddwl ma' 'na wastad wedi bod stigma o ran pobl sydd eisiau gwneud rhywbeth yn y celfyddydau,” meddai Tesni Hughes, sy'n actio gyda chwmni Frân Wen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tesni Hughes yn un o actorion cwmni Theatr Frân Wen

“Does na’m lot o gyfleodd ‘da chi’n clywed am, ond rŵan ma' nyth yn massive, 'da chi methu methu fo.

"Felly, ma' cael lle mor fawr, lle mor boblogaidd efo sioeau poblogaidd yn digwydd - ma' gynno ni rhywbeth i 'neud a fydd pobl yn iwsio fo dwi’n meddwl."

Bydd Nyth yn agor yn swyddogol wedi cyfnod yr haf.