Cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu haddysg gartref
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plant sy’n symud at gael eu haddysg gartref wedi cynyddu 17% yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ymchwil gan y BBC yn dangos fod awdurdodau lleol Cymru wedi cael gwybod bod teuluoedd mwy na 2,000 o blant yn bwriadu eu haddysgu adref.
Dyma’r lefel uchaf ers cyn 2020-2021.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn “cydnabod hawl rhieni i addysgu” er mai dim ond tua 1% o blant Cymru sydd yn cael addysg yn y ffordd yma.
Yn ôl Wendy Charles-Warner o elusen Education Otherwise mae plant y Deyrnas Unedig yn profi “argyfwng iechyd meddwl” sy’n golygu bod rhieni yn troi at addysgu gartref.
'Dwi ddim yn teimlo fy mod i’n colli allan'
Mae Molly o Sir Ddinbych ymhlith y bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg gartref ers y pandemig.
Penderfynodd Molly a’i theulu ddewis ei haddysgu adref wedi eu profiad o wneud hynny yn ystod pandemig, yn ogystal â’r ffaith ei bod hi wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.
“Roedd 'na dipyn o orbryder yn gysylltiedig â mynd i’r ysgol,” meddai.
Dyw Molly ddim wedi gwneud ei harholiadau TGAU. Yn hytrach, mae hi wedi gwneud cyrsiau ar-lein gyda chymorth ei theulu ac mae hi bellach yn rhedeg busnes yn ymwneud â cheffylau.
“O fy mhrofiad o fod yn yr ysgol, dwi ddim yn teimlo fy mod i’n colli allan,” meddai.
Yn ôl Molly, mae dysgu pethau newydd yn ei “gwneud yn hapus” ac mae’r rhyddid i ddarllen ac astudio pethau amrywiol yn gweithio iddi hi a’i theulu.
“Rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn edrych lawr ar addysg yn y cartref,” meddai.
“Rwy'n meddwl fy mod wedi cael yr addysg fwyaf boddhaol, ac rwyf wedi dysgu llawer.”
Yn ôl Dr Lowri Jones, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Bangor, “dydy addysg o reidrwydd ddim yn golygu eistedd tu ôl i ddesg” yn sgil newidiadau cymdeithasol.
“Mae’r stôr o wybodaeth sydd ar gael ar y we efallai ei gwneud hi’n haws y dyddiau hyn i rieni addysgu eu plant.”
Mae ymchwil y BBC yn dangos bod poblogrwydd addysg yn y cartref wedi cynyddu mewn nifer o ardaloedd yn Lloegr, yn ogystal â’r Alban, tra bod llai o blant yn cael eu haddysgu adref yn ne Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
Yn ôl Betsan O'Connor, ymgynghorydd addysg annibynnol, mae amrywiaeth o resymau pam fyddai teulu yn troi at addysg yn y cartref, gan gynnwys ymateb i anghenion arbennig a phenodol y plentyn.
Dywedodd: “Falle bod e’n ddewis cadarnhaol yn y pendraw ond falle taw dewis anorfod yw e i rai rhieni lle bod anghenion eu plant nhw ddim yn cael eu cyrraedd yn yr ysgol.
“Fi’n credu bod rhaid i ni edrych ar bob teulu, pob unigolyn yn eu tro.”
Er i nifer gael profiadau positif yn y cartref, mae Betsan yn dweud bod pryderon am ddiogelu plant yn parhau.
“Yn sicr mae’r un gofidiau oedd yn ein hwynebu ni cyn Covid yn ein hwynebu ni nawr o ran ofnau gyda diogelu plant.”
Er i Dr Lowri Jones ddweud nad yw hi'n synnu bod twf yn nifer y plant sydd yn cael eu haddysgu adref, dywed bod angen ystyried goblygiadau hir dymor y newid.
“Os dydy ein plant a phobl ifanc ddim yn derbyn yr addysg orau bosib, be’ ydy effaith hynny ar gyflogadwyedd a’u gallu nhw i fyw a bod mewn cymdeithas yn y dyfodol?
“Un peth, dwi’n meddwl, sydd angen ar fyrder yng Nghymru ydy ymchwil i ddeall y sefyllfa, i fynd dan groen y rhesymau 'ma sydd gan bobl ifanc dros beidio â mynd i’r ysgol.”
'Mynychu ysgol yw'r peth gorau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dim ond "tua 1% o blant Cymru" sy’n cael eu haddysgu adref ar hyn o bryd, ac mai'r "peth gorau i bobl ifanc yw mynychu ysgol" yn y mwyafrif llethol o achosion.
“Mae’r llawlyfr i addysgwyr yn y cartref yn rhoi cyngor i rieni a gofalwyr sy’n addysgu yn y cartref, neu sy’n ystyried gwneud hynny.
"Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol i sicrhau bod modd nodi a chynnig y ddarpariaeth fwyaf priodol ar gyfer pob plentyn.”
Yn ôl Plaid Cymru “mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i’r afael ag addysg, drwy wneud yn siŵr bod ysgolion yn cael eu hariannu i ddarparu’r cymorth sydd ei angen” a “sicrhau yw unrhyw blentyn yn cael ei wthio allan o’r system addysg".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n parchu hawl y rhiant i ddewis, wrth annog perthynas rhwng y plant sy’n cael eu haddysgu adref gydag ysgolion a'r gymuned.