Cosbi swyddog Abertawe a fetiodd yn erbyn ei dîm ei hun

Stadiwm Swansea.comFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae un o swyddogion Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael dirwy a gwaharddiad o'r gamp am flwyddyn ar ôl cael ei ddal yn betio yn erbyn ei dîm ei hun.

Fe gyfaddefodd Huw Lake, 61, ei fod wedi gosod 2,476 o fetiau ar gemau pêl-droed rhwng Ebrill 2018 a Medi 2023.

Mae'n gweithio fel swyddog cyswllt y chwaraewyr, ac mae wedi cael ei gyflogi gan y clwb ers 2004.

Dywed y clwb eu bod wedi rhoi cefnogaeth iddo ers dechrau'r broses ac mae'r gefnogaeth yna yn parhau.

Apêl am gosb lymach

Cafodd Mr Lake waharddiad 12 mis o'r gamp ym mis Mawrth gan Gomisiwn Rheoli annibynnol, sydd hefyd yn ei atal rhag unrhyw weithgaredd yn ymwneud â phêl-droed.

Roedd tri mis cyntaf y gwaharddiad mewn grym yn syth, gyda'r gweddill yn cael ei ohirio tan ddiwedd tymor 2024/25.

Cafodd ddirwy hefyd o £1,500.

Apeliodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn erbyn y gosb gan ddadlau nad oedd yn ddigon llym.

Ym mis Mai, fe ddyfarnodd Fwrdd Apêl Annibynnol bod gohirio naw mis o'r ddedfryd yn rhy drugarog, a phenderfynwyd gosod gwaharddiad 12 mis llawn yn hytrach.

Betio bron i £92,000

Clywodd yr apêl bod Huw Lake wedi gosod "o leiaf 2,476 o fetiau'n ymwneud â phêl-droed" a bod 130 o'r rheiny’n betio y byddai'r Elyrch yn colli.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, fe fetiodd bron i £92,000, gan golli dim ond ychydig yn llai na 10% o'r arian.

Dywedodd llefarydd ar ran CPD Abertawe: "Mae'r clwb wedi cefnogi Huw trwy achos y Gymdeithas Bêl-droed a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Ychwanegodd na fydd y clwb "yn gwneud sylw pellach ynghylch y mater yma".