'Byddai ASau absennol wedi cefnogi Gething' - AS Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd y grŵp Llafur yn y Senedd yn dweud ei bod hi'n hyderus y byddai'r aelodau a fethodd y bleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething wedi cefnogi'r Prif Weinidog.
Roedd yr ASau Llafur Hannah Blythyn a Lee Waters i ffwrdd yn sâl wrth i Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth o ddwy bleidlais ddydd Mercher.
Dywedodd Vikki Howells, sy’n cadeirio’r grŵp Llafur o ASau yn y Senedd, ei bod yn “hyderus” y bydden nhw wedi cefnogi Mr Gething pe baen nhw’n gallu bod yn bresennol yn y bleidlais.
Mae'r BBC wedi ceisio cadarnhau hynny gyda'r aelodau dan sylw, ond heb dderbyn ymateb.
Nid yw Ms Blythyn wedi cael ei gweld yn y Senedd ers iddi gael ei diswyddo gan Mr Gething yn sgil honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau - mae Ms Blythyn yn gwadu hyn yn gryf.
Mae Mr Waters wedi bod yn feirniadol o benderfyniad Mr Gething i dderbyn £200,000 gan gwmni gwastraff dadleuol.
Fore Iau dywedodd Ms Howells mai “gimic” Ceidwadol oedd y bleidlais.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates fod y Ceidwadwyr yn ceisio "gwneud y gorau o'r sefyllfa yn wleidyddol, a does dim rheswm i Vaughan ystyried [ymddiswyddo]".
Disgrifiodd y bleidlais fel "stynt wleidyddol ddi-chwaeth".
Ychwanegodd Mr Skates fod Hannah Blythyn a Lee Waters yn cefnogi Vaughan Gething "100%".
Galw arno eto i ymddiswyddo
Ond mae Tom Giffard, aelod Ceidwadol yn y Senedd, yn galw ar Mr Gething i ymddiswyddo.
"Fedra i ddim gweld sut allwn ni hercian ymlaen am ddwy flynedd heb bod mwyafrif. Dydi o ddim yn ymarferol.
"Yr ateb syml i hyn yw i Vaughan Gething ymddiswyddo."
Mae Mr Gething wedi mynnu na fydd yn gwneud hynny.
Mae cyn-gwnsler deddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y BBC mai "dim ond newydd-deb" Senedd Cymru "sy'n golygu bod unrhyw awgrym" Mr Gething barhau yn ei swydd ar ôl colli'r bleidlais.
Cadarnhaodd Keith Bush, a fu hefyd yn brif gynghorydd cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Senedd Cymru erbyn hyn - rhwng 2007 a 2012, nad oes unrhyw beth wedi newid yn gyfreithiol yn sgil y bleidlais.
Ond yn gyfansoddiadol, meddai wrth siarad ar Dros Frecwast, "does dim un egwyddor mwy sylfaenol na bod llywodraeth yn atebol i Senedd".
"Dwi ddim yn credu, pe byddai prif weinidog y Deyrnas Unedig yn colli pleidlais o ddiffyg hyder, y byddai unrhyw amheuaeth y byddai'n sefyll i lawr yn syth.
"Dim ond efallai newydd-deb y drefn yma yng Nghaerdydd sy'n golygu bod unrhyw awgrym y gall prif weinidog barhau yn ei swydd yn groes i ddymuniad mwyafrif yr Aelodau o'r Senedd.
"Yn y diwedd mae pwerau'r llywodraeth yn hanu o gefnogaeth pobl Cymru, sy'n cael ei mynegi trwy eu cynrychiolwyr yn y Senedd.
"Os ydy barn mwyafrif pobl Cymru, trwy eu haelodau yn y Senedd, yn mynegi anfodlonrwydd a diffyg hyder yn y prif weinidog, dwi'n credu y byddai disgwyl iddo sefyll i lawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024