Rhai ymgeiswyr Llafur 'eisiau pellhau eu hunain' oddi wrth Gething
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffrae ynglŷn â rhoddion Vaughan Gething yn cael ei godi ar garreg y drws mewn sgyrsiau â phleidleiswyr, yn ôl rhai ymgeiswyr Llafur sydd wedi siarad â’r BBC.
Mae'r prif weinidog wedi dweud na fydd yn ymddiswyddo er iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd nos Fercher.
Daw hyn yn dilyn wythnosau o ffraeo, wedi i Mr Gething dderbyn rhodd ariannol o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni a oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafodd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.
Mae un ymgeisydd Llafur wedi dweud wrth BBC Cymru nad oedden nhw am ymgyrchu gyda Mr Gething.
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
"Dydyn ni ddim eisiau iddo ddod allan ar garreg y drws gyda ni... Rydyn ni eisiau pellhau ein hunain," medden nhw.
Ychwanegodd ymgeisydd arall fod trafferthion y prif weinidog yn "dod i fyny ar garreg y drws ond ddim yn effeithio ar bleidlais pobl" a'u bod yn "gwybod bod hwn yn fater i’r Senedd".
'Stỳnt wleidyddol' neu 'sgandal'?
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a ddaeth â'r cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Gething ymlaen, yn dweud ei fod "wedi colli hyder pobl Cymru".
Ond dywed Llafur Cymru mai "stỳnt wleidyddol" oedd cynnig y Ceidwadwyr.
Yn ôl ymgeisydd Llafur, sy'n gobeithio dychwelyd i San Steffan wedi'r bleidlais ar 4 Gorffennaf, dydy'r ffrae heb amharu ar ffydd arweinydd Prydeinig y blaid, Syr Keir Starmer, yn Mr Gething.
Dywed Stephen Kinnock fod Mr Gething "heb wneud dim o'i le" a bod yn "rhaid iddo barhau" fel arweinydd Llafur Cymru.
Wrth siarad â phleidleiswyr yn Ne Caerdydd a Phenarth, sef etholaeth Mr Gething, roedd yna ymwybyddiaeth o’r dadlau ynghylch y rhoddion i'w ymgyrch.
Ond nid dyna oedd eu prif bryder o ran bwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol San Steffan.
"Rwyf wedi cymryd y rhodd i ystyriaeth, mae’n dipyn o sgandal a dweud y gwir," meddai Ben Sullivan, 24, sy’n ystyried pleidleisio Llafur.
"Ond ni fydd yn effeithio ar sut dwi’n pleidleisio yn San Steffan gan ei fod yn bryd cael y Ceidwadwyr allan.
"Fydd pethau sy’n digwydd yng Nghymru ddim yn effeithio ar sut dwi’n pleidleisio dros y DU yn gyffredinol."
Dywedodd Sarah Johnston nad oedd hi’n meddwl bod penderfyniad Vaughan Gething i dderbyn rhodd gan gwmni sy’n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol “yn olwg dda”, ond fe fydd hi’n dal yn pleidleisio dros y Blaid Lafur ar 4 Gorffennaf.
"Dydw i ddim yn ei hoffi, nid wyf yn meddwl ei fod yn dda o gwbl. Ond mae hi [yr etholiad cyffredinol] yn ras dau geffyl a byddai’n well gen i Lafur na’r Torïaid."
Dywedodd Hera Siddiq, 28, ei bod wedi ei "synnu" gan y ffrae rhoddion a’r trafferthion sy’n wynebu’r prif weinidog, gan ychwanegu ei fod yn rhywbeth a allai "o bosib" effeithio ar sut mae hi’n pleidleisio.
Ond dywedodd ei bod "wedi clywed pethau da iawn am Vaughan Gething, rwy’n gwybod ei fod wedi gwneud llawer dros y gymuned".
Eglurodd ei bod wedi "colli ffydd" yn y prif bleidiau gwleidyddol a’i bod yn ystyried pleidleisio dros y Blaid Werdd neu dros ymgeisydd annibynnol.
Bydd llawer eisoes wedi penderfynu sut y maen nhw am bleidleisio, fel Natalie Jones, 43.
"Mae’n debyg y byddaf yn pleidleisio dros Blaid Cymru," meddai, "felly fydd o ddim yn effeithio ar sut dwi’n mynd i bleidleisio o gwbl."
Mae hi’n ansicr os bydd pleidlais hyder Vaughan Gething a'r ffrae ehangach yn gwneud unrhyw wahaniaeth i sut mae pobl yn pleidleisio mewn etholiad ar gyfer San Steffan.
"Mae gennych chi lawer o gadarnleoedd Llafur yng Nghymru," ychwanegodd.
"Efallai y bydd pobl yn gwneud yr hyn maen nhw wedi'i wneud erioed."
Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Iau dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ei fod yn credu fod Mr Gething yn "damaged goods", a'i fod yn "dychmygu y bydd yn ymddiswyddo mewn amser".
"Byddwn i'n dychmygu fod arweinyddiaeth Llafur yn San Steffan, ynghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, eisiau dim mwy na munud o dawelwch o Fae Caerdydd a'r ffraeo yma," meddai.
"Ond efallai nawr y bydd pobl yn teimlo ei bod hi'n amser canolbwyntio ar y gwir broblemau sy'n wynebu Cymru, yn enwedig y tanariannu gan y llywodraeth yn San Steffan.
"Mater i'r Blaid Lafur yw hi i benderfynu a ydyn nhw am barhau gyda phrif weinidog sydd ddim â hyder llawn y Senedd."
Mae yna awgrym y gallai'r dadlau am arweinyddiaeth Vaughan Gething effeithio ar gefnogaeth y Blaid Lafur mewn etholiadau i'r Senedd, ond nid ar gyfer San Steffan, yn ôl un arbenigwr gwleidyddol Cymreig.
"Rydyn ni’n gweld un o’r bylchau mwyaf rydyn ni erioed wedi’i weld rhwng bwriad pobl i bleidleisio Llafur yn San Steffan a'r bwriad i bleidleisio Llafur ar gyfer y Senedd," meddai Dr Jac Larner, darlithydd mewn gwyddoniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Er enghraifft, ar hyn o bryd yn y polau mae tua 45% - ychydig llai na hanner - o'r holl bleidleiswyr yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio am y Blaid Lafur mewn etholiad San Steffan ond mae hynny'n gostwng i tua 30% yn etholiadau'r Senedd.
"Dydych chi ddim eisiau darllen gormod i hynny wrth gwrs, ond mae’n awgrymu bod Llafur mewn etholiadau Cymreig, mewn etholiadau datganoledig, ar hyn o bryd, dipyn yn llai poblogaidd nag ydyn nhw pan mae'n dod i etholiadau San Steffan."
Ychwanegodd: "Mae Keir Starmer dipyn yn fwy poblogaidd yng Nghymru na Vaughan Gething ac mae hyn mewn gwirionedd yn newid o’r hyn a welwyd dan Mark Drakeford, a oedd yn gyson yn fwy poblogaidd nag arweinydd y Deyrnas Unedig.
"Ni allwn ni fod yn sicr am hyn, ond dyw hi ddim yn amhosib fod y newyddion negyddol yma yn effeithio ar ei boblogrwydd personol ef [Vaughan Gething] a phoblogrwydd Llafur Cymru."
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
Wrth drafod canlyniad y cynnig diffyg hyder ar raglen BBC Wales Live nos Fercher, dywedodd Stephen Kinnock, sy'n ymgeisydd Llafur yn yr etholiad cyffredinol, bod Mr Gething "yn ddyn o anrhydedd ac egwyddor".
Pan ofynnwyd a oes gan Syr Keir Starmer hyder llwyr yn arweinydd Llafur Cymru, atebodd: "Yn bendant."
Ar yr un rhaglen, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwr David TC Davies: "Dydy hyn ddim gymaint am hygrededd Vaughan ond ynglŷn â'i grebwyll."
Mater i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, meddai, yw penderfynu a yw'r blaid am geisio cael pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth Lafur gyfan ym Mae Caerdydd.
"Y realiti yw, mae hyn yn gwneud i ni edrych yn hurt yng Nghymru," ychwanegodd.
Dywedodd Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru: "Mae hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol drist i ddemocratiaeth Cymru ac fe ddigwyddodd oherwydd Vaughan Gething.
"Oes, mae yna reolau, ond mae yna grebwyll hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru mai "stỳnt wleidyddol gan y Blaid Geidwadol" oedd y cynnig o ddiffyg hyder "gyda chymorth Plaid Cymru".
Ychwanegodd fod Mr Gething "yn canolbwyntio ar ein GIG a'r economi a helpu sicrhau llywodraeth Lafur yn y DU y mae Cymru'n crefu amdano".