'Angen osgoi cymharu bywydau pobl ifanc â'u rhieni'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl ifanc yn teimlo y dylid rhoi mwy o ffocws ar ddathlu cerrig milltir bywyd mwy perthnasol iddyn nhw, yn hytrach na chymharu gyda bywydau eu rhieni.
Priodi, prynu tŷ ac yna cael plant oedd y drefn neu'r disgwyliad traddodiadol i nifer mewn cenedlaethau blaenorol, ond mae rhain yn bethau sy'n digwydd yn hwyrach ym mywydau nifer o bobl ifanc y dyddiau hyn, un ai o ddewis, neu oherwydd ffactorau fel arian.
Mewn fideos sydd wedi eu rhannu gan ddegau o filiynau o bobl ar Tiktok yn ddiweddar, mae pobl ifanc wedi bod yn cymharu eu bywydau nhw gyda bywydau eu rhieni pan yr oedden nhw yr un oed.
Yn aml, mae'r fideos yma yn dangos bod y rhieni yn briod neu wedi llwyddo i brynu tŷ, tra bod y person ifanc ddim - ond mae 'na alw nawr am roi mwy o sylw i gerrig milltir eraill mwy addas i'r genhedlaeth ifanc.
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
Roedd rhieni Ellie Harris, 25, yn briod gyda thri o blant yn ei hoed hi, ond mae hi'n credu nad yw pobl yn cydnabod y ffaith ei fod yn "amser cwbl wahanol".
Mae hi'n annog eraill i ddathlu eu campau eu hunain, boed hynny'n gadael swydd y maen nhw'n anhapus ynddi neu dechrau rhedeg, yn hytrach na chymharu â'r cenedlaethau o'u blaenau.
Daeth astudiaeth gan yr elusen Relate i'r gasgliad bod 95% o Gen Z (pobl gafodd eu geni rhwng 1997 a 2012) ac 88% o millennials (pobl gafodd eu geni rhwng 1980 a 1997) yn teimlo bod rhai cerrig milltir bywyd y dylai cymdeithas eu hadnabod yn well, gan gynnwys rhedeg marathon, gadael perthynas sydd ddim yn iach neu gadael swydd.
Un o'r gwahaniaethau mawr rhwng pobl ifanc heddiw a chenedlaethau blaenorol yw bod nifer yn byw gyda'u rhieni tan eu bod yn llawer hŷn.
Dywedodd Ellie, o Ferthyr, sy'n byw gyda'i mam o hyd, nad oes ganddi unrhyw fwriad i 'setlo lawr' yn fuan.
“Mae’n amser hollol wahanol, dydw i ddim yn gwybod sut wnaethon nhw (ei rhieni) hynny bryd hynny.
“'Dwi ddim am wneud y pethau hynny, a dim just oherwydd ei fod allan o gyrraedd ar hyn o bryd.
“Fyddwn i ddim yn gallu prynu cartref ar fy nghyflog i nawr, byddai’n rhaid i mi wneud gyda rhywun arall.”
Teithio 'yn garreg filttir enfawr'
Fe wnaeth Ellie gymryd seibiant o'i gwaith y llynedd i fynd i deithio o amgylch Awstralia a de ddwyrain Asia am dros flwyddyn.
“Nes i deithio i ochr arall y byd, a dwi’n meddwl bod hynny’n garreg filltir enfawr."
Dywedodd nad oedd y cyfleoedd i deithio yr un fath i’w rhieni ac maen nhw’n ei hannog i fynd i weld y byd.
“Mae Mam bob amser yn dweud nad yw’n difaru dim o’i dewisiadau, ond fydden i wedi hoffi gwneud mwy.”
Mae Natalie Earley, 28, mewn sefyllfa debyg gan ei bod hi hefyd yn dweud bod ei rhieni wedi priodi ac wedi prynu tŷ pan yr un oedran â hi, rhywbeth sy’n teimlo fel "byd arall" o'i gymharu â lle mae hi nawr.
Mae Natalie wedi bod â phartner ers cryn amser ond dydi hi ddim yn bwriadu prynu cartref, priodi na chael plant yn y dyfodol agos, ac mae'n hapus â hynny.
"Rwyf wedi rhannu tŷ gyda phobl eraill ers gadael y brifysgol," meddai.
"Er fy mod i’n gyfforddus â pheidio â bod yn berchen ar fy nghartref fy hun, mae o mor bell allan o'n nghyrraedd yn ariannol.”
'Mae cymaint mwy i fywyd'
Dywedodd Natalie ei bod hi'n arfer teimlo dan bwysau wrth weld rhai o'i ffrindiau'n cyflawni'r cerrig milltir hynny, ond nid yw'n poeni am y peth rhagor.
“Roedd teithio yn agoriad llygad i mi... ni gyd yn byw ar ras yn y DU," meddai.
“Dyw e ddim yn flaenoriaeth i mi, ac er y dylwn ni ddathlu cerrig milltir traddodiadol mae cymaint mwy i fywyd hefyd.
“Os ydyn ni’n teimlo fel dathlu rhywbeth yna mae’n werth dathlu, yn enwedig os ydych chi’n falch ohono.”
Yn ôl yr arbenigwr cyllid personol, Laura Pomfret, mae'r tirwedd economaidd rhwng cenedlaethau hŷn a'r rhai iau yn dra gwahanol.
“Dydi mwynhau coffi bob wythnos ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i arbedion ar gyfer blaendal am dŷ,” dywedodd Laura.
Ychwanegodd fod y sefyllfa economaidd y tu allan i reolaeth pobl yn llwyr.
“Heb gefnogaeth rhieni nac etifeddiaeth, yn fathemategol mae’n llawer anoddach i genedlaethau iau feddwl am y buddsoddiadau mawr hynny.”