Plaid Cymru yw'r 'unig blaid sy'n rhoi Cymru'n gyntaf'
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n amser "cicio'r Ceidwadwyr allan o rym" yn ôl Rhun ap Iorwerth, gan ychwanegu fod pobl Cymru wedi cael llond bol o'r blaid Lafur yn "cymryd Cymru'n ganiataol".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, wrth lansio eu hymgyrch etholiad cyffredinol ym Mangor ddydd Iau, mai ei blaid o oedd yr unig un "sy'n rhoi Cymru yn gyntaf".
Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, eu bod yn dyfeisio "syniadau newydd" fel datganoli Ystad y Goron, a chreu Cronfa Cyfoeth Cymru, i gryfhau economi Cymru.
Mae Ystad y Goron yn gwmni annibynnol sy'n eiddo i'r Brenin neu'r Frenhines yn ystod eu teyrnasiad, ond mae elw portffolio eiddo'r cwmni - sydd yn werth £16bn - yn mynd yn syth i Drysorlys Llywodraeth y DU.
Tra bod Llywodraeth Cymru'n rheoli meysydd fel iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, ac amaeth, mae datganoli Ystad y Goron i Gymru yn rhywbeth mae Plaid Cymru wedi galw amdano ers amser.
Mae'r blaid eisiau i elw Ystad y Goron gael ei ddefnyddio mewn Cronfa Cyfoeth Cymru a fydd yn buddsoddi mewn cymunedau.
Dywedodd Liz Saville Roberts nad oedd Plaid Cymru ofn siarad am "yr eliffant yn yr ystafell" sef Brexit.
Ychwanegodd bod ganddyn nhw'r atebion i'r problemau sy'n effeithio pobl leol - sef "ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb dollau".
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd29 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai
“Mae’n amlwg bod pobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar y llywodraeth Geidwadol drychinebus a dinistriol hon," ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.
“Mewn cyferbyniad llwyr, mae ymgyrch Llafur eisoes wedi diystyru cyllid tecach i Gymru.
“Maen nhw’n fodlon ein gweld ni ynghlwm â senedd San Steffan sy’n dal Cymru yn ôl.
“Nid yw’r etholiad hwn yn ymwneud yn unig â phwy sydd â’r allweddi i 10 Downing Street.
“Mae hefyd yn ymwneud â phwy sy’n cynrychioli eich stryd, eich cymuned, a buddiannau eich gwlad o ddydd i ddydd.”
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies
Mae ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau cyffredinol yn draddodiadol yn anodd i bleidiau fel Plaid Cymru, sy’n ei chael hi’n anodd cystadlu gyda’r sylw ar y ddwy brif blaid sy’n cystadlu i ffurfio llywodraeth.
Mae’r newidiadau i’r ffiniau etholaethol yn yr etholiad hwn yn gwneud pethau’n fwy anodd i’r blaid hefyd, gydag un o’r etholaethau y mae’n ei chynrychioli ar hyn o bryd – Arfon – yn diflannu’n llwyr.
Mae Rhun ap Iorwerth yn cydnabod nad ydy’r newidiadau wedi bod yn “garedig” i’w blaid.
Serch hynny mae Plaid Cymru’n hyderus o ddal ei gafael ar Geredigion Preseli a Dwyfor Meirionnydd – dwy etholaeth sydd wedi eu seilio ar ardaloedd y mae’r blaid yn eu cynrychioli’n barod.
Mae ganddi ei golygon ar Gaerfyrddin hefyd. Ond heb os, prif sedd darged Plaid Cymru yw Ynys Môn, ble bydd hi’n cystadlu gyda’r Ceidwadwyr a Llafur.
Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe enillodd Plaid bedair sedd o’r 40 etholaeth yng Nghymru.
Yn dilyn ad-drefnu ffiniau sydd wedi lleihau’r nifer hwnnw i 32, fe allai fod yn anodd iddyn nhw wneud yr un peth y tro hwn.
Mae'r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn cynrychioli Ynys Môn yn Senedd Cymru, a dyna un o brif seddau targed y blaid ar gyfer yr etholiad ar 4 Gorffennaf.