Jonathan Edwards ddim am sefyll yn yr etholiad cyffredinol
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi cyhoeddi nad yw'n bwriadu sefyll yn yr etholiad cyffredinol.
Mae cyn-aelod Seneddol Plaid Cymru wedi bod yn AS annibynnol ers cael ei wahardd o'r blaid ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig.
Roedd awgrym y byddai Mr Edwards yn ystyried sefyll unwaith eto yn etholaeth newydd Caerfyrddin.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Edwards ei bod hi wedi bod yn "fraint" ac yn "anrhydedd" gallu gwasanaethu'r ardal dros y blynyddoedd.
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai
'Methu aros i fod gartref nawr'
Mae Jonathan Edwards wedi bod yn AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2010, ac wedi ennill pedwar etholiad, heb golled.
Ond gyda nifer yr Aelodau Seneddol yn gostwng o 40 i 32, mae Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn un o'r seddi fydd yn diflannu.
Caerfyrddin yw enw'r etholaeth newydd, a bydd yn cwmpasu trefi fel Caerfyrddin, Llandeilo a Rhydaman, ynghyd ag ardaloedd gwledig eraill.
Ychwanegodd Mr Edwards mewn datganiad: "Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy annog i sefyll yn yr etholiad cyffredinol, ond, wedi ystyried y peth yn ofalus, rydw i wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i mi ddod â fy nghyfnod yn San Steffan i ben.
"Mae gallu gwasanaethu pobl yr ardal wedi bod yn fraint ac anrhydedd arbennig.
"Rydw i wedi ymroi fy mywyd i wasanaeth cyhoeddus... ac rydw i'n gobeithio fod pobl Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn teimlo fy mod i wedi cyflawni'r swydd hyd eithaf fy ngallu, gyda gonestrwydd ac wedi gwneud hynny am y rhesymau cywir.
"Mae gweithio mewn gwleidyddiaeth yn anodd, ac rydw i wir yn gobeithio'r gorau i fy olynydd.
"Dydw i methu aros i fod gartref nawr, lle dwi fod."
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd14 Awst 2022
Yn ei ddatganiad, fe wnaeth Mr Edwards gyhuddo Plaid Cymru o geisio manteisio ar ddigwyddiad "yn ei fywyd personol er mwyn chwalu ei enw da".
Ym mis Mai 2020 cafodd Mr Edwards ei arestio pan gafodd yr heddlu eu galw i'w gartref yn Sir Gaerfyrddin, a chafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod.
Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn "wir ddrwg ganddo", a'i fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd".
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ganiatâd i ddychwelyd i'r blaid ond sbardunwyd dadl a ddylai gynrychioli'r blaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
Roedd mwyafrif o bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn argymell na ddylai ailafael yn ei waith fel AS Plaid Cymru yn San Steffan - gan olygu y byddai'n rhaid iddo eistedd fel AS annibynnol.
Yn ddiweddarach gadawodd y blaid yn gyfan gwbl, gan barhau fel AS annibynnol.
Ymgeiswyr eraill
Mewn datganiad, dywedodd Plaid Cymru fod gan yr ardal "hanes balch o ethol cynrychiolwyr ymroddgar gyda meddylfryd annibynnol sydd wastad yn rhoi eu hetholwyr yn gyntaf".
Ni wnaeth y datganiad gyfeirio at Mr Edwards o gwbl.
Mae Plaid Cymru wedi dewis Ann Davies, cynghorydd Sir Gaerfyrddin, tra bod disgwyl i gyn-Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, sefyll dros y Ceidwadwyr yng Nghaerfyrddin.
Ymgeisydd Llafur fydd Martha O'Neil.