Cyhuddo cyn-faer o greu lluniau anweddus o blant

Terry Judkins
Disgrifiad o’r llun,

Terry Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-faer Doc Penfro wedi ymddangos yn Llys y Goron Hwlffordd wedi ei gyhuddo o greu a chadw lluniau anweddus o blant.

Mae Terry Judkins, 55, yn wynebu tri chyhuddiad, ac un cyhuddiad pellach o fod â lluniau pornograffig eithafol yn ei feddiant.

Ni blediodd i'r cyhuddiadau ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae'r disgwyl iddo ymddangos nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 10 Mai.

Mr Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021.

Pynciau cysylltiedig