Ateb y Galw: Al Parr

Alun PerringtonFfynhonnell y llun, Yr Egin & Betsan Celf Calon
  • Cyhoeddwyd

Tro Alun Parrington neu Al Parr yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon.

Mae Al yn prysur gwneud enw iddo fo ei hun fel comedïwr.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae bellch yn byw yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Yn 2019 fe ddechreuodd wneud stand-yp ar ôl i ffrind roi ei enw i lawr.

Ers hynny mae'n sgwennu ac actio mewn prosiectau ar gyfer S4C, fel Deli Derfel, Iawn Mêt?, a fo oedd cyflwynydd y noson gomedi gyntaf LGBTQ+ i S4C erioed ei ddangos, sef Ffyrnig nôl yn 2022.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Roedd Dad yn obsessed efo hen geir, ac fel teulu sa ni’n mynd i lot o Sioea Hen Geir.

Felly un o rheina dwi’n meddwl. Eironic, chos nesh i’m pasho’n nhest gyrru tan o'n i’n 25.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adra, sef ardal Dyffryn Nantlle.

Dwi'n methu'r lle’n anferthol ers symud i Rhuddlan nôl yn 2022.

Dwi wrth fy modd mynd a’r ci (Oreo) am dro pam fydda i adra, a gweld yr olygfa hudolus o Foel Tryfan tuag at Yr Wyddfa. Very Lord of the Rings!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ffyni, Geeky a Sassy.

Ffynhonnell y llun, Alun Parrington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Al wrth ei fodd yn dychwelyd adref i Ddyffryn Nantlle

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Lot gormod o ddewis! O'n i’n gweithio mewn Tesco pan o'n i’n student a weithia fyswn i'n servio pobl mewn full on American accent just i neud gweddill y staff chwerthin.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi’n gwatchad Grey’s Anatomy ar y funud a newydd orffan cyfres 11 lle ma' un o’r prif gymeriadau (na’i ddim enwi) yn marw.

Un gair… devastated.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, talu am aelodaeth gym ond ddim mynd.

Ffynhonnell y llun, Alun Parrington
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Al ei dad, Gareth, pan oedd Al ond yn wyth oed

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Wild: From Lost to Found on the Pacific Crest Trail gan Cheryl Strayed. Llyfr a ffilm hollol anhygoel sy’n adrodd stori wir.

Mae pob tro’n fy atgoffa nad ydi cyfnodau anodd mewn bywyd yn para' am byth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Dad. Yn anffodus fu farw fy nhad (Gareth Parrington) yn sydyn pan o'n i’n wyth mlwydd oed.

Sa’n meddwl y byd cal cyfarfod fo eto, ond dwi’m yn siŵr be sa fo’n feddwl o fi’n bod yn gomedïwr a dim mechanic chwaith. Sori Dad.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Methu meddwl am dim byd ddiddorol. Dwi eitha agored fel person, rhy agored 'sa pobl sydd wedi gweld fy stand-yp yn ei ddeud mashwr….

Ffynhonnell y llun, Alun Parrington
Disgrifiad o’r llun,

Mae Russell T Davies yn un o arwyr mawr Al Parr

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Selfie efo Russell T Davies. Dwi’n ffan enfawr o Doctor Who, ac hefyd o holl waith Davies.

Fo ydi un o ysgrifenwyr teledu gorau erioed. Felly, pan neshi digwydd ei weld tra’n Manceinion am y diwrnod, roedd rhaid i mi ofyn am selfie.

Roedd o’n ofnadwy o annwyl ac yn gwrando wrth i mi ramblo ymlaen am gymaint oedd ei waith o’n golygu i fi.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

'Swn i’n licio deud wbath rili meddylgar, ond os dwi’n hollol onast swni’n trio clirio pob dim dwi wedi ei casglu dros y blynyddoedd.

'Swn i’m yn licio meddwl am fy nheulu yn gorfod sortio trwy peil anferth o ddillad a eiddo ar ôl fi fynd.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Ydi o’n cal bod yn berson ffuglennol? 'Swn i’n licio bod yn Superman am y dydd.

Dwi 'di bod yn ffan o’r ffilms eiconig Christopher Reeve ers o'n i’n ddim o beth. Felly 'sa cael ei bwerau am ddiwrnod yn anhygoel.

Dwi’n meddwl am hyn pob tro dwi’n styc mewn traffig: “Sa’n neis gellu just hedfan wan a bod adra mewn chydig funudau”.

Pynciau Cysylltiedig