£2bn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru eleni
- Cyhoeddwyd
Gallai pobl yng Nghymru fod gannoedd o bunnoedd ar eu hennill petaen nhw’n hawlio’r budd-daliadau maen nhw’n gymwys i’w cael.
Yn ôl cwmni data Policy in Practice mae mwy na £2bn heb ei hawlio yng Nghymru eleni.
Fe lwyddodd tîm Cyngor ar Bopeth yng Nghaerffili helpu dau bensiynwr i hawlio gwerth £18,000 o fudd-dal y flwyddyn nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod yn gymwys amdano.
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau fod pobl sy'n gymwys am fudd-daliadau yn gorfod gwneud cais amdano, a'u bod yn hyrwyddo pa fudd-daliadau sydd ar gael i bobl.
Mae Rhys Lewis o Cyngor ar Bopeth Caerffili a'i dîm wedi gweld “cynnydd mawr” yn nifer y bobl sy’n dod atyn nhw am help.
“Mae mwy o bobl angen dod aton ni i wneud y gorau o’u hincwm," meddai.
"Mae’n rhywbeth ni’n gwneud yn aml, yn enwedig gyda budd-daliadau."
Yn ôl Policy in Practice, mae o leiaf £76m o fudd-daliadau a chefnogaeth ariannol arall nad yw’n cael ei hawlio yn ardal Caerffili a Blaenau Gwent.
Mae’r sefydliad yn amcangyfrif bod £23bn o bunnau heb gael ei hawlio ym Mhrydain eleni.
Ond mae cyfraddau uwch o bobl sy’n methu hawlio’u holl fudd-daliadau yng Nghymru, lle mae mwy o rwystrau i hawlio, yn ôl Rachael Walker, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil Policy in Practice.
“Efallai bod mwy o dlodi, efallai bod poblogaeth hŷn ac mae rôl fawr gan heriau digidol i’w chwarae yn hyn,” meddai.
Ychwanegodd bod nifer yr ardaloedd gwledig yng Nghymru yn golygu ei bod hi’n fwy anodd i bobl gael y gwasanaethau fyddai’n eu helpu i gael cymorth.
Mae ystadegau Policy in Practice yn awgrymu bod o leiaf £2.06bn o fudd-daliadau a chymorth eraill yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru eleni.
Mae’n cynnwys budd-daliadau Prydain gyfan fel Credyd Cynhwysol, yn ogystal â chefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan lywodraeth leol – fel cymorth gyda threth cyngor.
Mae hefyd yn cynnwys ffyrdd o ostwng costau am fod derbyn rhai budd-daliadau yn eich gwneud yn gymwys am ostyngiadau amrywiol ar filiau fel dŵr a chyswllt â’r we.
'Dim pres ar ôl'
Mae Tal Michael a thîm Cyngor ar Bopeth Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl maen nhw’n eu helpu hefyd.
“Be' 'da ni’n gweld yn rhy aml y dyddiau yma yw sefyllfa lle hyd yn oed os ‘da chi ond yn edrych ar y gwariant sydd yn angenrheidiol - dim byd positif i fwynhau bywyd, dim ond y stwff angenrheidiol - does ‘na ddim pres ar ôl ar ddiwedd y mis,” meddai.
“Mae pobl yn stryglo ond dy’n nhw ddim wedi gweld bod cymorth ar gael iddyn nhw.
"Er enghraifft, credyd pensiwn. Mae hynny wedi helpu lot o bobl sydd hefo incwm isel iawn.”
Os yw mwy o bobl yn hawlio budd-daliadau, mae modd gostwng y pwysau ar wasanaethau eraill, yn ôl Rachael Walker.
“Rydyn ni’n gwybod am y cyswllt rhwng tlodi, incwm a iechyd ers blynyddoedd,” meddai.
“Mae pensiynwr sy’n hawlio credyd pensiwn yn llai tebygol o alw ar y gwasanaethau cymdeithasol am eu bod nhw’n gallu gwresogi eu tai.
“Ac wrth edrych ar blant, ry’n ni’n gwybod bod plant yn llwyddo yn yr ysgol, eu hiechyd yn gwella a’u pwysau’n gostwng pan ry’n ni’n sicrhau bod oedolion yn hawlio’u budd-daliadau’n llawn.”
Ond gallai’r ffigwr o £2.06bn fod yn rhy isel, am nad yw’n cynnwys budd-daliadau anabledd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: “Mae ein gwladwriaeth les yn cynnal miliynau o bobl bob blwyddyn ac mae'r rheiny sy’n gymwys am fudd-dal penodol fel Credyd Cynhwysol yn gorfod gwneud cais amdano.
“Rydym yn hyrwyddo budd-daliadau trwy ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus ac yn cyfrannu at gyllido’r gwasanaeth Cymorth i Hawlio mae Cyngor ar Bopeth yn ei ddarparu i gefnogi pobl i hawlio.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwneud y mwyaf o incwm cartrefi yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae’n hymgyrch Yma i Helpu yn annog pobl i gysylltu gyda Advicelink Cymru a ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’.
“Rydym yn cael canlyniadau da gyda’n cynlluniau i wneud y gorau o incwm yng Nghymru.
"Fodd bynnag, petai Llywodraeth y DU yn arwain yn strategol ar ymgyrch genedlaethol benodol i hawlio budd-daliadau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, mynediad i gyngor a chefnogaeth a threfniant rhannu data, byddai’n gwella’r sefyllfa ar draws Cymru a’r DU.”
Ble i fynd am help
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys am gymorth neu help gyda’ch incwm, dyma rai llefydd i fynd am gyngor:
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, dolen allanol yn awgrymu sawl linc am gyngor rhad ac am ddim, di-enw ac annibynnol gan elusennau;
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu llinell gyngor cyfrinachol Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023