Straen gofalwr o orfod ad-dalu gordaliadau budd-dal
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Gâr wedi disgrifio'r straen o orfod ad-dalu budd-daliadau a gafodd am ofalu am ei thad, ar ôl ennill gormod o arian yn ddamweiniol wrth weithio'n rhan amser.
Mae Gina Price ymhlith miloedd o ofalwyr di-dâl ar draws y DU sy'n gorfod ad-dalu arian, ac mae dau gyn-weinidog yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn galw ar Lywodraeth y DU i oedi gorchmynion ble mae symiau mawr yn ddyledus.
Fe gafodd Ms Price wybod yn 2019 bod arna hi tua £7,600 ar ôl derbyn gormod o fudd-dal dros saith blynedd a hanner hyd at Chwefror 2018.
Dywedodd bod y sefyllfa "yn bwysau mawr", ac wedi gwaethygu'r galar yn dilyn marwolaeth ei thad yn 2019.
Roedd gan dad Ms Price sawl cyflwr, gan gynnwys trafferthion clun yn dilyn triniaeth nad oedd yn gwbl lwyddiannus.
Roedd hi wedi gofalu amdano am 10 mlynedd cyn sylweddoli, yn 2013, bod hawl ganddi i geisio am Lwfans Gofalwr.
Erbyn hynny, roedd hi'n gweithio'n rhan amser mewn gorsaf betrol hefyd, ac fe dderbyniodd y lwfans am tua pum mlynedd.
Dywedodd y byddai'n cytuno'n achlysurol i weithio shifftiau ychwanegol ond yn gweithio llai yn ystod wythnosau eraill, gan gredu ei bod o dan y trothwy enillion i dderbyn y lwfans.
'Rwy'n meddwl bod e mor annheg'
Pen dderbyniodd lythyr y DWP yn dweud bod arna hi dros £7,000 fe gafodd ei "synnu" gan y swm, ac mae hi'n ad-dalu £100 y mis ers hynny.
"Mae wastad wedi peri gofid i mi," meddai. "Rwy'n meddwl bod e mor annheg."
Dywedodd llefarydd ar ran y DWP bod yna ymroddiad "i degwch o fewn y system lles" a bod yna gamau "i reoli ad-daliadau tra'n diogelu'r pwrs cyhoeddus".
Roedd Gina Price ymhlith dwsinau o wrandawyr a rannodd eu profiadau gyda rhaglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2.
Mae gofalwyr llawn amser yn cael hawlio £81.90 yr wythnos, ond yn anghymwys i dderbyn ceiniog os yn ennill £1 yn unig ar ben trothwy o £151 yr wythnos, ar ôl treth a threuliau.
Dywedodd gofalwyr wrth y rhaglen nad oedden nhw'n gwybod eu bod wedi mynd uwchben y trothwy nes cael gwybod flynyddoedd yn ddiweddarach pan roedd gordaliadau wedi cronni i fod yn filoedd o bunnoedd.
"Mae'n ddrwg calon wnes i erioed ei hawlio, oherwydd mae'n swm hunllefus o ddyled... mae'n bwysau mawr arna'i ar ben popeth arall," dywedodd Ms Price.
"Ro'n i mor benisel ar ôl popeth gyda fy nhad. Roedd e'n marw erbyn iddyn nhw gysylltu 'da fi, ac ro'n i jest mo'yn eu talu, eu cadw oddi ar fy nghefn, ac ro'n i angen bwrw ymlaen gyda 'mywyd."
Galw am adolygu
Mae'r DWP wedi cael beirniadaeth am fethu ag atal gordaliadau, er y gallu i wneud hynny, gan arwain at drafferthion cyfreithiol i rai.
Mae staff budd-daliadau'n derbyn rhybudd awtomatig gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) os mae person sy'n derbyn Lwfans Gofalwr yn ennill gormod.
Dywed y DWP bod yna gyfrifoldeb ar unigolion i sicrhau eu bod yn gymwys i dderbyn y budd-daliadau maen nhw'n eu hawlio.
Yn 2019 fe gyhuddodd un o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin y DWP o "fwlio ac erlid" pobl oedd wedi derbyn gormod o arian, gan ychwanegu bod problemau systemau a staffio wedi achosi i waith gwirio bentyrru.
Mae'r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Ceidwadol Syr Iain Duncan Smith ymhlith nifer sy'n galw ar y llywodraeth i adolygu'r sefyllfa. Dylai'r DWP, meddai, oedi'r galwadau ad-dalu yn achos symiau mawr, ac adolygu'r rhesymau wrth wraidd gordaliadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021