'Neuadd fwyd y Sioe yn help i ddenu busnes o dramor'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Sioe Frenhinol wedi cael ei ddisgrifio gan fusnesau bwyd a diod Cymru fel "ffenest siop" ar gyfer denu prynwyr masnachol byd-eang.
Yn ôl rhai ar y 70 stondin yn Neuadd Fwyd y sioe, mae'r ardal yn pontio'r bwlch rhwng y cynhyrchwyr â'r marchnadoedd amrywiol, ac yn gyfle i greu cysylltiadau.
Daw hyn wedi i'r sector sicrhau trosiant o £9.3bn yn 2023.
"Yn y ddwy flwyddyn ddiwetha', 'dan ni wedi allforio i America," meddai Kirstie Jones, rheolwr marchnata Hufenfa De Arfon.
Ychwanegodd eu bod yn "'neud cysylltiadau reit dda yn y sioe" a bod Llywodraeth Cymru yn "dod â phobl rownd, rhai pobl o dramor yn dod yma" sy'n prynu nwyddau ar ran gwledydd eraill.
Wedi cychwyn drwy bobi bara o'u cartref yn 2016, mae gan gwmni Crwst ddau gaffi bellach, a nifer o wobrau i'w henw.
Mae eu cynnyrch nawr ar gael mewn siopau byd-enwog.
"Ar y funud ma' caramel range ni i gyd yn cael eu gwerthu yn Harrods, ma' hwnna'n big name drop i ni," meddai Max Evans, rheolwr gweithrediadau Crwst.
"Hefyd, mae granola ni fan hyn yn cael ei werthu yn Selfridges - two big names fan 'na…
"Ni'n cwrdd â phobl sy'n prynu stwff ni o fan 'ny a helpu i bridgeo y gap 'na.
"Bydden ni ddim yn cwrdd â nhw 'se nhw ddim yn dod i'r sioe. Mae'n helpu ni lot."
Uwch y neuadd fwyd ar faes y sioe mae lolfa fusnes, lle mae 300 o gynhyrchwyr yn arddangos eu bwyd a diod.
Mae 360 o brynwyr yn ymweld â'r ystafell yn ystod wythnos y sioe.
Gobaith Llywodraeth Cymru oedd cynyddu gwerth y sector 'sylfaen bwyd' i o leiaf £8.5 biliwn erbyn 2025.
Llynedd, serch hynny, roedd gan y sector - sef busnesau sy'n cynhyrchu, prosesu a chyfanwerthu nwyddau bwyd a diod - drosiant o £9.3 biliwn, gyda'r targed yn cael ei gyrraedd dwy flynedd yn gynnar.
Wrth ddisgrifio cyflwr y sector bwyd a diod yng Nghymru, dywedodd Ieuan Edwards, cyfarwyddwr cwmni Edwards of Conwy: "Mae hwn yn ffenest siop nid yn unig i Gymru, ond i Brydain ac Ewrop hefyd.
"'Dan ni, er enghraifft, wedi dechrau gwerthu yn y Middle East.
"Ma' hynny'n dod yn aml iawn oherwydd y gwelwch chi brynwr yn dod i'r sioe 'ma, achos mae o'n un o'r sioeau mwya' blaenllaw yn Ewrop bellach, a mae hyn yn rywbeth fedrwn ni gyd fod â hyder ynddo fo, a balchder hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf