Ailenwi adeilad S4C yn y Sioe er cof am Dai Llanilar

Disgrifiad,

Yr Athro Wynne Jones, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr CAFC, fu'n cofio Dai Jones ar faes y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd

Mae canolfan S4C ar faes y Sioe Frenhinol wedi cael ei ailenwi er cof am Dai Jones Llanilar mewn digwyddiad fore Mawrth.

Corlan Dai Llanilar yw'r enw newydd ar adeilad S4C, ac fe gafodd llechen ei dadorchuddio ar furiau'r adeilad.

Mae'r llechen - a gafodd ei gyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion - yn cyfeirio at Dai Jones fel "Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr".

Bu farw Dai Jones yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Roedd yn wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd, ac yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Bu hefyd yn cael ei gofio am gyflwyno sawl raglen radio, fel canwr talentog a ffermwr.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Corlan Dai Llanilar yw enw newydd adeilad S4C yn y Sioe Frenhinol

Yn dilyn dadorchuddio'r llechen, cafodd derbyniad ei gynnal ar y maes.

Yn ystod y derbyniad, fe wnaeth gwasg Y Lolfa lansio cyfrol Cofio Dai, sef casgliad o ysgrifau gan y bobl oedd yn ei adnabod orau.

Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.

'Un o fawrion y genedl'

Dywedodd Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C: “Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud.

“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.

“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig.”

Ychwanegodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr Sioe Frenhinol Cymru ei fod yn "fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl" gan ychwanegu "rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon".

Cafodd llechen arall ei dadorchuddio yn y digwyddiad hefyd, sy'n cynnwys yr englyn isod gan y bardd Tudur Dylan Jones:

Dai’r ardal hyd y dalar, - Dai â’i lais

Hyd y wlad, Dai’r cymar,

Dai frenin ei werin wâr.

Llawn o hwyl yw Llanilar.

Pynciau cysylltiedig