'Dwi'n nerfus' - Miloedd yn paratoi at arholiadau'r haf

Cadi a Cadi yn edrych ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadi a Cadi yn ddwy o'r miloedd ar draws Cymru sy'n paratoi at arholiadau'r haf

  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o ddisgyblion yn paratoi ar gyfer dechrau arholiadau'r haf ac am y tro cyntaf ers 2019 does yna ddim mesurau arbennig i adlewyrchu effaith y pandemig.

Yn eu plith mae Cadi a Cadi o Wynedd - dwy ffrind gyda'r un enw sy'n gwneud sawl arholiad eleni cyn gwneud mwy o bapurau TGAU flwyddyn nesaf.

Mae Cadi, 14, eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith cwrs Saesneg a nawr yn adolygu ar gyfer yr arholiadau.

"Dwi’n sgwennu nodiadau a wedyn sbio drostyn nhw, darllan drostyn nhw loads a ella na’i roid o ar bapur eto i drio cofio nhw neu wna i sgwennu nhw lawr a sbio drostyn nhw mewn dipyn o amsar wedyn."

I ymlacio mae'n "gwrando ar fiwsig, neu mynd â’r ci am dro neu siarad efo’r teulu really i gael meddwl fi o’r arholiadau".

Mae'n teimlo’n "nerfus" a "just isio cael o drosodd efo really".

Hefyd yn ddisgybl blwyddyn 10, mae Cadi,15, wedi gwneud arholiadau ffug a "rhai ohonyn nhw’n grêt, ond rhai ddim mor dda".

"Dwi efo busnas gneud earrings. Felly dwi’n licio gneud rheina i ymlacio achos mae just yn stress-free!

"Ond hefyd dwi’n licio chwarae pêl-droed a dwi’n licio mynd am dro hefo ffrindiau."

Mae'n hyderus mewn rhai pynciau ond yn fwy pryderus am ffiseg, "ond wna i trio gora' fi achos dyna’r peth gora' ti’n gallu gwneud".

Disgrifiad o’r llun,

"Cefnogi ydy’r unig beth fedra i wneud", meddai Catrin sydd â merch yn sefyll arholiadau TGAU

Ac mae rhieni'n teimlo'r pwysau hefyd.

Wrth reswm, mae'n "gyfnod eitha' pryderus", meddai ei mam Catrin Rowlands.

Ond mae'n hyderus ei bod wedi dysgu sgiliau adolygu da yn yr ysgol, ac mae'n mynd i academi fathemateg yn ardal Bethel "i fireinio’i sgiliau hi’n barod ar gyfar yr arholiadau maes o law".

Mae'n cefnogi cymaint ag y mae'n gallu gan "roi lle tawel iddi adolygu" a "gwneud yn siwr bod ganddi offer cywir i fynd fewn i'r arholiadau".

Ffynhonnell y llun, Sbarduno
Disgrifiad o’r llun,

Mae sesiynau adolygu dros y gwyliau yn rhoi sylw i dechneg arholiadau, meddai Awen Ashworth, perchennog Sbarduno

Mae Sbarduno yn cynnig sesiynau adolygu dros y gwyliau ac yn ôl y perchennog, Awen Ashworth, mae yna chwant ymhlith disgyblion a rhieni am gefnogaeth ychwanegol yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Dwi’n meddwl ma' 'na bwysa' mawr mewn ysgolion oherwydd ma' angen gorffen y cwricwlwm mewn amser ac ar ben hynny wedyn ma' nhw angen amser i gael y techneg yn iawn", meddai Ms Ashworth.

"Felly ma’r cefnogaeth ychwanegol nid yn unig i rieni a disgyblion ond mae o i’r ysgolion hefyd."

Mae Kamalagita Hughes o Gaerdydd yn awdur a hyfforddwr ar feddylgarwch sy’n gweithio gyda disgyblion ac athrawon.

Mae hi hefyd yn fam i fab ym mlwyddyn 10 sydd wrthi’n adolygu am arholiadau TGAU.

Mae annog y disgyblion i gael cydbwysedd rhwng y gwaith ac ymlacio yn hollbwysig, meddai.

“Mae’n really i bwysig i fwyta bwyd iachus, cysgu a mynd mas i’r awyr ffres.”

Cymryd cam yn ôl yw’r cyngor i rieni pan mae 'na wrthdaro dros adolygu, ac yn ystod arholiadau “paid poeni a just cefnogi dy blant y gorau gelli di”.

Disgrifiad o’r llun,

"Cefnogwch eich plant" yw prif neges Kamalagita Hughes

Ers y pandemig, mae yna newidiadau wedi bod i arholiadau gan gynnwys asesu llai o bynciau neu roi gwybodaeth o flaen llaw am beth allai ymddangos yn y papurau.

Ond eleni yng Nghymru does yna ddim trefniadau arbennig.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau'r haf yn cael eu sefyll "dan yr un trefniadau a chyn y pandemig" ar ôl ystyried "anghenion dysgwyr yn ogystal â'n cyfrifoldeb i gynnal hyder yn y drefn gymwysterau Gymreig".

Ychwanegodd llefarydd y gallai graddau rhai pynciau unigol gael eu haddasu pe bai canlyniadau llawer yn is na chyn y pandemig.