Gwastraff ffatri ganabis yng nghanolfan ailgylchu Aberystwyth

Daeth yr heddlu o hyd i 260 o blanhigion canabis aeddfed mewn tŷ gwag ym mhentref Bridell, ar gyrion Aberteifi yn dilyn cyrch ym mis Mehefin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi cael dedfryd o garchar wedi i daith i ganolfan ailgylchu yng Ngheredigion arwain at ymchwiliad heddlu a chanfod ffatri ganabis.
Fe gysylltodd staff â'r heddlu wedi i ddynion mewn fan Ford Transit wedi'i llogi adael pedwar neu bump o fagiau o wastraff planhigion canabis yn y ganolfan yn Aberystwyth ar 1 Mai eleni.
Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, fe gafodd y fan ei stopio rhwng Aberystwyth ac Aberteifi ac fe gafodd Manuel Nerguti a dau ddyn arall eu harestio ar amheuaeth o fod â rhan mewn cyflenwi canabis.
Bu'n rhaid eu rhyddhau oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol ond wedi rhagor o ymholiadau daeth ditectifs o hyd i 260 o blanhigion canabis aeddfed mewn tŷ gwag ym mhentref Bridell, ar gyrion Aberteifi.
Roedd y planhigion mewn pum ystafell ac atig yn y tŷ ac yn werth hyd at £242,000, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Cuddio tu ôl i beiriant golchi
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod cyrch wedi ei gynnal ar 7 Mehefin, wedi i waith swyddogion cudd-wybodaeth gasglu digon o dystiolaeth i sicrhau gwarant.
Dywedodd yr heddlu bod "y cyflenwad trydan wedi'i osgoi mewn modd soffistigedig ac roedd teclynnau a oedd yn gyson â masnachu cyffuriau'n bresennol".
Ychwanegodd fod Nerguti wedi ceisio dianc yn ystod y cyrch "ond daethpwyd o hyd iddo'n cuddio tu ôl i beiriant golchi yn y garej".
Cafodd ddedfryd o chwe mis o garchar ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o gynhyrchu cyffur dosbarth B.
Mae arweinydd yr ymchwiliad wedi canmol "meddwl chwim" staff "gwyliadwrus" y ganolfan a sylweddolodd fod "gweithgarwch troseddol yn digwydd" gan gysylltu'n gyflym gyda'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sam Garside: "Rydyn ni'n dibynnu ar y cyhoedd i'n hysbysu am unrhyw beth amheus sy'n digwydd yn eu cymunedau ac anogwn bobl i gysylltu â ni os ydynt yn amau unrhyw beth amheus.
"Roedd modd inni ddefnyddio ein gwybodaeth leol a chudd-wybodaeth yr heddlu i weithredu gwarant lwyddiannus i helpu i gau ffatri ganabis anghyfreithlon yn ardal Aberteifi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Ionawr