Heddlu'n dod o hyd i werth £860,000 o gyffuriau mewn wythnos

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae tyfiant canabis wedi bod yn broblem dros y flwyddyn ddiwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i werth dros £860,000 o blanhigion canabis mewn un wythnos.
Yn ystod ymgyrch blismona cenedlaethol wythnos o hyd - Ymgyrch Mille - roedd cyrchoedd ar chwe eiddo ar draws Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Cafodd saith o bobl eu harestio, gyda chwech o'r rheiny wedi eu cyhuddo o gynhyrchu canabis.
Daw hyn wrth i'r llu barhau â'u hymdrechion i frwydro yn erbyn cynhyrchu cyffuriau ar raddfa ddiwydiannol.
'Dinistrio swm sylweddol o ganabis'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis fod y llu yn "cymryd ymagwedd gadarn" i ddileu tyfiant canabis ar raddfa fasnachol, sydd wedi bod yn "broblem" dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mewn un wythnos yn unig, rydyn ni wedi atafaelu a dinistrio swm sylweddol o ganabis," meddai.
"Rydyn ni o hyd yn asesu cudd-wybodaeth o gwmpas ble mae'r ffatrïoedd hyn yn cael eu sefydlu, a phwy sy'n gysylltiedig â'u sefydlu a'u cynnal, gan weithredu ar frys pan mae gennym ddigon o dystiolaeth."
Ychwanegodd eu bod wedi targedu tai teras rhent yng nghanol trefi yr wythnos hon.
"Mae'r eiddo hyn yn ymddangos yn gwbl gyffredin o'r stryd - gan fod dulliau gofalus yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cuddio gweithgarwch anghyfreithlon."

Cafodd blanhigion canabis eu darganfod mewn dau leoliad yn Llanelli
Yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin cafodd cyfanswm o 194 blanhigion eu difa, gyda gwerth o hyd at £264,100.
Cafodd Fatjon Xhafa ei gyhuddo o gynhyrchu canabis ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 24 Mawrth.
Plediodd Martin Evans yn euog i gynhyrchu canabis ac o fod yn gysylltiedig â chyflenwi canabis.
Fe fydd ef hefyd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Mawrth i gael ei ddedfrydu.
Ar Stryd Mansel, Porth Tywyn cafodd bron i 170 o blanhigion canabis eu darganfod oedd gyda gwerth o tua £166,000.
Cafodd Renaldo Allmuca ei gyhuddo o gynhyrchu canabis ond ni chyflwynodd ble yn Llys Ynadon Llanelli ar 26 Chwefror.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 28 Mawrth.

Cafodd 274 planhigyn canabis gwerth dros £255,000 eu darganfod mewn eiddo yn Y Drenewydd, Powys
Fe gafodd bron i 150 o blanhigion eu darganfod ar Gilbert Crescent yn Llanelli gyda gwerth posib o hyd at £113,000.
Plediodd Fabian Cela yn ddieuog o gynhyrchu canabis yn Llys Ynadon Llanelli ar 28 Chwefror. Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 31 Mawrth.
Hefyd yn Llanelli cafodd cyfanswm o 179 planhigyn gwerth £61,600 ar Stryd Cambrian eu darganfod.
Cafodd Muhammed Sulaj ei gyhuddo o gynhyrchu canabis, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Mawrth.
Ar Clifton Terrace yn Y Drenewydd, Powys fe wnaeth y llu ddarganfod 274 planhigyn canabis gwerth dros £255,000.
Cyfaddefodd Ismet Lika, 35 oed, i gyhuddiad o gynhyrchu canabis ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 20 Mawrth.
Mae dynes 49 oed ar fechnïaeth wedi iddi hi gael ei harestio ar amheuaeth o dyfu canabis, tynnu trydan, a meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi canabis ar ôl i'r llu ddod o hyd i dyfiant canabis mewn adeilad allanol yn Llanfihangel-Ar-Arth, Sir Gaerfyrddin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd26 Chwefror