Ateb y Galw: Siôn Emyr
- Cyhoeddwyd
Yr actor Siôn Emyr sy'n Ateb y Galw i BBC Cymru Fyw yr wythnos hon.
Roedd yn actio ar Rownd a Rownd ers yn ifanc iawn ac mae wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad llwyfan yn ddiweddar.
Mae ei berfformiad yn portreadu'r bardd T. H. Parry-Williams yn Congrinero ar daith o amgylch Cymru, dolen allanol ar hyn o bryd.
Dyma ddod i adnabod Siôn ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cynta di?
Un o'n atgofion cynta' i erioed ydi cael eistedd ar y 'motobeic' efo Dad.
Mi o'dd o 'di rhoid fi i eistedd yn y fasged ar flaen y beic a wedyn mi aeth o a ni lawr allt 'oooofnadwy o serth' (fel hyn nes i ddisgrifio hi wrth Mam ar ôl dod adra ma' siwr).
Dwi'n cofio teimlo cyffro ac ofn ar yr un pryd, a dyna sut deimlad ydi camu ar lwyfan i berfformio i mi.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Fymryn yn amlwg ella, ond fedrwch chi ddim curo mynd i gopa'r Wyddfa ar ddiwrnod braf. Mynd a picnic a Myfi, y ci, efo fi.
Dwi'n trio mynd o leia' unwaith y flwyddyn - a bob tro dwi'n mynd, dwi'n deud mod i am redeg Ras yr Wyddfa…'flwyddyn nesa'!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi'n lwcus i ddeud bod 'na lawer ohonyn nhw wedi bod ar hyd a lled y byd - o Shanghai i Efrog Newydd.
Y trafferth ydi trio'i cofio nhw. Ond mi ges i noson wych yn Llundain ar ôl i Gymru guro Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2015! Canu, dathlu a mynd a'r ddraig goch efo ni o gwmpas Llundain - noson fythgofiadwy (ish)!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol, hawddgar a gwirion.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Taid Glasfryn yn tynnu ei ddannedd gosod allan a Nain yn rhoi ffrae iddo fo - ma' nhw dal wrthi! A dwi'n siwr o gael ffrae am rannu hyn!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae gen i atgof clir a poenus iawn o adrodd yn 'Steddfod Bentra' Llanrug pan o'n i'n tua wyth neu naw oed. Mi oedd Llanrug yn bentra' newydd i mi ar ôl i ni symud yno o bentre Ysbyty Ifan, lle o'n i wedi hen arfer adrodd o flaen cynulleidfa mewn neuadd fawr.
Felly, newid lleoliad, ond mi o'n i'n llawn hyder yn camu at y meicroffon i ddeud wrth pawb be' oedd hanes y broga bach - prif gymeriad y gerdd… Dwi'n meddwl mod i wedi llefaru tair llinell cyn i mi ddechrau chwysu, cyn i'r geg ddechrau sychu… a dwi'n cofio Mam druan yn eistedd yn y rhes flaen, efo copi, yn trio'n helpu fi… ond na, mi es i mewn i 'panic mode', dechrau crio a rhedeg o'r llwyfan.
Y peth gwaetha' oedd mod i wedi rhedeg at ddrws oedd wedi cloi, a mi fuodd raid i mi groesi'r llwyfan eto o flaen pawb. 'Nes i ddim adrodd am dipyn ar ôl hynny - a ma'r ofn o anghofio'n llinellau yr un mor ddrwg os nad gwaeth erbyn heddiw!
Pwy a ŵyr pam nes i benderfynu mynd i actio…
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore 'ma. Tra'n ymarfer sioe Congrinero am T.H. Parry-Williams.
Ma'r sioe yn trin a thrafod themâu dwys ar brydiau felly dwi 'di bod yn crio dipyn yn ystod mis Ionawr.
Pan dwi'n actio, dwi'n gweld hi'n reit hawdd bod yn agored yn emosiynol. Ma'n rhan o'r swydd, dwi'n gwybod. Ond mae 'na rywbeth am berfformio yn Gymraeg - ma'r geiriau yn agosach at galon rywun, ma' nhw'n golygu mwy, ac yn hitio rywun yn ddyfnach.
Ond, dwi'n meddwl mod i braidd yn euog o gadw 'nheimladau i mi'n hun yn fy mywyd personol - yn hytrach na rhannu a siarad.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n leidr. Neu, ella mai 'casglwr' ydi'r gair cywir.
Mi fyddai'n cadw/dwyn/casglu un peth o bob cynhyrchiad dwi'n rhan ohono. Ma' hyn yn mynd yn ôl i ddyddiau Rownd a Rownd a'r holl gynyrchiadau fues i'n rhan ohonyn nhw yng Ngholeg Mountview yn Llundain, ac yn parhau hyd heddiw.
Mae gen i focs yn llawn geriach yn yr atig, a phob un yn atgof o ryw sioe neu brosiect. Prop bach neu ddarn o'r wisg ydi'r dewis fel arfer - ma' na sigaret ffug, bachyn i ddal cotiau, sbectol, wig, cwpanau, llyfrau, tinsel, hetiau, kazoo, moustache… ond ella ma'r mwyaf o'u plith nhw ydi llun anferth o'r actor Sion Eifion Roberts a fi yn gwneud sioe Llew a'r Crydd yn Theatr Clwyd.
Mi oedd adeilad Theatr Clwyd yn cael ei wagio ar gyfer ailddatblygiad. (Dwi'n siŵr mod i wedi ryw lêd-ofyn am ganiatad - does 'na neb 'di ffonio yn holi amdano fo beth bynnag!)
Diwedd y stori ydi bod y llun yn rhy fawr o lawer i'w roi mewn unrhyw 'stafell mewn unrhyw dŷ sydd ddim yn 'fansion' - felly yn yr atig mae o hyd heddiw. Ella 'nai gadw at 'gasglu' manion o hyn ymlaen…
Dwi wrthi'n teithio cynhyrchiad Congrinero, sioe am T.H Parry-Williams, a mae 'na gyllell boced handi iawn yn rhan o'r sioe…
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfrau - dydw i ddim yn darllen hanner digon i fod yn onest. Ond mi nes i lwyddo i orffen horwth o lyfr llynedd - Lonesome Dove gan Larry McMurtry. Mi gymrodd hi flwyddyn i mi ddarllen yr 800 tudalen ond mi nes i fwynhau yn fawr.
Os ydw i'n cael fy nhynnu i mewn i fyd y llyfr, a gallu dychmygu'r byd hwnnw, dwi wrth fy modd. 'Nes i fwynhau Pridd gan Llŷr Titus.
Mae A Thousand Splendid Suns gan Khaled Hosseini yn wych, ac wrth y ngwely ar hyn o bryd mae gen i gopi o Raffl gan Aled Jones Williams a Shantaram gan Gregory David Roberts.
Podlediadau 'dyddiol' - The News Agents, Takeaway Trivia a Short History - ac wrth gwrs, Pod Midffîld!
Ffilmiau - Mi fedrai wylio Jurassic Park, Lord of the Rings neu The Grinch unrhyw bryd. Ond pan mae'n dod i'r 'clasuron' mae'n anodd curo Goodfellas, A Few Good Men neu The Shawshank Redemption.
Ond Green Book ydi un o'r ffilmiau gorau i mi weld ers rhai blynyddoedd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Dwi'n meddwl bysa cael diod efo Dylan Thomas yn Efrog Newydd yn brofiad difyr a gwyllt!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi fues i'n byw yn Shanghai am chwe mis yn 2019.
Dysgu drama mewn dwy ysgol wahanol a rhoi cynhyrchiadau Shakespeare ymlaen ar ddiwedd tymor.
Profiad gwych a gwlad ryfeddol. Mi ges i fynd i weld y wal enfawr 'sgynno nhw a theithio i weld Beijing, Hong Kong a Seoul tra o'n i yno.
Dwi'n gobeithio gai fynd yn ôl i weld mwy o'r rhan yna o'r byd rywbryd!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i ben y mynydd agosaf efo potel o gwrw - a chroeso i unrhyw un ymuno.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fel cefnogwr brwd o dîm pêl-droed Lerpwl - fysa cal bod yn Mohammed Salah am ddiwrnod, a sgorio o flaen y Kop yn reit cŵl dwi'n meddwl!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd26 Awst 2024