Ateb y Galw: Lily Beau

lily beauFfynhonnell y llun, Bella Conway
  • Cyhoeddwyd

Y gantores ac actores Lily Beau sy'n ateb y galw yr wythnos hon.

Mae Lily yn gantores o Gaerdydd, ac yn canu mewn sawl steil. Mae hi'n adnabyddus fel actores ar y sgrin: Y Sŵn (2023), Anfamol(2023) a Bariau (2024) ac ar lwyfan: Anthem (2022) a Feral Monsters (2024).

Beth yw eich atgof cyntaf?

Dwi'n cofio hi i fod yng nghanol y nos (probabli mond 7yp oedd hi ond mi oedd hi'n dywyll) ac oedd Mam a Dad yn brysio o gwmpas y tŷ yn pacio picnic.

Dywedon nhw ddim am le o'n ni'n mynd ac fel sypreis, aethon ni i'r sinema fel teulu hwyr un noson ysgol. Sa i’n cofio'r ffilm ond dwi'n cofio eistedd rhwng Mam a Dad yn fodlon iawn.

Ffynhonnell y llun, Fay Summerfield

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mae 'na ormod - 'sdim un hoff le gen i. Merch o Gaerdydd ydw i a dwi'n ffodus iawn i fod wedi cael cyfle i fynd i gymaint o lefydd o'n i ddim yn gwybod gyda gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Ma' Cymru'n class.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Ffeindio ffordd i mewn i'r Brit Awards after-party heb docyn. I have my ways.

Ffynhonnell y llun, Lily Beau
Disgrifiad o’r llun,

Lily yn y parti wedi gowbrau'r BRITS

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Y cyfnod byw yn Llundain pan o'n i'n 16. Mi oedd hi'n anodd ond roedd y cyfleoedd ges i yn fythgofiadwy – dwi'n lwcus iawn.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Pythefnos yn ôl. Am be? Couldn't tell you... diolch misglwyf!

Ffynhonnell y llun, Tim Cubitt
Disgrifiad o’r llun,

Lily'n perfformio ar lwyfan

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n caru gweithio o'r gwely, gan wisgo pyjamas ac esgus bod yn oedolyn wrth ateb ebyst. Ac wrth gwrs ordero Deliveroo arall i fy hun.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fy hoff ffilm i yw Jaws oherwydd mae'n masterpiece. Mae pawb yn sôn am y siarc ffug electronig ond wir i chi, ail-wyliwch y ffilm, mae'r stori wedi'i sgwennu'n berffaith yn fy marn i. A dwed wrtha’i os ydych chi'n ofn nofio yn y môr... am effaith mae'r ffilm wedi ei gael!

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Fi'n teimlo fel dylen i ddweud rhywun hanesyddol a phwysig iawn neu aelod hŷn o'r teulu ond fy ateb i yw Beyoncé. A pham? I roi cyfle iddi hi benderfynu dylen ni fod yn ffrindiau gorau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Beyoncé... ffrind gorau Lily rhyw ddydd?

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dydw i ddim yn Mali Ann Rees na Mel Owen, nag Eadyth.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bwyta gormod o basta gyda fy nghariad, teulu a ffrindiau.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Dwi'n falch iawn o'r sioe gyntaf theatr 'nes i, o'r enw Anthem yng Nghanolfan y Mileniwm. Dwi mor falch o'r cyfnod yna a 'nes i ffrindiau newydd hyfryd a hyd yn oed cwrdd â fy mhartner yn ystod yr adeg yma. Good times.

Ffynhonnell y llun, Johan Persson
Disgrifiad o’r llun,

Rôl theatr gyntaf Lily - Anthem

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Beyoncé...(duh!)

Ffynhonnell y llun, Sian Adler