Gorchymyn cymunedol i gyn-AS am aflonyddu ei chyn-wraig

Roedd Katie Wallis wedi'i chyhuddo o anfon nifer o negeseuon at Rebecca Lovell yn gynharach eleni
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i dedfrydu i orchymyn cymunedol ar ôl cyfaddef aflonyddu ei chyn-wraig.
Roedd Jamie Wallis, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Katie Wallis, wedi'i chyhuddo o anfon nifer o negeseuon at Rebecca Lovell yn gynharach eleni.
Mewn gwrandawiad ym mis Mehefin, fe newidiodd ei phle a chyfaddef i'r cyhuddiad o aflonyddu trwy anfon negeseuon a gwneud galwadau ffôn.
Hi oedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024, a'r AS cyntaf i gychwyn y broses o drawsnewid ei rhyw yn agored.
Cafodd orchymyn cymunedol am gyfnod o 12 mis, a gorchymyn i beidio â chysylltu â'i chyn-wraig am flwyddyn.
Clywodd y llys ei bod hi wedi anfon nifer o negeseuon WhatsApp ac wedi gadael neges llais ar ffôn ei chyn-wraig, ym mis Chwefror.
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
- Cyhoeddwyd19 Mai
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
Roedd y negeseuon yn cynnwys rhegfeydd ac yn ei chyhuddo o'i hanwybyddu. Mewn un neges, fe ofynnodd am £350,000 gan ei chyn-wraig o fewn chwarter awr.
Mewn neges arall fe gyhuddodd hi ei chyn-wraig o fod yn oeraidd, ac o beidio â chymryd cyfrifoldeb dros bethau.
Bu'n gofyn sawl tro am fanylion ynglŷn â chariad newydd Ms Lovell.
Cafodd datganiad gan Rebecca Lovell yn amlinellu effaith y troseddau ei ddarllen gan yr erlyniad.
Bu'n sôn ei bod dan bwysau mawr ar ôl derbyn y negeseuon, ac yn byw mewn ofn, gyda'r pwysau o ddisgwyl rhagor o negeseuon.
Dywedodd bod y 10 mlynedd diwethaf wedi'i dinistrio hi, a'i bod wedi cael llond bol o geisio cadw wyneb yn gyhoeddus.
'Ddim yn cofio diwrnod lle nad ydw i wedi crio'
Clywodd y llys hefyd ei bod hi wedi gosod camera CCTV yn ei chartref, er mwyn iddi geisio teimlo'n ddiogel.
"Dydw i ddim yn cofio diwrnod lle nad ydw i wedi crio," meddai.
Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas am 15 mlynedd, ac wedi gwahanu yn 2020. Cafodd eu hysgariad ei gwblhau yn 2024.
Dywedodd Narita Bahra KC, ar ran yr amddiffyniad bod adroddiad meddygol yn dangos bod Wallace dan bwysau mawr ar y pryd wrth iddi fynd trwy'r broses o drawsnewid ei rhyw.
Roedd hi'n dioddef o PTSD, ac roedd hynny, meddai, wedi amharu ar ei hymddygiad yn y cyfnod dan sylw.
Roedd 'na dystiolaeth yn y negeseuon, meddai, bod Katie Wallis wedi ymddiheuro i'w chyn-wraig, a bod yn edifar ganddi am yr hyn wnaeth hi.

Dywedodd Ms Bahra KC ei bod hi'n siomedig bod Heddlu'r De a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dangos diffyg cydymdeimlad a dealltwriaeth o'r sefyllfa, trwy benderfynu bwrw ymlaen â'r achos.
Clywodd y llys fod y cyn-Aelod Seneddol wedi'i harestio gan yr heddlu ym mis Chwefror eleni, a'i hanfon i ysbyty o dan amodau'r ddeddf iechyd meddwl.
Dywedodd y barnwr Rhys Williams wrth Katie Wallis ei bod hi wedi anfon nifer o negeseuon oedd yn achosi loes i'w chyn-wraig, a'i fod hefyd wedi ystyried y dystiolaeth feddygol yn cyfeirio at ei chyflwr.
Cafodd Katie Wallis orchymyn cymunedol am 12 mis, sy'n cynnwys gorfod gwneud gwaith adferol. Mae'n gorfod talu cyfanswm o £1264 o ddirwy a chostau.
Mae hefyd wedi'i gwahardd rhag cysylltu â'i chyn-wraig, na mynd i'w chartref na'i gweithle am gyfnod o 12 mis.