Cyn-AS yn gwadu aflonyddu ar ei chyn-wraig

Katie WallisFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Katie Wallis yn cyrraedd y llys fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-AS Pen-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o aflonyddu ar ei chyn-wraig.

Fe wnaeth Jamie Wallis, 40, sydd yng nghanol trawsnewid rhyw a bellach yn cael ei hadnabod fel Katie Wallis, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Hi oedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024.

Wallis oedd yr AS cyntaf i gychwyn y broses o drawsnewid ei rhyw yn agored.

Mae'r diffinydd, o Dre-biwt yng Nghaerdydd, wedi ei chyhuddo o aflonyddu Rebecca Wallis rhwng 14 Chwefror a 21 Mawrth 2025, gan wneud galwadau ffôn diangen, gyrru negeseuon a negeseuon llais ati, a gyrru heibio ei chartref.

Ni wnaeth y llys gynnig unrhyw dystiolaeth mewn cysylltiad â chyhuddiad blaenorol o stelcian.

Wrth bledio'n ddieuog i aflonyddu (harassment) heb drais, dywedodd Katie Wallis: "Yn gyfreithiol dwi'n cael fy adnabod fel Jamie, ond mae'n well gen i gael fy adnabod fel Katie."

Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd Narita Bahra KC y byddai'n gwneud cais am adroddiad seiciatrig am ei chleient cyn yr achos.

Cafodd yr achos ei ohirio hyd at fis Mehefin.