Teyrnged i ddyn ifanc 'cynnes a thyner' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Alex James Edwards, oedd yn gweithio fel prentis gyda chwmni Technocover Ltd, yn 22 oed ac yn dod o Gegidfa.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad fod natur "cynnes, cyfeillgar a thyner Alex yn gadael argraff barhaol ar y rhai a ddaeth i'w adnabod".
“I'r rhai oedd yn ei garu, bydd colled enfawr ar ei ôl sydd y tu hwnt i eiriau."
Mae ymchwiliad yr heddlu i’r gwrthdrawiad yn parhau.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar y B4393 ger Llandrinio am 07:20 fore Llun.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn galw ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y B4393 ger pont Llandrinio ar y pryd, i gysylltu â nhw.