Gwisgo masgiau mewn ysbytai yn sgil pryderon am y ffliw
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i gleifion, staff a phobl sy'n ymweld ag ysbytai yn ne Cymru wisgo masgiau yn sgil pryderon am gynnydd mewn achosion o'r ffliw.
Mae byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Hywel Dda, Aneurin Bevan a Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi'r rheolau yn ymwneud â gwisgo masgiau o ddydd Gwener ymlaen.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cynnydd yn nifer y bobl yng Nghymru sydd â symptomau'r ffliw.
Dywedodd un bwrdd iechyd eu bod yn cyhoeddi'r rheolau gan fod y ffliw "yn fygythiad gwirioneddol i iechyd cleifion".
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro bod yn rhaid i bobl wisgo masgiau yn eu hardaloedd asesu, adrannau brys a'u hardaloedd aros "oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion o ffliw yn y gymuned ac ar safleoedd ein hysbytai".
Ychwanegodd llefarydd bod disgwyl i nifer yr achosion o'r ffliw godi i'w lefel uchaf erbyn diwedd wythnos nesaf, gan annog pobl i beidio ymweld ag ysbytai os oes ganddyn nhw symptomau.
Yn ôl bwrdd iechyd Hywel Dda mae 'na gyfyngiadau pellach yn eu huned gofal dwys yn Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli.
Mae Meinir Williams, dirprwy bennaeth nyrsio yn yr ysbyty, yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw blynyddol er mwyn rheoli nifer yr achosion.
Mewn datganiad, dywedodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg: "O heddiw ymlaen (dydd Gwener) rydyn ni'n gofyn i chi wisgo mwgwd wrth i chi gyrraedd er mwyn ceisio atal achosion o'r ffliw.
"Rydyn ni'n gweld cynnydd yn nifer yr achosion o'r ffliw yn ein hysbytai ac mae gwisgo mwgwd yn ffordd effeithiol o warchod eich hunain.
"Os ydi rhywun yn dod â ffliw i ysbyty, mae'n gallu bod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd cleifion ac achosi salwch ymhlith ein staff, felly rydyn ni angen gwneud popeth allwn ni i gadw'r feirws draw."
Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi cyflwyno rheolau tebyg "er mwyn gwarchod cleifion bregus".