'Wnes i bron marw ddwywaith ar ôl peidio cael brechiad ffliw'

Scott BlackwellFfynhonnell y llun, Scott Blackwell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Scott Blackwell mewn coma ar ôl cael y ffliw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei roi mewn coma a bron a marw ddwywaith ar ôl dal y ffliw, yn dweud ei fod yn teimlo'n "hunanol" am beidio â chael brechiad.

Mae Scott Blackwell, 44 o Wrecsam, yn gymwys i gael pigiad ffliw am fod ganddo’r fogfa neu asthma, ond dewisodd beidio gwneud gan ei fod yn "rhy brysur".

Pan gafodd ffliw ychydig flynyddoedd yn ôl - fe ddirywiodd ei iechyd cymaint fel y penderfynodd meddygon ei roi mewn coma.

Cafodd ei deulu eu galw i'r ysbyty ddwywaith, gyda staff yn dweud mai hanner awr "ar y mwyaf" fyddai ganddynt wrth ei ochr.

Mae'r peiriannydd yn cefnogi'r alwad ar bawb sy'n gymwys am frechiad ffliw i dderbyn y cynnig - gyda Llywodraeth Cymru'n rhybuddio mai dim ond ychydig o amser sydd gan bobl i amddiffyn eu hunain cyn i firysau ledaenu'n eang y gaeaf hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Scott Blackwell ei fod yn agos at farw ddwywaith

Mae Dirprwy Brif Feddyg Llywodraeth Cymru - Dr Keith Reid yn poeni nad oes digon o bobl sydd â chyflyrau iechyd a all gynyddu'r risg, wedi manteisio ar y cynnig o frechiad am ddim.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod llai na 30% o oedolion iau sy'n gymwys wedi derbyn brechiad o gymharu â 62% o bobl 65 oed a throsodd.

Nid 'annwyd trwm' yw'r ffliw

"I bobl sydd â chyflyrau iechyd cronig, nid 'annwyd trwm' yw'r ffliw. Heb gael eu brechu, gallai arwain at salwch difrifol a gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty ar frys.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw llawer o bobl ifanc sydd â chyflyrau fel asthma neu ddiabetes wedi cael yr amddiffyniad hanfodol hwn eto.

"Mae brig tymor y firysau yn agosáu. Os ydych chi'n gymwys, nawr yw'r amser i gael eich brechiadau rhag y ffliw a Covid-19.

"Maen nhw am ddim ac yn ddiogel a dyma'r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag cymhlethdodau difrifol. Mae hefyd yn fwy cyfleus erbyn hyn oherwydd fe allwch chi gael y ddau frechiad ar yr un pryd."

Ffynhonnell y llun, Scott Blackwell
Disgrifiad o’r llun,

"Ro'n i wedi dirywio mewn 15, 20 munud," meddai Scott

Sylwodd Scott fod ganddo symptomau'r ffliw ychydig ddyddiau cyn iddo gael ei ganfod yn anymwybodol gan gydweithiwr ar 31 Rhagfyr, 2019.

Cafodd ei ruthro i'r ysbyty yn Wrecsam, lle darganfuwyd nad oedd ocsigen yn cyrraedd ei ymennydd, a datblygodd broblemau anadlu difrifol.

"Ro'n i wedi dirywio mewn 15, 20 munud, o frwydro gyda fy anadlu, i fod mewn cyflwr difrifol iawn gyda thîm yn ceisio achub fy mywyd," meddai.

Ychwanegodd: "Fe wnes i ddirywio i'r fath raddau nes bod fy nheulu wedi cael eu galw i mewn am 04:00, a dweud mwy neu lai 'rydych chi'n mynd i ddweud eich hwyl fawr olaf'."

Fodd bynnag, fe ddaeth drwyddi rywsut a chafodd ei symud i ysbyty yng Nghaerlŷr a'i roi ar beiriant anadlu arbenigol.

Ond gwaethygodd ei gyflwr unwaith eto a chafodd ei deulu eu galw i'r ysbyty unwaith eto.

Ar ôl goroesi fe wynebodd Scott heriau am fisoedd lawer - yn cynnwys gorfod dysgu cerdded unwaith eto heb gymorth.

"Roedd o'n uffernol os dwi'n onest. Roedd o'n ofnadwy."

"Mae'n gwneud i mi deimlo ychydig yn hunanol mewn gwirionedd oherwydd roeddwn i wedi sugno cymaint o adnoddau.

"Roeddwn i'n dibynnu ar dimoedd brys a gofal dwys - siaradais â nyrs a dywedodd hi bod y driniaeth oeddwn i'n ei dderbyn yn costio £100,000 y dydd, yn cynnwys bod ar beiriant anadlu.

"Hefyd rwy'n teimlo dros fy nheulu, yr hyn rydw i wedi rhoi fy nheulu drwyddo, nid dim ond y dioddefaint pan oeddwn i yn sâl iawn ond wedyn am nad oeddwn i’n gweithio am naw mis.

"Rwy'n teimlo'n hunanol nad oeddwn wedi cael brechiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe anghofiodd Scott gael ei bigiad ffliw "oherwydd prysurdeb bywyd"

Ar y pryd, roedd Scott a'i bartner yn brysur yn edrych ar ôl eu mab dyflwydd oed ac fe anghofiodd gael ei bigiad ffliw "oherwydd prysurdeb bywyd".

Mae'n dweud bod trawma ei salwch "yn mynd i bara am oes" a'i neges i unrhyw un sy'n gymwys i gael pigiad yw: "Gwnewch hynny. Does dim byd yn bwysicach.

Annog Gweithwyr Iechyd a Gofal

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cael eu hannog yn gryf i fanteisio ar y brechiad ffliw, er mwyn amddiffyn eu hiechyd wrth iddyn nhw ofalu am eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rydyn ni'n hynod o ffodus yng Nghymru bod gennym raglen genedlaethol brechu rhag y ffliw i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd y feirws.

"Mae'r rhaglen hefyd ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cadw'n iach dros fisoedd heriol y gaeaf.

"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fynd i gael eu hamddiffyn cyn gynted â phosib."

Y nifer sy'n cael salwch difrifol wedi codi

Yn ystod y pandemig, gwelwyd gostyngiad sydyn yn lledaeniad y ffliw, yn bennaf oherwydd y mesurau a'r cyfyngiadau a oedd ar waith i atal Covid-19 rhag lledaenu, ond ers hynny, mae nifer y bobl sy'n wynebu salwch difrifol wedi codi.

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Ffliw Cymru, yr Athro Catherine Moore: "Ers y pandemig, rydyn ni wedi gweld y ffliw yn lledaenu eto, gyda mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd cymhlethdodau, rhai y gellid bod wedi eu hatal â brechiadau.

"Bob gaeaf, rydyn ni'n gweld mwy o bobl sydd â chyflyrau niwrolegol, cyflyrau anadlol cronig, cyflyrau ar yr iau a'r galon yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac yn cael triniaeth gofal dwys yn sgil cymhlethdodau oherwydd y ffliw neu oherwydd ei fod wedi gwaethygu salwch sydd gan yr unigolyn eisoes. Yn anffodus, bydd cyfran o'r bobl hyn yn marw o ganlyniad."

Ychwanegodd bod problemau dwys yn gallu taro'r rhai sydd â diabetes a menywod beichiog.

Neges Llywodraeth Cymru yw fod gan unrhyw un sy'n gymwys i gael brechiad rhag Covid-19 neu'r ffliw amser o hyd i gael eu hamddiffyn cyn brig tymor y firysau yn ystod y gaeaf.

Gall pobl ddod o hyd i wybodaeth am sut i dderbyn brechiadau yn eu hardal nhw ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig