Rhestrau aros iechyd ar eu huchaf erioed unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros iechyd yng Nghymru wedi parhau i gynyddu am yr wythfed mis yn olynol - gan osod record newydd.
Roedd ychydig dros 801,300 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Medi, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Digidol a Gofal Cymru.
Er hyn, mae'r rhai sy'n aros hiraf - dros ddwy flynedd - wedi gostwng.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles, a gyhoeddodd £22m yn ychwanegol er mwyn taclo'r broblem yn gynharach yn yr wythnos hon, ei fod yn gobeithio y bydd y "cynnydd cadarnhaol" yn parhau.
Ond mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi rhybuddio nad yw'r arian ychwanegol am ddatrys y broblem dros nos.
Roedd ychydig o welliant yn amseroedd ymateb ambiwlans yn y ffigyrau diweddaraf.
Ond roedd amseroedd aros unedau brys, y targed cleifion allanol a thriniaethau canser wedi gwaethygu.
Roedd 23,701 wedi bod ar restr aros am dros ddwy flynedd ym mis Medi - 492 yn llai nag ym mis Awst, pan fu pum mis yn olynol o gynnydd.
Roedd 169,262 wedi bod yn aros dros flwyddyn - 440 yn llai na'r mis blaenorol.
Ond mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ymhell ar y blaen i Gymru o ran taclo'r rhestrau aros hiraf ar ôl y pandemig, gyda dim ond 3.3% o'r holl gleifion yn gorfod aros blwyddyn neu fwy, o'i gymharu â 23.3% yng Nghymru.
Tra bod dros 23,000 yng Nghymru yn gorfod aros dros ddwy flynedd i gael eu trin, 113 yw'r ffigwr yn Lloegr.
Gan fod rhai cleifion ar fwy nag un rhestr aros, mae'n cael ei amcangyfrif bod 618,171 o unigolion yn aros - sy'n cyfateb â phoblogaeth Caerdydd ac Abertawe wedi'u cyfuno.
Yn ystod Ymchwiliad Covid y DU ddydd Mercher, fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan ddweud fod lle mewn ysbytai yn broblem, ac mai dim ond 172 o welyau preifat ar draws Cymru y gellir eu defnyddio.
Dywedodd Mr Miles y byddai swm o £50m yn helpu i gynyddu lle mewn ysbytai, gan gynnwys o fewn y sector preifat.
“Rydym yn cydnabod yr effaith y gall aros yn hir am driniaeth ei chael ar fywyd rhywun, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae gennym ffocws uniongyrchol ar leihau'r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal cleifion," meddai.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y ffigyrau'n dangos fod GIG Cymru wedi cyrraedd "pwynt o argyfwng".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd24 Hydref