Cyfraddau ffliw ar gynnydd, a disgwyl i niferoedd godi

ffliwFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfraddau ffliw yng Nghymru yn cynyddu, gyda dros 650 o achosion wedi eu cofnodi yn y gymuned yn ystod yr wythnos ddiweddaraf o ddata.

Mae disgwyl i'r ffigyrau godi eto yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i achosion o'r ffliw gyrraedd eu hanterth.

Mae'r ffliw wedi taro pobl yn gynt eleni, gyda thair gwaith cymaint o gleifion ysbyty yn dioddef o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Yn ôl y ffigyrau roedd hanner y cleifion â ffliw wedi ei gael tra yn yr ysbyty.

Yn swyddogol mae'r cyfraddau ar lefel canolig, ac eisoes mae 21% o gleifion a gafodd brawf mewn ysbytai yn bositif am ffliw, sydd i fyny o 7% tua mis yn ôl.

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod llai o bobl dan 65 oed a llai o weithwyr y GIG wedi'u brechu rhag y ffliw eleni o gymharu â 2023.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod rhestrau aros wedi cynyddu eto a hynny am y nawfed mis yn olynol a nodir hefyd bod dirywiad ym mherfformiad unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans.

Amcangyfrifir bod 620,311 o unigolion bellach yn aros am driniaeth - y nifer mwyaf erioed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddelio â'r rhestrau aros hir ond fe wnaeth y rhai sy'n aros am driniaeth ers dros flwyddyn a dwy flynedd gynyddu yn ystod mis Hydref.

Mae 40% o'r rhai sydd ar y rhestr aros am gyfnod hir yng ngogledd Cymru, tra bod chwarter y rhai sydd wedi bod yn aros ers dwy flynedd am driniaeth yn disgwyl am driniaeth offthalmoleg, sef triniaeth ar gyfer y llygad.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles: "Ar y cyfan, mae arosiadau dwy flynedd am driniaeth bellach bron i ddwy ran o dair yn is nag ar eu hanterth yn ystod y pandemig.

"Rydyn ni'n disgwyl gweld y rhain yn gostwng yn sylweddol dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau gweld effaith y £50m ychwanegol i leihau amseroedd aros hir."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ffigyrau yn dangos bod perfformiad ambiwlansys wedi gwaethygu - 47.6% o "alwadau coch" sy'n bygwth bywyd wnaeth gyrraedd y targed o ymateb mewn wyth munud.

Nid yw'r targed wedi'i gyrraedd ers 52 mis.

Gwaethygodd perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys hefyd, gyda 67.6% o gleifion yn cael eu gweld o fewn yr amser targed o bedair awr.

Roedd 1,473 o gleifion yn ddigon iach i adael yr ysbyty ond wedi gorfod aros yno oherwydd nad oedd asesiad neu'r cymorth gofal cymdeithasol cywir yn barod.

Dyma'r nifer isaf ers cyhoeddi'r ffigyrau am y tro cyntaf y llynedd.

Roedd gwelliant ym mherfformiad canser. Er yn is na'r targed, fe wnaeth 58% o bobl yr amheuir bod canser arnynt ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, James Evans, fod y gwasanaeth iechyd wedi torri a bod Llywodraeth Cymru wedi "torri eu haddewid wrth i gleifion barhau i aros mewn poen am driniaeth".