Ymgyrchwyr yn erbyn codi peilonau yn pwyso eto am roi ceblau dan ddaear

Disgrifiad,

Pryder trigolion Dyffryn Tywi am gynllun peilonau

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n erbyn cynllun i adeiladu peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn dweud na fyddai claddu'r ceblau dan ddaear yn llawer drutach na chodi rhai cyffredin.

Bwriad y cynllun yw adeiladu llwybr o beilonau uchder 27 metr dros 60 milltir, i gysylltu parc ynni Bute Energy yn Nant Mithil, Powys gyda'r grid presennol yn Llandyfaelog.

Mae Grŵp Gweithredu Cymunedol Peilonau Llanymddyfri yn dadlau fod ymchwil newydd yn dangos fod y gost o danddaearu ceblau "gyfwerth â'r gost o redeg y peilonau trwy'r dyffryn".

Ond yn ôl llefarydd Green Gen Cymru, sydd tu ôl i'r cynllun, byddai'r gost o danddaearu "tua phum gwaith yn ddrutach".

peilonau
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun yw i godi peilonau tebyg i'r rhain, sy'n ymestyn tua 60 milltir

Yn ôl gwrthwynebwyr y cynllun, byddai claddu'r peilonau yn helpu sicrhau eu bod yn gwrthsefyll tywydd garw, ac yn lleihau effaith ar amaeth, gwerth eiddo, a thwristiaeth.

Mae grŵp peilonau Llanymddyfri hefyd yn dadlau mai cost defnyddio'r dechnoleg aredig ceblau yw tua £1m y cilometr.

Yn ôl Dyfan Walters, cyd-gadeirydd y grŵp: "O'r gwaith ymchwil ry' ni wedi 'neud fel grŵp, ry' ni yn profi fod y costau o danddaearu yn debyg iawn i gost y peilonau."

Ychwanegodd fod "shwd gyment o ffermwyr a bobl yr ardal yn erbyn y cynlluniau - ry' ni yn aros yn gryf gyda'n gilydd".

Cyd-gadeirydd arall y grŵp yw Eirian Edwards, sy'n pwysleisio nad ydyn nhw'n erbyn ynni gwyrdd.

"[O]nd ma' rhaid cael gwell ffordd o drosglwyddo trydan yn lle dibynnu ar dechnoleg o ddechre'r ganrif ddiwethaf," meddai.

Dyffryn Tywi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alys yn teimlo fod y galw am danddaearu'r ceblau ar draws Dyffryn Tywi yn cynyddu

Mae rhai o fy nghyd-ddisgyblion yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, hefyd wedi bod yn dweud wrtha'i eu bod yn bryderus.

Yn ôl Elizabeth, "bydd cael y peilonau yma yn golygu y byddwn ni yn colli twristiaid a'r golygfeydd hyfryd yma sydd o'n cwmpas ni".

Mae Osian yn poeni am yr effeithiau economaidd yn yr hir dymor.

Er bod Green Gen yn addo byddai cronfa buddsoddi gymunedol yn rhan o'r cynllun, er budd y rhai sydd agosaf at y seilwaith a'r cymunedau ar hyd y llwybr, mae'n poeni y bydd llai o arian yn cyrraedd pocedi pobl leol oherwydd bydd ymwelwyr yn cadw draw.

Dywed Ifan fod y drafodaeth yn adleisio be sydd wedi digwydd yng Nghymru dros y canrifoedd: "Mae e yn ymwneud â'r strygl am ein tir ni a'n hanes. Mae ryw symudiad fan hyn."

Elizabeth, Osian ac Ifan, Ysgol Bro Dinefwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elizabeth, Osian ac Ifan o Ysgol Bro Dinefwr, yn poeni am effaith y peilonau ar dwristiaeth.

Mae Green Gen yn mynnu fod eu cynllun yn ymateb i'r galw am ynni ac yn gwrando ar farn bobl leol.

Yn ôl llefarydd Green Gen Cymru, sydd tu ôl i'r cynllun, byddai'r gost o danddaearu "tua phum gwaith yn ddrutach".

"Os ydych chi'n edrych ar gwmnïau eraill fel y National Grid, mae'r ffigyrau yma yn cyfateb," meddai Owen Jones.

Bydd y cynllun yn fodd o helpu'r Senedd i gyrraedd ei tharged o net sero erbyn 2050.

Alys o Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Alys o Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, yw enillydd Gohebydd ifanc BBC Cymru eleni

Rwyf wedi llwyddo i ddysgu llawer am y cynllun dadleuol hwn dros yr wythnosau diwethaf ond dyw'r stori ddim eto ar ben.

Rwy'n teimlo fod ansicrwydd ymhlith pobl leol, ac mae'r galw am danddaearu yn cynyddu.

Ar yr un pryd, mae cwmni Green Gen yn dadlau eu bod nhw'n ystyried "pob opsiwn" ar gyfer gosod y ceblau trydan ac y bydd "cyfuniad o dechnolegau'n cael eu defnyddio".

Mae ardal Dyffryn Tywi wedi gweld sawl brwydr ffyrnig yn y gorffennol. Mae'r cestyll lleol fel Carreg Cennen a Dinefwr yn dyst o hynny.

Ond mae brwydr wahanol a chyfoes ar y gweill nawr a beth fydd pen draw'r stori? Amser a ddengys.

Pynciau cysylltiedig