Tua 250 o bobl mewn cyfarfod yn erbyn peilonau Dyffryn Tywi
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud wrth gyfarfod bod "rhaid dweud Na i beilonau yn ardal Dyffryn Tywi sydd yn ardal o harddwch arbennig".
Roedd y cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri nos Wener yn orlawn gyda tua 250 yn bresennol.
Dywedodd Adam Price - yr aelod lleol yn y Senedd - bod "pawb yn cefnogi yr angen i symud tuag at ynni adnewyddadwy ond mae'n rhaid creu'r isadeiledd yn y ffordd iawn".
Mae cwmni Bute Energy yn awyddus i greu rhwydwaith o beilonau i gysylltu fferm wynt arfaethedig Nant Mithil ym Mhowys gyda'r grid cenedaethol ger Pont Abraham.
Bydd bob peilon tua 27 metr o uchder, ac yn cael eu codi am bellter o dros 60 milltir.
Yn ôl y cwmni fe allai'r fferm wynt gynhyrchu dros 200MW o ynni glân ar gyfer dros 200,000 o gartrefi yng Nghymru.
Dywedodd Mr Price: "Beth ry'n ni'n dadlau wrth gwrs yw os ydy ni'n buddsoddi mewn isadeiledd i'r hir dymor, dylen ni wneud hynny drwy warchod yr ardaloedd o sensitifrwydd amgylcheddol a harddwch trwy osod y gwifrau dan ddaear yn hytrach na defnyddio peilonau, sef yr opsiwn rhataf."
'Pobl eisiau claddu nhw'
Fe gadeiriwyd y cynllun gan Rachel Evans, Cadeirydd y Cynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru.
"Fi ffili credu faint o bobl sydd wedi troi mas i ddechrau. Mae crowd ryfeddol yma. Fi'n credu fod pawb jyst â bod ddim eisiau gweld y peilonau hyn yn yr ardal neu hyd yn oed dros Gymru. Fi'n credu bod y neges wedi bod yn eitha cryf. Mae'r bobl eisiau claddu nhw."
"Ni'n aros nawr i weld y consultation gan Green Gen a Bute Energy. Mae'r drws ar agor i nhw siarad gyda'r ffermwyr a'r rhai sydd yn berchen y ddaear ffordd hyn. Gewn ni weld beth sydd gyda nhw i roi ar y ford ac ewn ni o man'na 'mlaen.
"Ni'n siarad ambwyti newid ein cefn gwlad ac mae rhaid meddwl pa effaith bydd hyn yn cael ar bobl cefn gwlad a'n cymunedau gwledig. Dwi'n falch i glywed bod y Gweinidog, Julie James, wedi dweud taw polisi Llywodraeth Cymru yw i gladdu'r cables hyn."
Yn ôl Ross Evans o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig "roedd yna rwystredigaeth a chasineb" tuag at y cynlluniau i godi peilonau.
Dywedodd Mr Evans y dylai unrhyw ffermwyr neu dirfeddianwyr gysylltu gyda'r Ymgyrch i Ddiogelu Cymru Wledig os oes ganddyn nhw bryderon.
"Ni'n dal i aros am y cynllun gan Bute, fydd yn mynd trwy broses DNS neu Datblygiadau o Arwyddocad Cenedlaethol. Mae yna oblygiadau statudol wedyn i'r cwmni ymgynghori. Mae'n rhaid i ni wedyn asesu y cais a'r llwybr.
"Mae'n glir i ni bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu yn glir y dylsai gwifrau trydan newydd gael eu claddu."
'Pam fan hyn?'
Mae Eirian Edwards yn ffermio ger Llanymddyfri.
"Roedden nhw eisiau gwneud apwyntiad i ddod i weld ni ond wedes i bod dim diddordeb gyda fi a wedyn bwyti wythnos ar ôl 'ny jyst troion nhw lan ar y ffarm moyn siarad," meddai.
"Gwrandewais i am dipyn bach ond wedes i bod diddordeb 'da ni yn y prosiect. Dwi methu deall pam maen nhw eisiau gwneud y route hyn. Pam 'dyn nhw ddim eisiau mynd draw am Loegr, draw at ardal Henffordd?"
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at wneud Cymru yn genedl Sero Net erbyn 2050 a'r gobaith yw y bydd Cymru yn cynhyrchu anghenion trydan y wlad o ffynonellau adnewyddawy erbyn 2035.
Cyfle i leisio barn
Doedd neb o Bute Energy yn y cyfarfod yn Llanymddyfri, ond dywedodd Aled Rowlands, llefarydd ar ran y cwmni: "Yn yr wythnosau nesaf mi fyddwn ni rhoi allan ein cynlluniau ac esbonio pam 'dan ni wedi rhoi'r cynllun yma 'mlaen.
"Fe fyddwn ni gofyn i bobl roi eu barn nhw ar beth yw ein cynlluniau ni. A rhan o hynny fydd dangos pam 'da ni'n meddwl mai dyma'r ymateb cywir.
"Beth sydd wedi bod yn galonogol dros yr wythnosau diwetha yw bod pobl yn deall bod eisiau i ni gael ynni cynaliadwy a hefyd bod eisiau i ni gael y grid i sicrhau bod yr ynni yna ar gael i'n tai a'n busnesau ond hefyd bod budd yn dod i ardaloedd gwledig yn y dyfodol er mwyn byw bywydau net sero.
"Mi fyddwn ni yn creu grid fydd yn gweithio i'r genhedlaeth yma a'r genhedlaeth nesaf. Ni'n gofyn i bobl i ddod i weld y cynllun ac i roi eu barn."
Mewn cyfweliad dywedodd Mr Rowlands y bydd yr ymgynghoriad yn agor mewn pythefnos ac fe fyddan nhw yn gofyn am adborth gan y cyhoedd.
Yn ôl y cwmni, fyddan nhw ddim yn cyflwyno'r cais i Lywodraeth Cymru tan 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019