Dwy lywodraeth yn rhoi £1m i ymchwilio i lygredd afon

Mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio bod y Gwy yn "afon sydd ar farw"
- Cyhoeddwyd
Mae cronfa gwerth £1m wedi'i chreu er mwyn ymchwilio i achosion llygredd a gwella ansawdd dŵr yn Afon Gwy.
Dywedodd gweinidogion Llafur yn llywodraethau Cymru a'r DU y byddai'r arian yn sefydlu "rhaglen ymchwil drawsffiniol gynhwysfawr".
Ychwanegon nhw y byddai gan ffermwyr lleol a grwpiau amgylcheddol "ran hanfodol i'w chwarae" yn y gwaith.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad rhybuddiodd ymgyrchydd blaenllaw bod yna "lot fawr iawn o waith i'w wneud" er mwyn helpu adfer yr afon.
Her gyfreithiol
Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â pharhau â chynllun blaenorol gwerth £35m ar gyfer yr afon a gafodd ei gyhoeddi gan y Ceidwadwyr y llynedd.
Mae'r afon, sy'n llifo o ganolbarth Cymru i Fôr Hafren, wedi'i gwarchod oherwydd ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt ac wedi'i dynodi yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardal gadwraeth arbennig.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn symbol drwy Brydain o'r dirywiad yng nghyflwr afonydd, ar ôl i gorff Natural England israddio'i statws i "anffafriol - gwaethygu".

Mae Afon Gwy yn dechrau yn Ffynnon Gwy, Sir Faesyfed, ac yn gorffen ym Môr Hafren
Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio bod llygredd amaethyddol a charthffosiaeth, yn ogystal ag effeithiau newid hinsawdd, wedi arwain at ordyfiant algae, gan newynu'r afon o ocsigen ar gyfer pysgod, pryfed a phlanhigion.
Mae mwy na 2,000 o bobl a busnesau lleol wedi uno i ddwyn her gyfreithiol yn erbyn cwmnïau sy'n ymwneud â ffermio dofednod ar raddfa fawr yn lleol ynghyd â Dŵr Cymru.
Mae tua 24 miliwn o ieir, sef chwarter cynhyrchiad dofednod y DU, yn cael eu cadw yn nalgylch yr afon.
Yn y cyfamser, mae'r pwysau am weithredu gan lywodraethau Cymru a'r DU yn parhau - gydag aelodau seneddol Sir Henffordd wedi cynnig deddfwriaeth newydd yn ddiweddar fyddai'n gorfodi ymdrech i lanhau'r afon.

Mae Dyffryn Gwy wedi'i dynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Dywedodd Simon Evans, prif weithredwr Sefydliad Gwy ac Wysg fod yr afon yn dioddef o nifer o broblemau cymhleth.
"Ry'n ni'n cael gormod o achosion o lif uchel, gormod o gyfnodau lle mae'r llif yn rhy isel hefyd - mae gynnon ni ormod o faetholion, o blaladdwyr ac o bridd yn yr afon," meddai.
"Prin iawn" yw'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith monitro ac ymchwilio i achosion y trafferthion ar y funud, felly "os yw'r £1m yma ar gyfer hynny fe fydd wedi'i wario yn hynod dda," ychwanegodd.
Ond roedd yna "lot fawr iawn o waith i'w wneud" - a gallai gymryd blynyddoedd i adfer yr afon, rhybuddiodd.
'Cam pwysig' i amddiffyn yr afon
Croesawodd Dŵr Cymru'r cyhoeddiad gan ddweud eu bod wedi gwario £80m yn y blynyddoedd diwethaf ar waith gwella ar hyd Afon Gwy.
"Bydd adfer ein hafonydd yn cymryd ymdrech ar y cyd gydag amryw o sectorau ac rydym yn falch iawn o fod ar flaen y gad yn y gwaith yma.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i amddiffyn yr amgylchedd o ddifrif, a dros y pum mlynedd nesaf yn buddsoddi £2.5 biliwn o bunnau i wella'r amgylchedd.
"Gwanwyn diwethaf fe gwblhawyd saith cynllun buddsoddi flwyddyn yn gynnar, oedd yn gyfanswm o £53m ar Afon Gwy.
"Mae hyn hefyd yn dilyn amryw o gynlluniau eraill ar yr afon yn y blynyddoedd diwethaf sydd yn fuddsoddiad o £80m i gyd yn yr ardal."

Roedd yn braf gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio ar afon sy'n croesi ffiniau Cymru a Lloegr, meddai Simon Evans
Bydd y ddwy lywodraeth yn cyfrannu £500,000 yr un i'r gronfa ymchwil newydd.
Mae disgwyl i ddirprwy brif weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies AS, a gweinidog dŵr Llywodraeth y DU, Emma Hardy AS, wneud y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â'r afon i gwrdd â grwpiau a gwleidyddion lleol.
Bydd y rhaglen ymchwil yn craffu ar ffynhonellau llygredd sy'n effeithio ar yr afon, meddai'r gweinidogion.
Bydd hefyd yn astudio effeithiau newid arferion ffermio, datblygu a phrofi ffyrdd newydd o wella ansawdd dŵr ac archwilio'r hyn sy'n gyrru dirywiad mewn bywyd gwyllt a llif dŵr.
Dywedodd Mr Irranca-Davies bod hyn yn "gam pwysig i amddiffyn Afon Gwy".
"Trwy ddod ag arbenigedd o ddwy ochr y ffin ynghyd, a gweithio'n agos gyda grwpiau lleol, gallwn ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu'r afon a dod o hyd i'r atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth," meddai.
Dywedodd Emma Hardy y byddai'r fenter yn adeiladu ar waith arall gan gynnwys "prosiect gwerth £20m sy'n mynd i'r afael â lefelau ffosfforws mewn pridd drwy'r rhaglen Defnydd Tir ar gyfer Sero Net, Pobl a Natur".
'£1m yn ddim byd'
Dywedodd grŵp ymgyrchu Cyfeillion Afon Gwy, er bod cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a'r DU i'w groesawu, nad oedd digon o arian wedi'i addo.
"Dyw £1m yn ddim byd," meddai Nicola Cutcher o'r grŵp wrth BBC Radio Wales Breakfast.
"Mae gennym ni ddigon o dystiolaeth yn barod a digon o ymchwil i ddangos beth sydd angen ei wneud - ni fyddwn yn hoffi gweld ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ohirio gweithredu," ychwanegodd.
Galw'r £1m yn "ddiferyn bychan iawn, iawn" wnaeth Janet Finch-Saunders AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, gan ddadlau y byddai'n well ei wario ar "uwchraddio safleoedd trin dŵr ger afonydd yng Nghymru".
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod angen i gyllid ar gyfer mwy o waith ymchwil a monitro gael ei "gefnogi gan gamau gorfodi pendant i fynd i'r afael â llygrwyr".
Dywedodd Plaid Cymru fod y buddsoddiad "yn amlwg ei angen ac yn hen bryd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024