Bygwth erlyn Dŵr Cymru dros gyflwr tair afon

Dyw Thomas Garland ddim yn teimlo y gall fynd â'i blentyn sydd ar fin ei eni i'r afon i chwarae
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithwyr sy'n cynrychioli cannoedd o bobl sy'n honni iddyn nhw gael eu heffeithio gan lygredd yn afonydd Gwy, Llugwy a Wysg wedi ysgrifennu at Dŵr Cymru.
Maen nhw'n bygwth dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cwmni dŵr, fel rhan o weithredu ehangach sydd hefyd yn targedu'r diwydiant dofednod yn lleol.
Dywedodd cwmni cyfreithiol Leigh Day bod gollyngiadau o ddŵr gwastraff sy'n cynnwys carthffosiaeth i afonydd yn amharu ar drigolion a busnesau.
Yn ôl Dŵr Cymru maen nhw'n buddsoddi £2.5bn i wella'r amgylchedd yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae cyflwr Afon Gwy wedi denu cryn sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar ôl iddi gael ei hisraddio gan gorff Natural England
Mae'r tair afon wedi'u gwarchod oherwydd eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt prin - sy'n cynnwys dyfrgwn, eog a chregyn gleision perlog dŵr croyw.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Afon Gwy yn enwedig wedi'i chysylltu'n gyson gyda phryderon am ddirywiad yng nghyflwr afonydd y Deyrnas Unedig.
Mae'n llifo am 155 o filltiroedd, o'r canolbarth ar hyd y ffin â Lloegr i aber Afon Hafren.
Dywedodd Dave Shaw, 56 sy'n byw ger Aberhonddu, fod ganddo "atgofion annwyl gyda'n merched... yn chwilio am fywyd gwyllt mewn pyllau yn yr afon".
Ond honnodd ers "rhai blynyddoedd ry'n ni wedi dechrau sylwi ar ddirywiad".
"Creigiau wedi'u gorchuddio â slwtsh brown, a'r afon yn dechrau arogli - doedden ni ddim eisiau i'n plant fynd iddi mwyach."
Fe ganŵiodd Thomas Garland, 25, ar hyd Afon Gwy er mwyn codi arian i elusen yn 2018.
"Cefais fy magu yn mwynhau manteision yr afon, gan dreulio amser drwy gydol fy mhlentyndod yn caiacio ar ei hyd."
Ond ar ôl sylwi ar "slwtsh ar y glannau" a llai o fywyd gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dywedodd nad oedd bellach yn teimlo'n gyfforddus yn y dŵr.
'Arogleuon, pryfed ac ansawdd dŵr gwael'
Dywedodd Leigh Day fod dros 2000 o unigolion a busnesau wedi ymuno â'r achos, i geisio iawndal i bobl leol.
Mae'r cwmni cyfreithiol yn honni bod y rhan fwyaf o'r llygredd sy'n effeithio ar yr afonydd yn dod o garthion sy'n deillio o "gynhyrchu ieir ar raddfa ddiwydiannol" ac mae nhw eisoes wedi enwi nifer o gynhyrchwyr dofednod fel prif ddiffynyddion yn eu hachos.
Ond mae'r cwmni bellach n bygwth erlyn Dŵr Cymru hefyd gan honni bod gollyngiadau o garthffosiaeth - "sy'n uchel mewn ffosfforws a bacteria" - yn ffactor arall sy'n cyfrannu i'r broblem.
Mae'r gollyngiadau yn arwain at "ogleuon, pryfed yn cronni, bioamrywiaeth yn cael ei golli ac ansawdd dŵr gwael", yn ôl y cyfreithwyr.
Mae'u llythyr yn egluro manylion eu hachos yn erbyn Dŵr Cymru gan roi'r cyfle i'r cwmni ddatrys yr anghydfod cyn bod achos llys.
Mae gan Dŵr Cymru tan 17 Mawrth i ymateb.

Mae llygredd yn amharu ar fwynhad trigolion o'r afon a'u gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel nofio gwyllt a physgota, yn ôl Leigh Day.
"Ar hyn o bryd hwn fydd yr hawliad niwsans mwyaf am weithrediadau carthffosiaeth yn erbyn cwmni dŵr yn y DU," esboniodd Oliver Holland, un o bartneriaid Leigh Day.
"Ond gyda chymunedau ar hyd a lled y wlad yn cael eu heffeithio gan lygredd carthion yn eu dyfrffyrdd mae gan yr achos hwn y posibilrwydd o osod cynsail pwysig," ychwanegodd.
Mae'r cwmni yn cynrychioli "croestoriad o bobl o bob rhan o'r rhanbarth cyfan" - yn amrywio o drigolion sy'n byw ar hyd yr afonydd i fusnesau lleol, grwpiau pysgota, canŵwyr a nofwyr gwyllt, meddai.
"Dydyn nhw ddim bellach yn teimlo y gallan nhw ddefnyddio'r afonydd yn yr un ffordd ag yr oedden nhw'n arfer ei wneud ac mae'n effeithio'n wirioneddol ar eu bywydau," meddai.
Dywedodd Charles Watson, cadeirydd grŵp ymgyrchu River Action: "Gydag ychwanegu Dŵr Cymru fel diffynnydd, mae hyn yn datblygu i fod yn un o'r achosion cyfreithiol mwyaf arwyddocaol sy'n ymwneud â llygredd afonydd i'w weld hyd yma yn y DU."
'Cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym newydd dderbyn llythyr cyn gweithredu ac mae angen amser arnom i ystyried y cynnwys yn ofalus cyn ymateb.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif a dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £2.5 biliwn i wella'r amgylchedd.
"Y gwanwyn diwethaf fe wnaethom gwblhau saith cynllun buddsoddi, gan wario cyfanswm o £53 miliwn, ar yr Afon Gwy flwyddyn yn gynt na'r disgwyl.
"Daeth hyn yn dilyn buddsoddiad o £17m mewn chwe safle arall yn ystod y blynyddoedd diwethaf," ychwanegodd.
"Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi'n drwm er budd yr Afon Wysg - gyda £20m ar ein hasedau ar yr afon a £13m arall ar ddewis gwyrdd arall yn lle gorlif storm sydd ar Afon Lwyd, sy'n bwydo i mewn i Afon Wysg," meddai.
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Mae'r cynhyrchydd dofednod Avara Foods, eu his-gwmni Freemans of Newent a'u cyfranddaliwr 50%, Cargill plc, hefyd wedi'u henwi fel diffynyddion yn y camau cyfreithiol arfaethedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Avara Foods eu bod yn credu bod honiadau Leigh Day yn ddi-sail ac yn "ffeithiol anghywir".
"Rydym yn falch o'n busnes, gan ddarparu cyw iâr a thwrci fforddiadwy o ansawdd uchel i ddefnyddwyr, a ry'n ni wedi amddiffyn ein hunain yn egnïol."
"O ganlyniad i'r broses gyfreithiol sy'n mynd rhagddi, fyddwn ni ddim yn cynnig sylwadau pellach ar hyn o bryd."