Gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd yn 2027
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Casnewydd yn awyddus i gynnal Eisteddfod yr Urdd yn y sir yn 2027.
Mewn cyfarfod cabinet ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau gytuno, mewn egwyddor, i gefnogi cynnig i gynnal yr ŵyl yno ymhen tair blynedd.
Dywedodd y cynghorydd Pat Drewett, yr aelod cabinet dros gymunedau a lleihau tlodi, fod cynnal yr Eisteddfod yn "gyfle gwych" allai "adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod".
Mae'r trafodaethau ynglŷn â lleoliadau posib yn parhau, gyda disgwyl cadarnhad swyddogol ym mis Medi.
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Mehefin
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei chynnal ym Maldwyn - y tro cyntaf ers 36 o flynyddoedd i'r ŵyl ymweld â'r ardal
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, ac Ynys Môn fydd cartref yr ŵyl yn 2026.
Os caiff Casnewydd ei dewis fel lleoliad ar gyfer gŵyl 2027, dyma fyddai'r tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn y sir.
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi croesawu cyhoeddiad y cyngor sir.
Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau gyda'r mudiad: “Braf iawn oedd clywed am gefnogaeth aelodau o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r ardal yn 2027.
"Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i’r awdurdod lleol am eu cefnogaeth i’r mudiad â’n gŵyl ieuenctid fel ei gilydd
“Rydym wrthi’n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod.
"Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle’r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau, 12 Medi yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol.”
'Cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas'
Dywedodd y Cynghorydd Pat Drewett, aelod cabinet dros gymunedau a lleihau tlodi, mai Eisteddfod yr Urdd "fyddai'r digwyddiad Cymraeg mwyaf i Gasnewydd ei gynnal ers 2004".
“Mae cynnal yr Eisteddfod yn unol â'n hamcanion o ran cynyddu nifer y plant yng Nghasnewydd sy'n dysgu drwy leoliad addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas," meddai.
“Mae’n gyfle gwych, un a allai adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod, ac rydym yn falch i roi cefnogaeth y cyngor i’r cynigion.”
- Cyhoeddwyd1 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mai
- Cyhoeddwyd20 Mai
Dywedodd Emma Stowell-Corten, yr aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, eu bod yn awyddus i ychwanegu'r Eisteddfod at y rhestr o ddigwyddiadau mawr sydd wedi eu cynnal yng Nghasnewydd.
“Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru yn awyddus i ddod ag Eisteddfod 2027 i Gasnewydd, ac o gael cynnig cefnogaeth ffurfiol y cyngor i'r cynigion.
“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr.
“O'r Eisteddfod Genedlaethol i Gwpan Ryder, nid yw Casnewydd yn ddieithr i gynnal digwyddiadau mawr, ac rydym yn obeithiol y gallwn ychwanegu Eisteddfod yr Urdd at y rhestr honno.”