Dyn wedi marw ar ôl i gar wyro oddi ar y ffordd ger Abertawe

Hoel PennardFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hoel Pennard ar gau am gyfnodwedi'r digwyddiad brynhawn Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Abertawe brynhawn Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pennard yn Kittle am 12:30 yn dilyn adroddiadau bod car wedi gwyro oddi ar y ffordd.

Er i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, daeth cadarnhad fod dyn 64 oed wedi marw yn y digwyddiad.

Mae ymchwiliadau Heddlu De Cymru i'r digwyddiad yn parhau, ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig