Cyflymder dau gar wedi 'codi ofn' ar yrwyr eraill cyn gwrthdrawiad

Rhys Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd y llynedd, ac fe gafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn erbyn dau frawd sydd wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi clywed gan yrrwr sy'n dweud ei bod yn ymddangos fel petawn nhw'n "rasio ei gilydd" wrth ei basio ar y ffordd.

Bu farw Rhys Jenkins, tad i ddau o Ddeuddwr ym Mhowys, wedi gwrthdrawiad ger Y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd ac fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu'n ddifrifol.

Mae'r brodyr o Fanceinion, Abubakr Ben Yusaf, 29 a Umar Ben Yusaf, 34, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n bergylus, achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.

Roedd y tyst, Roy Jennings, yn teithio gyda'i fab saith oed o'r Drenewydd i'r Trallwng a newydd yrru o gylchfan pan basiodd dau gar, Audi a BMW, heibio "yn gyflym".

Dywedodd wrth Lys y Goron Yr Wyddgrug bod symudiadau'r ceir "yn beryglus iawn", ac wedi gwneud iddo deimlo'n "flin iawn".

"Wnaeth y ddau fy mhasio ar yr un pryd - roedden nhw'n agos at ei gilydd.... gan beryglu bywyd fy mab, a finna."

Dywedodd tyst arall, Carrieanne Groves, bod car BMW coch wedi ei "codi ofn arni" am ei fod mor agos tu ôl iddi wrth iddi yrru trwy bentref Garthmyl.

Ni allai weld dim byd ond y car yn ei drych ôl, meddai wrth y rheithgor, ac roedd hi'n teimlo "ei fod eisiau i mi fod allan o'r ffordd".

Yna fe welodd y car yn "gwyro" ac yn pasio'r ceir o'i blaen, ac yn fuan wedi hynny daeth car glas o'r tu ôl a gwneud yr un peth.

Doedd y car yma, meddai, "ddim mor agos â'r car coch, ond yn ddigon agos i mi deimlo dan fygythiad eto".

"Roedd yn edrych fel eu bod yn rasio," dywedodd wrth fargyfreithiwr yr erlyniad.

'Ro'n i'n gallu clywed eu sgwrs'

Roedd Anthony Demery, o Abertawe, yn teithio tua'r de ar yr A483 y noson honno pan ddaeth ar draws y gwrthdrawiad oedd newydd ddigwydd.

Fe welodd "stêm neu fwg" ymhellach i fyny'r ffordd a pharcio'i gerbyd, a gweld wrth gerdded tua'r safle "X3 mewn darnau" ac Audi glas "yn fy lôn i, ond yn wynebu'r gogledd".

Dywedodd wrth y rheithgor iddo weld, wrth gerdded heibio'r Audi, ddyn yn sedd y gyrrwr a dyn arall yn mynd i mewn ato.

"Ro'n i'n gallu clywed eu sgwrs," meddai. "Glywais i'r gyrrwr yn dweud: 'Tyrd, awn ni, Does dim byd fedran ni wneud'.

Roedd y dyn arall, meddai, yn ymddangos "yn syfrdan ac yn ddryslyd", a dywedodd bod y ddau wedyn wedi gyrru tua'r Trallwng.

Wrth gael ei groesholi, gofynnwyd i Mr Demery am ran o'i ddatganiad i'r heddlu pan ysgrifennodd: "Roedd bron fel petae yna ddim byd allen nhw wneud."

Mewn ymateb i gwestiwn ai ei asesiad ei hun oedd hynny, ynteu a oedd wedi clywed y geiriau, atebodd ei fod yn credu ei fod wedi eu clywed hefyd.

A483 BelanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng

Dywedodd dyn lleol, Tyler Lewis, ei fod yn gyrru tua'r Trallwng ar gyrion Garthmyl pan aeth dau gar o'r tu ôl iddo heibio.

Roedd Mr Lewis ei hun newydd basio car o'i flaen wrth i gyfyngiad cyflymder y ffordd godi o 50mya i 60mya, pan welodd "yn sydyn, brifoleuadau" yn nrych ei gar cyn iddo orffen symud yn ôl i ochr chwith y ffordd.

"Roedd y cerbyd yn dod yn gyflym iawn… yn agos iawn ata'i... llai na hyd car," dywedodd.

Bu'n rhaid i'r car - BMW coch, fe dybiodd - dynnu i mewn gan fod car yn dod tuag atyn nhw ar ochr arall y ffordd, ond yna fe aeth heibio dros linellau onglog (chevrons) yng nghanol y ffordd.

Daeth ail gar wedyn - BMW salŵn glas, y tybiodd ar y pryd - a'i basio "ar gyfres o droadau... yn gyrru'n gyflym iawn".

Ymhellach ar hyd y ffordd, fe welodd gar mewn gwrych "ar dân", a'r car coch wedi stopio ac "wedi ei ddifrodi'n ddrwg".

Dywedodd Mr Lewis wrth y rheithgor iddo weld bod dyn Asiaidd yr olwg wedi agor drws y car, codi plentyn ohono a'i gario i ochr arall y ffordd.

Man drwg am ddamweiniau

Fe gytunodd Mr Lewis, wrth gael ei groesholi, ag awgrym bargyfreithiwr Umar Ben Yusaf fod yr A483 yn fan drwg am ddamweiniau.

Ond doedd e ddim wedi clywed am gwynion gan bobl leol ynghylch arwynebedd y ffordd ar safle'r gwrthdrawiad.

Gwadodd bod ei gof o'r digwyddiad wedi ei ddylanwadu gan rywun ar safle'r digwyddiad a ddywedodd wrtho mai Audi oedd y car salŵn.

Gwelodd y llys luniau dash-cam y car yr oedd Mr Lewis wedi ei basio, yn dangos dau gar yn ei basio yntau.

Tynnodd bargyfreithiwr Abubakr Ben Yusaf ei sylw at liw brown wyneb y ffordd, gan holi beth allai fod.

Atebodd Mr Lewis: "Mwd, mwyaf tebyg", ond ni allai gofio gweld arwyddion ffordd yn rhybuddio bod yna fwd.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig