Dau frawd yn 'rasio yn erbyn ei gilydd' cyn gwrthdrawiad angheuol

Bu farw tad i ddau, Rhys Jenkins, yn y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r tad i ddau, Rhys Jenkins, yn y gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Roedd dau frawd yn rasio eu ceir yn erbyn ei gilydd cyn i un cerbyd daro cerbyd arall gan ladd y gyrrwr ac anafu ei fab, naw oed, yn ddifrifol - mae llys wedi clywed.

Bu farw Rhys Jenkins, sy'n dad i ddau ac o Ddeuddwr ym Mhowys, mewn gwrthdrawiad ffordd ger Y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd, a chafodd ei fab Ioan ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Mae Abubakr Ben Yusaf, 29, ac Umar Ben Yusaf, 34, yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus, ac achosi marwolaeth heb fod ag yswiriant.

Ar ddechrau'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, clywodd y rheithgor fod Abubakr Ben Yusaf, 29 oed, ac Umar Ben Yusaf, 34 oed, y ddau o Fanceinion, mewn ceir gwahanol ar yr A483 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, John Philpotts, wrth y llys y bydd sawl llygad-dyst yn rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos - llygad-dystion a welodd geir y ddau - BMW X3 Abubakr Ben Yusaf ac Audi S4 Umar Ben Yusaf - yn eu pasio'n beryglus.

"Roedden nhw'n rasio," meddai, gan ychwanegu fod y "ddau'n gyfrifol", er mai dim ond un o'r cerbydau - y BMW roedd Abubakr Ben Yusak yn ei yrru - oedd yn y gwrthdrawiad â cherbyd Mr Jenkins.

Wrth i'r llygad-dyst yrru ar ran syth o'r ffordd ym mhentref Belan, gwelodd gefn y BMW wrth iddo golli rheolaeth gan wyro i'r ffordd lle roedd cerbydau eraill yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Dywedodd Mr Philpotts wrth y llys fod Rhys Jenkins yn gyrru Toyota Yaris ei wraig yn hollol gywir o'r cyfeiriad arall a bod Ioan ei fab yn eistedd yn y sedd flaen.

Cafodd y car ei daro yn uniongyrchol gan y BMW, a bu farw Mr Jenkins yn y fan a'r lle.

Cafodd Ioan Jenkins ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau difrifol.

Yn y llys cafodd y rheithgor wybod y bydden nhw'n clywed gan lygad-dyst a gyrhaeddodd y lleoliad ar ôl i'r gwrthdrawiad ddigwydd, ac a glywodd y ddau ddyn yn dweud "come on, let's go".

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig