Cân i Gymru: Newid y system bleidleisio wedi trafferthion y llynedd

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal nos Wener yma
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd proses bleidleisio newydd ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru eleni, yn dilyn trafferthion y llynedd.
Yn wahanol i'r hen drefn o bleidleisio drwy ffonio rhif ffôn penodol, bydd y system bleidleisio ar-lein ac am ddim.
Daw wedi trafferthion gyda'r system y llynedd, lle cafodd nifer o wylwyr drafferth yn ceisio pleidleisio, a rhai wedi derbyn biliau ffôn uwch na'r arfer.
Yn dilyn ymchwiliad, fe wnaeth y corff rheoleiddio darlledu Ofcom benderfynu bod S4C wedi torri rheolau.
'Un bleidlais i bob cyfeiriad e-bost'
Bydd modd i wylwyr bleidleisio am eu hoff gân ar-lein, ac am ddim eleni.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal nos Wener yma.
Dywed S4C: "Y gwylwyr fydd yn penderfynu ar y gân fuddugol ar y noson drwy bleidleisio am eu hoff un o blith yr wyth fydd yn cystadlu.
"Eleni, bydd y broses bleidleisio yn newid i wasanaeth ar-lein yn unig, gan ddilyn yr un drefn â chystadlaethau teledu mawr eraill."
Dywedon nhw y bydd modd i bobl bleidleisio "gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar" ond bod angen cysylltiad â'r we a chyfeiriad e-bost dilys.
"Dim ond un bleidlais i bob cyfeiriad e-bost a ganiateir" drwy ddefnyddio'r dull newydd, meddai S4C.

Sara Davies oedd enillydd y gystadleuaeth y llynedd
Daw'r newid i'r system ar ôl i nifer o wylwyr fynegi rhwystredigaeth y llynedd wedi iddyn nhw gredu eu bod methu pleidleisio oherwydd nam technegol.
Yn ôl S4C, cafodd 17,000 o bleidleisiau eu cyfri, ac roedd hynny "llawer yn fwy na'r cyfanswm y llynedd [2023]".
Roedd 10 gwyliwr wedi cysylltu ag Ofcom yn dweud eu bod wedi cael trafferthion wrth geisio pleidleisio.
Fe wnaeth y rheoleiddiwr ymchwilio i'r mater, gan nodi yn eu hadroddiad y bu "nam technegol gyda'r system bleidleisio" a bod "rhai gwylwyr wedi pleidleisio droeon, oherwydd na chafodd eu pleidleisiau ffôn eu cadarnhau yn ystod eu galwadau i'w cofrestru".
Yn ôl Ofcom, roedd y ffordd y cafodd y bleidlais ei chynnal yn "annheg ac yn sylweddol gamarweiniol".
Ond wrth ymateb i ymchwiliad Ofcom roedd S4C yn mynnu "nad oedd y nam ar y system wedi effeithio ar ganlyniad y gystadleuaeth" ac "nad oedd sail felly i ddod i'r casgliad bod S4C wedi tanseilio ymddiriedaeth gwylwyr neu wedi achosi tramgwydd".
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2024
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei darlledu'n fyw o Dragon Studios ym Mhen-y-bont, lle bydd yr wyth cân sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn mynd benben i geisio hawlio teitl Cân i Gymru 2025.
Y beirniaid eleni yw prif leisydd Candelas, Osian Huw Williams, y cerddor Peredur ap Gwynedd, y gantores, actores a cyflwynydd Caryl Parry Jones, y rapiwr a chyfansoddwr Sage Todz, a'r gantores a'r gyfansoddwraig Catty.
Bydd yr enillydd yn derbyn £5,000 a "chytundeb perfformio", tra bod y rhai sy'n gorffen yn ail a'r trydydd safle yn derbyn gwobrau o £3,000 a £2,000 yr un.