Mwnci heglog prin yn cael sgan CT gan filfeddygon

Smokey, y mwnci, syth i'r cameraFfynhonnell y llun, Shaun Wilson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Smokey, mwnci heglog wynepgoch yn Sw Mynydd Bae Colwyn angen sgan CT pan aeth yn sâl

  • Cyhoeddwyd

Mae staff mewn canolfan filfeddygol wedi cael claf anarferol i'w archwilio'n ddiweddar - mwnci prin o sw cyfagos.

Roedd Smokey, mwnci heglog wynepgoch yn Sw Mynydd Bae Colwyn angen sgan CT pan aeth yn sâl gyda gastroenteritis.

Fe gafodd ei anfon i Filfeddygfa Mochdre, lle roedd staff yn gallu defnyddio'r sgan i ddarganfod y broblem, felly nid oedd angen iddo gael llawdriniaeth.

Mae staff y sw yn dweud bod Smokey erbyn hyn wedi gwella ac yn bwyta ac yn ymddwyn yn normal tra'n cwblhau ei driniaeth.

Dechreuodd gofalwyr y sw boeni pan ddechreuodd Smokey chwydu ychydig dros bythefnos yn ôl.

Roedd y sw yn barod wedi colli mwnci benywaidd o'r un brid ychydig fisoedd yn ôl, a bu farw yn sydyn o friw tyllog, felly roeddent yn awyddus i Smokey gael ei archwilio'n gyflym.

Fe wnaeth staff ym milfeddygfa Mochdre gynnig sgan CT fel ffordd o ddarganfod beth oedd o'i le.

Sgan CT o'r mwnci Ffynhonnell y llun, Milfeddygon Mochdre
Disgrifiad o’r llun,

Doedd staff ddim yn siwr beth oedd yn gwneud Smokey yn sâl, ond roedd y sgan yn caniatáu iddynt ddileu y posibilrwydd ei fod yn dioddef gyda tiwmor neu wedi llyncu rhywbeth

Dywedodd y dirprwy bennaeth nyrsio, Robi McAffrey: "Roedd y sgan yn golygu ein bod wedi gallu trin Smokey heb lawdriniaeth.

"Roeddem yn gallu diystyru tiwmor, unrhywbeth roedd wedi'i lyncu neu hyd yn oed friwiau yn y stumog.

"Mae rhoi llawdriniaeth i fwncïod heglog bob amser yn gymhleth, ond yn achos Smokey, roedd pryder ychwanegol.

"Mae wedi bod yn tynnu blew o'i fraich pan fydd dan bwysau, felly byddai cael clwyf yn gwella wedi gallu bod yn demtasiwn go iawn iddo.

Mae nyrsys yn y filfeddygfa yn gyfarwydd â rhoi cathod a chŵn trwy'r peiriant sganio CT, ond roedd mwnci heglog yn fath newydd o glaf iddynt!

Mwnci mewn caets, llygaid ar gauFfynhonnell y llun, Milfeddygon Mochdre
Disgrifiad o’r llun,

Roedd staff ym Milfeddygfa Mochdre yn dweud bod rhoi sgan i Smokey yn golygu y gallent ddarganfod beth oedd o'i le heb orfod rhoi llawdriniaeth

Dywedodd y pennaeth nyrsio Jess Nettleton: "Mae'r dull yn gyflym iawn, a hynny'n golygu bod Smokey yn cysgu am gyfnod byr yn unig - rhywbeth sydd â budd amlwg o ran ei ddiogelwch a'i wellhad.

"Erbyn y prynhawn, roedd yn ddiogel yn ôl yn ei gaets ac yn bwyta eto."

Mae mwncïod heglog wynepgoch yn byw yng nghoedwigoedd glaw De America, ond maent wedi'u clustnodi'n fregus oherwydd bod eu cynefin yn cael ei ddinistrio a'u bod weithiau'n cael eu hela.

Smokey ar fwrdd yn y filfeddygfaFfynhonnell y llun, Milfeddygon Mochdre
Disgrifiad o’r llun,

Y pennaeth nyrsio, Jess Nettleton, yn paratoi Smokey ar gyfer y sgan

Mae Smokey bellach wedi gwella'n llwyr ac ar fin cwblhau ei driniaeth.

Dywedodd Michaella Brannan, Cyfarwyddwr Masnachol Sw Mynydd Cae Colwyn: "Mae Smokey yn llawer gwell ac yn ymddwyn fel arfer, yn gwneud sylw o ymwelwyr.

"Mae'n bwyta deiet normal bellach ac yn siglo'n ddi-dor o gwmpas ei gaets yn y ffordd y byddem yn ei ddisgwyl."

Pynciau cysylltiedig