Pobol y Cwm yn 'rhan annatod o'r profiad Cymreig a theledu Cymraeg'

Rhai actorion a chriw cynhyrchu Pobol y Cwm yn ystod cyfnod ffilmio pennod dathlu'r 50 mlynedd o'r opera sebon yn edrych at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Rhai actorion a chriw cynhyrchu Pobol y Cwm yn ystod cyfnod ffilmio pennod dathlu 50 mlynedd o'r opera sebon

  • Cyhoeddwyd

"Bora da, Maggie Mathias."

Geiriau allweddol yn hanes teledu Cymraeg.

Dyma'r geiriau cyntaf i'w clywed ar 'Pobol y Cwm' hanner canrif union yn ôl.

Yr actor Charles Williams oedd yn eu llefaru, wrth i'r cymeriad Harri Parri gyfarch Magi Post yn siop a swyddfa'r post pentref dychmygol Cwmderi.

Cafodd y rhifyn cyntaf ei ddarlledu ar deledu BBC Cymru am 19:10 ar nos Fercher, 16 Hydref 1974 - rhwng y cylchgrawn nosweithiol 'Heddiw' a'r gyfres gomedi 'Some Mothers Do 'Ave 'Em'.

Disgrifiad o’r llun,

Sgript golygfa gynta' Pobol y Cwm, 16 Hydref, 1974

Does dim copi o'r rhifyn cynta wedi'i gadw yn yr archif, ond mae'r sgript yn bodoli o hyd - ac fe ddaeth un o'r actorion oedd yn y bennod honno, Lisabeth Miles, o hyd i gopi yn ei chartref.

"Dwi’n meddwl oeddwn i’n un o’r ieuenga’ yna bryd hynny – a rŵan yr hyna' yma," meddai

"A cael cydweithio gyda pobl arbennig iawn. Dilwyn Owen, Charles Williams, Dilys Price, Rachel Thomas – gymaint o bobl wedi 'neud gymaint o gyfraniad radio, teledu a theatr.

"Pawb wedi’u trwytho yn y theatr, a cael cydweithio a sgriptiau da, a straeon da."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Magi Post, oedd yn cael ei chwarae gan Harriet Lewis, yn un o wynebau mwya' cyfarwydd y gyfres

John Hefin oedd y cynhyrchydd cyntaf - roedd yn teimlo bod angen cyfres ddrama hir i ddiddanu'r gynulleidfa yn y Gymraeg.

Mewn cyfweliad ar 'Heddiw' ar drothwy'r rhifyn cyntaf mynnodd nad efelychu cyfresi hir poblogaidd yn Saesneg roedden nhw'n ei wneud.

"Mae'n debyg i 'Coronation Street' neu 'Crossroads' - wrth gwrs bod 'na debygrwydd - ond wi'n credu bod ni wedi trio rhoi rhyw ochr Gymraeg i bethe. Ry'n ni wedi trio ei gwneud hi'n naturiol."

Y lleoliad oedd Sir Gaerfyrddin, rhwng Llanelli a Chaerfyrddin - "ble mae'r byd amaethyddol yn cwrdd â'r byd diwydiannol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pobol y Cwm wedi bod yn gonglfaen o ran datblygu talent o flaen a thu ôl y camera yn ôl Dr Elain Price, Prifysgol Abertawe

Roedd 'na ymdrech hefyd o'r dechrau i ddefnyddio iaith gyffredin.

Dywedodd awdur y bennod gyntaf, a golygydd cynta'r gyfres, Gwenlyn Parry, mai'r gynulleidfa darged oedd "y Cymry Cymraeg nad ydynt erioed wedi darllen Barn na'r Faner, ond sy'n byw eu bywyd bob dydd yn sŵn naturiol y Gymraeg".

Mae'r gyfres wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad darlledu Cymraeg, meddai Dr Elain Price o Brifysgol Abertawe.

"Mi oedd Pobol y Cwm yn gonglfaen y gwasanaeth pan ddechreuodd S4C - wastad yn ennill y sgoriau ucha' ar yr arolygon gwerthfawrogiad, ac yn denu cynulleidfaoedd mawr, ac mae wedi bod yn arwyddocaol - mae wedi meithrin talent o flaen y camera a thu ôl y camera."

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Iwan Rheon (chwith) a Ioan Gruffydd (dde) eu gyrfa actio ar Pobol y Cwm

Ymhlith yr enwau mawr fu'n ymddangos yn y gyfres ar ddechrau eu gyrfaoedd roedd Ioan Gruffudd, Iwan Rheon ac Alexandra Roach.

Fe ymddangosodd y darlledwr Alun Williams yn y rhifyn cyntaf - gyda'r stori ei fod yn recordio rhifyn o'i gyfres radio boblogaidd 'Dewch am Dro' yng nghartref henoed Brynawelon.

Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi troedio strydoedd Cwmderi mae Michael Sheen, Ray Gravel, Ruth Jones, Rusell Grant, Beti George, El Bandito a Michael Aspel.

Am gyfnod yn y 1970au, roedd y gyfres yn cael ei darlledu amser cinio ar BBC 1 yn Lloegr - heb isdeitlau, yna yn y 1990au roedd hi ar BBC 2 gydag isdeitlau.

Ym 1992 fe ymddangosodd ar sianel Nederland 3 yn yr Iseldiroedd, o dan y teitl 'De Vallei' ('Y Cwm').

Disgrifiad o’r llun,

Teitlau gwreiddiol Pobol y Cwm

'Llai o arian'

Ym 1988 dechreuodd Pobol y Cwm ddarlledu bum noson yr wythnos gyda rhai golygfeydd yn cael eu ffilmio ar y diwrnod - yr opera sebon gyntaf yn y DU i wneud hynny.

Mae'r gyfres ar S4C dair gwaith yr wythnos erbyn hyn.

Mae Rhys ap Wiliam wedi chwarae cymeriad Cai Rossiter ers bron 30 mlynedd

"Des i i’r gyfres yn ’96 ac o'dd lot o bobl yn gweithio ar faint o amser oedd 'da ni i saethu pethe.

"Ma' hwnna' 'di newid yn hollol achos cyllid – faint o arian sy’n dod mewn i ariannu’r sianel, y gyfres, y byd teledu – ma' fe’n llai.

"Llai o amser ond yr un faint o waith, so mae’r pwysau wedi cynyddu, ond mae’r ysbryd dal i fod 'na fel odd e pan dechreues i."

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Nefydd (Colin) yn arwain rhai o wylwyr Pobol y Cwm ar daith y tu ôl i'r llen yng nghanolfan BBC Studios Cymru

Mae gwylwyr y gyfres yn cael cyfle ar hyn o bryd i ymweld â Chwmderi yn stiwdio'r BBC ym Mae Caerdydd.

Ymhlith y rhai sydd wedi manteisio ar y cyfle i weld y tu ôl i'r llen mae Carys Jones oedd wedi teithio gyda'i merched o Sir Fôn i fynd ar y daith fel anrheg pen-blwydd. Mae hi wedi bod yn gwylio ers y dechrau.

"Mae’n ddiddorol a mae’n newid mor aml.

"Does 'na ddim byd yn ddiflas amdano fo. Mae cymaint o gyffro a straeon diddorol yn does?

"Mae’n hudo chi i watcho’r nesa' a’r nesa' i weld beth sy’n digwydd wedyn."

Ysbrydoliaeth wrth ddysgu Cymraeg

Mae'r gyfres wedi denu cynulleidfa gyson ymhlith y di-Gymraeg a dysgwyr.

Mae Matthew Batten o Gaerdydd yn dweud bod gwylio Pobol y Cwm wedi bod yn help mawr wrth iddo benderfynu dysgu Cymraeg.

"Dwi’n gweithio mewn gweithle ble mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg so dwi’n trio defnyddio y geiriau dwi’n clywed ar Pobol y Cwm fel jolihoitian.

"Siop siafins yw fy hoff eiriau ar hyn o bryd!

"Mae'r cymeriad Maya – mae hi’n dysgu Cymraeg – a mae hi’n ysbrydoli fi i gario 'mlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Cast rhifyn dathlu Pobol y Cwm yn 50 ar sgwâr Cwmderi

Mae'r byd teledu wedi newid yn aruthrol dros yr hanner canrif ers dechrau 'Pobol y Cwm', ac arferion gwylio yn wahanol iawn bellach.

Mae cyfres sebon y BBC 'Doctors' yn dod i ben, a 'Hollyoaks' ar Channel 4 yn symud y stori ymlaen flwyddyn, er mwyn torri nôl ar faint y cast a nifer y penodau fydd yn cael eu ffilmio.

"Mae 'na heriau yn sicr," meddai Dr Elain Price o Brifysgol Abertawe.

"Ond mae angen parhau i apelio i gynulleidfa mor eang â phosib er mwyn trio meithrin cynulleidfa newydd ar gyfer y sebon, er mwyn iddi barhau am flynyddoedd i ddod."

Mae prif weithredwr dros dro S4C, Sioned Wiliam, yn mynnu bod yna le o hyd i'r rhaglen.

"Mae'n un o gonglfeini'r sianel - mae'n un o'r rhaglenni mwya' poblogaidd, mae'n cael ei gwerthfawrogi fwya'.

"Does dim cwestiwn mae'n rhan annatod o'r profiad Cymreig a theledu Cymraeg."

'Allweddol yn hanes datblygiad y cyfryngau'

Mae cynhyrchydd y gyfres, Dafydd Llewelyn, yn edrych yn hyderus at y dyfodol wrth baratoi ar gyfer darlledu rhifyn arbennig ar ddiwrnod y pen-blwydd

“Mae Pobol y Cwm wedi chwarae rhan mor allweddol yn hanes datblygiad y cyfryngau yng Nghymru gan ddechrau gyrfa sawl un nodedig ond hefyd – ac yn bwysicach efallai – mae wedi bod yn ganolog ym magwraeth cenedlaethau o unigolion a theuluoedd dros y degawdau.

“'Da ni’n edrych ymlaen yn arw at gael dathlu’r achlysur arbennig hwn gan osod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol yn ogystal.”