Saethu Rhondda Cynon Taf: Arestio pedwar yn rhagor o bobl

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn ei brest
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar yn rhagor o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes gael ei saethu'n farw yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Joanne Penney, 40, ei darganfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau tua 18:10 nos Sul, a bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod wedi cael ei saethu yn ei brest.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn "gweithio'n galed i gadarnhau cymhelliad dros ladd Joanne", a'i bod yn bosib ei fod yn "achos o gam-adnabod (mistaken identity)".
Pwy sydd wedi'u harestio?
Cafodd dyn lleol 42 oed ei arestio ar noson y digwyddiad ar amheuaeth o lofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu De Cymru brynhawn Mawrth fod pedwar unigolyn arall wedi cael eu harestio yn ardal Heddlu Sir Gaerlŷr nos Lun mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r pedwar - dynes 21 oed a dyn 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr, dyn 68 oed o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, a dynes 39 oed o Gaerlŷr - yn parhau yn y ddalfa.

Fe ddigwyddodd y saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd, meddai'r heddlu
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 nos Sul yn dilyn adroddiad o achos o saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd yn ardal Green Park, Tonysguboriau.
Dywedodd y llu eu bod yn parhau i weithio er mwyn casglu tystiolaeth, a bod eu hymholiadau i amgylchiadau'r digwyddiad yn parhau.
'Posib yn achos o gam-adnabod'
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: "Er bod yr arestiadau hyn yn ddatblygiad sylweddol, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne yn parhau ac mae gennym dîm o dditectifs profiadol a staff arbenigol yn gweithio'n galed i gadarnhau amgylchiadau'r digwyddiad ofnadwy hwn.
"Mae'r ymchwiliad wedi datblygu'n gyflym, ac rydym yn gweithio'n galed i gadarnhau cymhelliad dros ladd Joanne.
"Rydym yn ystyried sawl llinell ymholi, gan gynnwys y posibilrwydd ei bod hi wedi dioddef achos o gam-adnabod.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am farwolaeth Joanne neu am yr hyn a ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i wneud y peth iawn a chysylltu â ni – gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hollbwysig."

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Green Park toc wedi 18:00 nos Sul
Dywedodd y llu fod dau gerbyd - Nissan Note lliw beige anarferol (BK61 ZDC) a Volvo XC40 du (FD24 PZF) - wedi teithio o ardal Caerlŷr i dde Cymru rhywbryd ar ôl 10:30 ddydd Sul, cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth o ran symudiadau'r cerbydau hynny, a'r unigolion oedd ynddynt.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Hughes: "Mae angen gwybodaeth arnom am symudiadau'r cerbydau hyn a'r unigolion a oedd yn y cerbydau, gan gynnwys unrhyw ddeunydd dashfwrdd, yn arbennig gan gerbydau masnachol, ar gyfer unrhyw deithiau ddydd Sul.
"Cafodd y ddau gerbyd eu hatafaelu yn dilyn yr arestiadau neithiwr a byddant yn destun archwiliad fforensig.
"Er bod gennym dimau o swyddogion yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn ymchwilio i ddeunydd o gamerâu teledu cylch cyfyng, rwyf hefyd yn apelio am unrhyw ddeunydd dashfwrdd neu ddeunydd camera teledu cylch cyfyng o ardal Llys Illtyd a'r parc manwerthu cyfagos rhwng 17:30 a 18:30 ddydd Sul, a allai ddangos y cerbydau hyn ac unrhyw dystion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mawrth