Dros 500 safle allai fod wedi eu llygru heb eu harchwilio yng Nghymru
Mae Huw Chiswell yn credu bod ei ferch Manon wedi cael ei gwenwyno gyda phlwm ar ôl bwyta pridd yn eu gardd pan yn blentyn
- Cyhoeddwyd
Mae o leiaf 698 o safleoedd yng Nghymru allai fod wedi eu llygru gyda chemegion neu fetelau gwenwynig a allai beri risg uchel i iechyd y cyhoedd, yn ôl ymchwil gan y BBC.
Dywedodd 13 o'r 22 cyngor sir wnaeth ymateb i gais y BBC am wybodaeth bod bron i 700 safle a allai beri risg uchel.
O'r rheiny, dim ond 112 o'r safleoedd sydd wedi cael eu harchwilio - er ei bod hi'n ofynnol i gynghorau archwilio safleoedd a allai fod wedi eu llygru.
Dywedodd y naw awdurdod lleol arall nad oedden nhw'n gallu, neu'n anfodlon rhannu'r wybodaeth gyda'r BBC.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod fod profi safleoedd sy'n cael eu hystyried yn risg uchel yn bwysig, ond bod hynny'n anodd oherwydd diffyg arian.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod wedi comisiynu adolygiad i edrych ar y sefyllfa, ond does dim mwy o arian wedi'i glustnodi ar hyn o bryd.

Huw Chiswell a'i ferch Manon pan yn ifanc
Mae teulu Manon Chiswell yn credu ei bod hi wedi cael ei gwenwyno tra'n blentyn ar ôl bwyta pridd yn yr ardd oedd yn cynnwys plwm - er nad yw hynny wedi ei brofi.
Eglurodd ei thad, y canwr a'r cerddor Huw Chiswell, ei fod wedi sylwi pan roedd hi'n 18 mis oed ei bod hi'n ymddwyn yn wahanol.
Dywedodd: "Tan o'dd hi'n flwydd a hanner o'dd hi'n hollol yn union fel ei chwaer - hynny yw, roedd hi wedi dechrau siarad, a wnaeth hynny yn sydyn iawn ddod i ben.
"Wnaeth hi wrthod siarad neu fethu siarad tua'r cyfnod hwnnw.
"Daeth hwnna yn gynyddol waeth wedyn wrth i amser mynd yn ei flaen... o'dd hi ddim eisiau edrych yn eich llygaid chi ac o'dd hi'n dueddol o gadw'i hun at ei hun."

Dangosodd prawf gwaed fod Manon wedi ei gwenwyno â phlwm, er nad oes prawf bod cysylltiad pendant â'r pridd yn ei gardd
Roedd rhai doctoriaid yn credu fod Manon yn awtistig, ond dangosodd prawf gwaed ei bod hi wedi ei gwenwyno â phlwm - metal gwenwynig sy'n gallu amharu ar ddatblygiad ymennydd plant ac achosi problemau i organau'r corff.
Roedd tŷ'r teulu yng Nghaerdydd wedi'i leoli ger hen reilffordd mewn ardal sy'n cael ei chysylltu gyda lefelau uchel o blwm.
Er nad oes modd profi mai'r pridd oedd ar fai, mae ei thad yn dweud fod ymddygiad Manon wedi "gwella yn weddol sydyn" ar ôl iddi roi'r gorau i'w fwyta.

Mae teulu Manon Chiswell yn credu ei bod hi wedi cael ei gwenwyno ar ôl bwyta pridd yn yr ardd oedd yn cynnwys plwm - er nad yw hynny wedi ei brofi
Bellach yn 20 oed, mae Manon yn cofio ei bod hi'n teimlo'n wahanol i blant eraill.
"O'n i'n ifanc... rwy'n cofio cael help o gwmpas yr ysgol, roedd rhywun efo fi yn helpu fi mas... roedd ganddon nhw ffyrdd arbennig o siarad i fi," meddai.
"Y peth rwy'n meddwl am fwyaf yw fy rhieni a beth wnaeth nhw fynd trwyddo, yn enwedig cyn i fi cael y tests a gwybod beth oedd yn bod.
"Oedd rhaid edrych ar ôl fi heb wybod beth oedd yn bod... rwy'n siŵr bod e'n anodd iawn."

Gallai tiroedd lle'r oedd hen ffatrïoedd, pwerdai, rheilffyrdd a safleoedd tirlenwi fod wedi eu llygru
Mae gwaith ymchwil gan raglen BBC Wales Investigates yn codi cwestiynau newydd am yr hyn sy'n dal i fod yn y tir o dan ein traed ers y dyddiau diwydiannol.
Mae 'na bryder y gallai fod sylweddau peryglus fel plwm neu arsenig yn y tir dan sylw, ac mae gwyddonwyr yn poeni y gallai beri risg i'r cyhoedd.
Gallai tiroedd lle'r oedd hen ffatrïoedd, pwerdai, rheilffyrdd a safleoedd tirlenwi fod wedi eu llygru gan fetelau neu ddeunyddiau oedd yn arfer cael eu defnyddio ar y safle.

Mae gan nifer o bobl sy'n byw yng Nghwmystwyth, fel Robin Williams, system i buro eu dŵr
Mae Robin Williams yn byw yn ardal Cwmystwyth yng Ngheredigion lle mae dros 400 o hen lofeydd metal Cymru.
Afonydd Ystwyth, Rheidol a Clarach yw rhai o'r afonydd mwyaf llygredig yn y DU.
Er bod y glofeydd wedi cau ers tro, mae lefelau uchel o zinc, cadmiwm a phlwm yn dal i fod yn y tir ac yn Afon Ystwyth.
Mae hynny'n golygu bod gan nifer o bobl sy'n byw yng Nghwmystwyth, fel Mr Williams, system i buro eu dŵr.

Afon Ystwyth yng Ngheredigion ydy un o'r afonydd mwyaf llygredig yn y DU oherwydd gorffennol diwydiannol yr ardal
Fe wnaeth y BBC gymryd sampl o bridd yn ei ardd ger Afon Ystwyth, ac fe ddangosodd hynny lefelau uchel o blwm - uwch na'r lefel diogel ar gyfer garddio.
"Fe wnaeth hynny wneud i fi boeni," meddai wrth y BBC.
"O edrych ar y ffigyrau o'r sampl, fe ddylen ni fod wedi rhoi'r gorau i dyfu llysiau amser hir yn ôl."
Dim ond un sampl yw hwn ond dywedodd bod sawl digwyddiad wedi bod ar ei dir allai fod yn gysylltiedig.
"Roedd ganddon ni hwyaid a ieir. Fe ddechreuodd rhai o'r hwyaid fynd yn gloff ac fe wnaethon ni siarad gyda milfeddyg oedd yn poeni mai plwm oedd y rheswm am hynny," meddai.
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn cydweithio'n gyson gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gadw golwg ar effaith yr hen weithfeydd metel ar iechyd y cyhoedd.
Diffyg arian i archwilio safleoedd
Mae ymgyrchwyr eisiau cyfraith newydd fyddai'n gorfodi cynghorau i gadw cofrestr gyhoeddus o bob safle allai fod wedi eu llygru.
Dywedodd Llywodraeth y DU bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i archwilio safleoedd allai fod wedi'u llygru ac y dylen nhw gael cofrestr gyhoeddus o unrhyw dir sydd wedi cael sylw ganddynt oherwydd pryderon llygredd.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi gofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd ddarparu adroddiad newydd ar dir allai fod wedi llygru.
Ond mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau yng Nghymru wedi dweud bod diffyg arian yn golygu nad oes modd iddyn nhw archwilio pob safle.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau yn cymryd eu cyfrifoldebau "o ddifrif" o ran archwilio safleoedd allai fod wedi llygru, ond bod gwneud hynny'n anodd "oherwydd diffyg buddsoddiad ac adnoddau arbenigol".