Cefnogwr Cymru 'yn iawn' ar ôl disgyn o stadiwm Gwlad Belg

Scott ReesFfynhonnell y llun, Scott Rees
Disgrifiad o’r llun,

Scott Rees (chwith) yn yr ysbyty gyda'i ffrindiau ar ôl disgyn o haen uchaf y stadiwm King Baudouin nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi cael ei anafu ar ôl disgyn o haen uchaf y stadiwm yn ystod gêm ragbrofol Cwpan y Byd yng Ngwlad Belg nos Lun.

Syrthiodd Scott Rees, 29, o'r haen uchaf i'r haen isaf yn stadiwm King Baudouin ym Mrwsel.

Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle cyn cael ei gludo i'r ysbyty ym Mrwsel, mae'r heddlu wedi cadarnhau.

Dywedwyd wrth y BBC ei fod wedi derbyn anaf bach i'w gefn a bod disgwyl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty.

stadiwm King Baudouin
Disgrifiad o’r llun,

Syrthiodd Scott o'r haen uchaf i'r haen isaf yn stadiwm King Baudouin

Wrth rannu llun o'i hun a'i ffrindiau yn yr ysbyty ar Facebook ar ôl y digwyddiad, dywedodd Scott: "Dwi'n iawn. Nes i ddisgyn o'r haen uchaf ond nes i ddim ond torri asgwrn bach yn fy nghefn. Gobeithio cafodd pawb noson dda."

Aeth Cymru ymlaen i golli 4-3 yn erbyn Gwlad Belg yn dilyn gôl hwyr, colled gyntaf i'r rheolwr newydd Craig Bellamy.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Macsen FAW 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Macsen FAW 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Gallwn gadarnhau bod un cefnogwr gwrywaidd wedi syrthio o'r haen uchaf i'r haen isaf yn ystod y gêm yn Stadiwm y Brenin Baudouin ym Mrwsel heno.

"Roedd yn ymwybodol ac yn siarad ac mae bellach wedi cael ei gludo i'r ysbyty am wiriadau pellach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.