Defnyddio technoleg i ddysgu'r genhedlaeth nesaf i ddelio â thrais

Dywedodd Megan Salter fod VR wedi caniatáu i heddlu dan hyfforddiant weld "sut brofiad fyddai ymateb i achos o drais domestig - ond mewn amgylchedd diogel"
- Cyhoeddwyd
Bydd cwrs prifysgol newydd - y cyntaf o'i fath yng Nghymru - yn defnyddio realiti rhithwir (VR) i geisio helpu i ddelio gyda thrais yn erbyn menywod.
Mae'r prosiect technoleg VR yn cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe fel rhan o radd meistr mewn rhywedd, pŵer a thrais, fydd yn dechrau fis Medi.
Yr amcangyfrif ydy bod tua 3,000 o droseddau trais yn erbyn menywod yn cael eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr bob dydd.
Mae Johanna Robinson, cynghorydd cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod a merched, yn croesawu'r cwrs, gan ddweud bod "dynameg cam-drin yn haenog a chymhleth".
Ychwanegodd Ms Robinson ei bod hi'n "hanfodol bwysig bod pobl sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr yn gwybod cymaint â phosib".
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi datgan bod trais yn erbyn menywod yn "argyfwng cenedlaethol", tra bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi galw'r sefyllfa yn bandemig iechyd cyhoeddus byd-eang.
Dywedodd yr uwch ddarlithydd Kelly Buckley - un o'r rhai sy'n gyfrifol am greu'r cwrs - bod y sgwrs gyhoeddus ar y mater "erioed wedi bod mor swnllyd".
Ychwanegodd hi fod y brifysgol yn gobeithio sicrhau "ein bod yn defnyddio gwybodaeth, tystiolaeth, theori a data - i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn y ffordd gywir".
'Cael y profiad mewn amgylchedd diogel'
Y gobaith ydy y gall y prosiect technoleg VR gael ei ddefnyddio gan swyddogion heddlu dan hyfforddiant.
Trwy glywed stori dioddefwr, y syniad ydy y byddai'n gwneud swyddogion yn ymwybodol o bethau mwy cynnil fel iaith y corff a sut mae rhywun yn ymateb - rhywbeth sy'n gallu dylanwadu ar barodrwydd goroeswr i siarad yn agored.
Dywedodd Megan Salter, wnaeth helpu i ddatblygu'r prosiect, fod VR wedi gwneud "gwaith da iawn", o ganiatáu i'r rhai sy'n cael eu hyfforddi i weld "sut brofiad fyddai ymateb i achos o drais domestig - ond mewn amgylchedd diogel".
Mae Ms Salter, myfyriwr ôl-raddedig 21, oed wedi bod yn gweithio gyda swyddogion heddlu dan hyfforddiant ar yr adnodd VR, i sicrhau bod ymatebion i ddioddefwyr yn debygol o fynd i'r afael â'r broblem.

Dywedodd Kelly Buckley fod y sgwrs gyhoeddus ar drais domestig "erioed wedi bod mor swnllyd"
Mae'r sefyllfaoedd VR wedi'u creu yn seiliedig ar brofiadau a mewnbwn gan oroeswyr cam-drin neu ymosodiad.
"Mae'n helpu pobl i sylwi ar bethau na fydden nhw eisiau eu gweld yn digwydd, o safbwynt y dioddefwr a'r heddweision," ychwanegodd Ms Salter.
Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio gyda'u Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi, Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol Aberystwyth, i greu'r adnodd fydd yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r cwrs meistr newydd.
Mae Kelly Buckley eisiau i fyfyrwyr fydd ar y cwrs helpu i ddatblygu prosiectau ymarferol fydd yn cael effaith go iawn.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo haneru'r achosion o drais yn erbyn menywod o fewn degawd - un o brif addewidion Llafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Dywedodd Johanna Robinson fod y teclyn realiti rhithiol yn "ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth".

Dywedodd Susie Hay fod y cwrs yn un "gwerthfawr iawn," ond fod "edrych ar y darlun cyfan hefyd yn teimlo'n bwysig iawn"
Mae Susie Hay yn bennaeth ymchwil a gwerthuso i elusen Safe Lives, ac mae hi'n gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i geisio trawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig.
Dywedodd hi fod y gwaith o fynd i'r afael â thrais domestig yn "dapestri gyda llawer o linynnau gwahanol, sy'n ein galluogi i weithio tuag at roi terfyn arno".
Ychwanegodd fod y cwrs yn un "gwerthfawr iawn," ond fod "edrych ar y darlun cyfan hefyd yn teimlo'n bwysig iawn".
Er y bydd nifer y graddedigion yn fach i ddechrau, mae hi'n credu y bydd yr effeithiau i'w teimlo ledled y wlad.