Trais yn erbyn menywod yn 'erchyll o gyffredin'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai.
Mae trais yn erbyn menywod yn parhau i fod yn "erchyll o gyffredin", yn ôl adroddiad newydd am sut beth yw bod yn fenyw yng Nghymru.
Mae adroddiad Cyflwr y Genedl gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn rhybuddio hefyd bod gwasanaethau cymorth arbenigol yn wynebu pwysau digynsail oherwydd galw cynyddol a diffyg cyllid.
Yn ôl ymgyrchydd blaenllaw yn y maes, sydd wedi goroesi trais yn y cartref, mae "cam-drin domestig a thrais yn argyfwng cenedlaethol".
Dywed Rachel Williams bod angen i'r cyhoedd ddeall yn well faint o fygythiad yw gweithredoedd "terfysgwyr domestig" o fewn cymdeithas.
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023
Fe gafodd Ms Williams ei saethu gan ei chyn-gymar yn 2001, ddiwrnodau ar ôl gofyn am ysgariad.
Cafodd ei hanafu'n ddifrifol pan aeth ei gŵr Darren i'r salon trin gwallt lle'r oedd hi'n gweithio a'i saethu.
Fe laddodd Williams ei hun ddiwrnodau wedi'r digwyddiad, a chwe wythnos yn ddiweddarach fe wnaeth mab Rachel, Jack, hefyd ladd ei hun yn 16 oed.
13 o flynyddoedd wedi'r cyfnod ofnadwy o drais a cholled, mae Ms Williams yn ymgyrchydd amlwg sydd yn brwydro am addysg ynglŷn â thrais yn y cartref.
“Dydw i ddim eisiau gweld teulu arall yn mynd trwy’r hyn aethon ni drwyddo," meddai.
Dywedodd Ms Williams ei bod yn credu y dylai cam-drin domestig a thrais gael eu trin fel "argyfwng cenedlaethol".
Ychwanegodd: "Rwy’n meddwl pe bai’r cyhoedd yn eu derbyn fel yr hyn ydyn nhw - maen nhw'n derfysgwyr domestig - fe fydden ni’n ei weld fel bygythiad mwy i fywyd mewn cymdeithas."
Yn ôl cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Victoria Vasey, mae niferoedd yr achosion o gam-drin yn erbyn menywod "yn syfrdanol o uchel".
Ychwanegodd fod "dod o hyd i ddata cadarn" am drais ar sail rhywedd a cham-drin "yn her".
Mae'r adroddiad yn dweud bod tua thri chwarter y troseddau sy'n ymwneud â cham-drin domestig, a dros 80% o'r ymosodiadau rhyw, yn erbyn merched.
Dywedodd Cymorth i Ferched Cymru hefyd fod "cynnydd sylweddol" mewn atgyfeiriadau ar gyfer eu gwasanaethau ers y pandemig.
"Mae achosion hefyd yn mynd yn fwyfwy cymhleth ac wedi cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw a'r argyfwng tai," meddai'r elusen.
Ychwanega'r elusen bod angen "cyllid cynaliadwy... er mwyn sicrhau bod goroeswyr yn parhau i dderbyn y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu".
Gobaith hefyd, er y pryderon
Mae adroddiad blynyddol Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru hefyd yn edrych ar fenywod yn yr economi, yn ogystal â’r rheiny mewn arweinyddiaeth a diwydiant.
"Mae’n hollbwysig cael menyw yn brif weinidog," meddai Victoria Vasey, gan ddyfynnu cydraddoldeb rhywiol mewn gwleidyddiaeth fel arwydd o obaith.
Mae gweld "cabinet benywaidd trawiadol" yn San Steffan, meddai, yn "gyffrous" ac yn "rhywbeth i'w ganmol", ond mae'r adroddiad yn awgrymu nad yw'r darlun "cystal" mewn llywodraeth leol.
"Mae cynrychiolaeth gan fenywod mewn llywodraeth leol yn nodedig o isel, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffem yn fawr iawn ei weld yn cael sylw ar gyfer y dyfodol," meddai Ms Vasey.
Ychwanegodd fod dadansoddi data i adlewyrchu profiadau gwahanol merched o gefndiroedd amrywiol yn "bwysig" os am sicrhau newid.
"Mae angen i ni dyrchu i mewn i’r data hwnnw [sy'n] cynnwys edrych ar brofiadau gwahanol grwpiau o fenywod.
“Os ydym am fynd i’r afael â’r materion sylfaenol sy’n golygu nad yw Cymru eto’n gyfartal o ran rhyw, mae angen i ni eu deall yn well."
'Hawl i bob menyw fyw yn rhydd o drais'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "gan bob menyw yr hawl i fyw yn rhydd o unrhyw drais, cam-drin a chamfanteisio".
Yn ymateb i'r adroddiad yn ehangach, dywedodd eu bod yn "parhau i weithio'n galed i greu Cymru hafal a lle mae gan bawb y cyfle i chwarae ei rôl yn y gymdeithas a'r economi.
"Rydym wedi ymroi i hyrwyddo gwaith teg ar draws Cymru i gyfeirio at y bwlch cyflog fel rhan o hyn."