Rhybudd bod cydraddoldeb menywod yn 'mynd am yn ôl'

Johanna Robinson
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd bod cydraddoldeb menywod yn "mynd am yn ôl", wrth i ymchwil ddangos bod rhai dynion yn credu bod cydraddoldeb wedi "mynd yn rhy bell".

Yn ôl Johanna Robinson, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, mae "cyfran sylweddol" o ddynion y mae hi'n siarad â nhw yn credu bod cydraddoldeb wedi mynd yn rhy bell.

Daeth ymchwil y llynedd i'r casgliad bod 47% o bobl yn credu bod digon wedi ei wneud i roi hawliau cyfartal i fenywod a dynion.

Yn siarad ar bodlediad Walescast y BBC, dywedodd cyfreithwraig bod teimlad o "wthio'n ôl" yn erbyn hawliau menywod.

'Tân ar groen rhai dynion'

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae rhai yng Nghymru wedi codi pryderon am hawliau merched.

Johanna Robinson ydy cynghorydd cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod, ac mae hi wedi rhannu ei phrofiad ei hun o gamdriniaeth yn y gorffennol.

"Pan dwi'n siarad gyda menywod ifanc dwi'n cael braw o glywed eu profiadau, ac yn wir dydyn nhw ddim mwy diogel nag oeddwn i yn eu hoedran nhw," meddai.

"Un o'r pethau i fi sy'n dangos hyn yw siarad gyda menywod am eu profiadau dydd i ddydd - mynd i'r gampfa a bod nhw'n dewis mannau diogel neu amseroedd diogel."

Er bod newidiadau positif wedi bod, dywedodd bod hynny wedi gwylltio rhai dynion.

"Mewn rhai ffyrdd chi'n gweld bod hynny'n dân ar groen dynion, bod menywod yn gwella ac maen nhw'n teimlo bod cydraddoldeb y rhywiau wedi mynd yn rhy bell."

Hefyd yn siarad ar y podlediad oedd y cyn-AS Sian James, oedd yn flaenllaw ymysg y merched wnaeth greu grwpiau cefnogi ar adeg streic y glowyr yn 1984.

Dywedodd ei bod yn un o lawer o "fenywod chopsy" yn ei theulu, ac nad oedd hi ofn dweud hynny: "Menywod chopsy sy'n newid y byd."

"Yn sydyn yn '84 roedd menywod wir ar flaen y gad; mae'n rhoi pŵer, mae'n rhyddhad."

'Gwthio'n ôl yn erbyn hawliau menywod'

Er yn gweld gwelliannau, mae'n pryderu nad oes digon wedi newid.

"Dwi wedi 'laru gyda phobl yn dweud i beidio bod yn woke," meddai.

"Dydy e ddim, mae'n hawliau dynol syml a bydda i'n parhau i frwydro drostyn nhw mor hir ag y galla i."

Dywedodd y gyfreithwraig Helen Molyneux, sydd hefyd yn sylfaenydd cynllun Monumental Welsh Women, ei bod yn "poeni bod 'na wthio'n ôl yn erbyn hawliau menywod".

"Mae bron rhyw fath o hysteria ynghylch y ffeithiau fel bod mwy o ferched yn feddygon na dynion, neu bod merched yn cael cyflogau uwch na dynion mewn rhai grwpiau oedran."

Gwrandewch ar bodlediad Walescast ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig