Merfyn Davies, 'gohebydd lleol go iawn', wedi marw

Merfyn
Disgrifiad o’r llun,

Merfyn Davies adeg ei ben-blwydd yn 80 oed

  • Cyhoeddwyd

Yn 87 oed bu farw Merfyn Davies, a fu'n ohebydd i raglenni BBC Cymru yn y gogledd-ddwyrain am ddegawdau.

Mab fferm o Ddyffryn Ceiriog oedd Merfyn a bu'n ffermio ei hun yn ei ddyddiau cynnar.

Ond yn 1977 fe ddechreuodd gyfrannu i raglenni Radio Cymru a bu'n cyfweld â channoedd o bobl am eu hamrywiol brofiadau.

Yn ystod ei flynyddoedd diweddaraf wrth y gwaith roedd ganddo stiwdio yn ei dŷ ac fe ddaeth y stiwdio yn Abergele yn gyrchfan cyson i ddegau o westeion.

'Nabod pobl ei filltir sgwâr'

Dechreuodd ymddiddori mewn rhaglenni radio wedi i'w dad brynu radio iddo yn y 1940au o garej yng Nglyn Ceiriog ond fe ddaeth y diddordeb go iawn wedi sefydlu Radio Cymru yn 1977.

Bu'n cyfrannu eitemau yn achlysurol ar y dechrau i raglenni fel Helo Bobol ac yn nechrau'r 1980au wedi iddo symud i Abergele daeth i ohebu'n llawn amser.

Roedd Tomos Morgan yn un o gynhyrchwyr Helo Bobol ac wedi hynny yn gynhyrchydd yn yr adran newyddion ac wrth gofio amdano dywedodd nad oedd Merfyn "fyth yn eich gadael i lawr fel gohebydd, roedd e'n ddyn hynod o hawddgar ac yn ohebydd oedd yn 'nabod pobl ei filltir sgwâr".

Dywedodd ei fod hefyd yn cofio amdano yn trefnu darllediad allanol o Sw Caer gan ddenu gwesteion lu ac ar ben-blwydd Helo Bobol yn 10 oed fe drefnodd gyngerdd mawreddog yn llawn artistiaid poblogaidd o Gastell Bodelwyddan.

Fe ddechreuodd Merfyn Davies ei yrfa darlledu yn gweithio i dîm Helo Bobol
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Merfyn Davies ei yrfa darlledu yn gweithio i dîm Helo Bobol

Roedd John Meredith yn un o ohebwyr Helo Bobol hefyd ac yn ddiweddarach yn ohebydd newyddion.

"Roedd Merfyn yn berson hynod o gyhoeddus, yn 'nabod ei bobl ac ro'dd pobl yn ei nabod e ac yn gwbl gartrefol yn ei gwmni," meddai ar raglen Dros Frecwast fore Llun.

"Roedd e hefyd yn gyflwynydd Noson Lawen ac yn un o fynychwyr cyson y Sioe Amaethyddol gan baratoi nifer o eitemau i fwletin amaeth Radio Cymru.

"Fel gohebwyr llawrydd roedden ni'n cael ein talu fesul munud ar un adeg ac felly y nod oedd darparu pecyn dros bedair munud - ond weithiau byddai ryw gynhyrchydd yn torri eiliadau fel bod y pecyn yn llai na phedair munud a doedd hynny ddim wrth fodd Merfyn.

"'Mae Beeching wedi bod wrthi eto â'i fwyell' fyddai ei eiriau fe wastad gan y byddai felly yn cael llai o arian am ei waith!

"Bydd colled fawr ar ôl Merfyn ac rwy'n cydymdeimlo gyda Nova a'r teulu cyfan."

'Dawn dweud stori'

"Mi gefais i'r fraint a'r pleser o gydweithio hefo Merfyn dros flynyddoedd lawer," meddai Garffild Lloyd Lewis, cyn-olygydd newyddion Radio Cymru.

"Roedd ganddo'r ddawn o ddweud stori mewn ffordd syml a chynnes ond yn bwysicach fyth roedd gan Merfyn rwydwaith o gysylltiadau lleol yn ardaloedd Abergele, y Rhyl, Bae Colwyn a chefn gwlad siroedd Conwy a Dinbych.

"Mewn ardaloedd lle'r oedd hi'n anodd iawn ar adegau i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg, roedd Merfyn wastad yn llwyddo i gyfweld â rhywun oedd wedi cael profiad anffodus neu lwyddiant ysgubol, a'i ddawn holi yn creu perlau o eitemau i newyddion Radio Cymru.

"Roedd yn ohebydd lleol go iawn gyda thrwyn am stori, ac yn gymeriad cynnes, hawddgar a direidus. Doedd 'na ond un Merfyn Davies."

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 fe gafodd ei anrhydeddu â'r wisg las am ei gyfraniad fel newyddiadurwr ond hefyd am ei gyfraniad i'r Urdd a chymdeithasau lleol eraill.

Bu hefyd yn is-gynhyrchydd a pheiriannydd cylchgrawn tâp y deillion Y Gadwyn ac fe gyhoeddodd ddau lyfr - Mewn Gwisg Nyrs a'i hunangofiant Fy Nghwys Fy Hun.

Mae'n gadael ei weddw Nova a phedwar mab a'u teuluoedd.

Pynciau cysylltiedig