'Pryder' am ddefnydd isel o'r Gymraeg yn y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiwn y Senedd yn "bryderus am y patrymau ynghylch defnydd y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar" yn y sefydliad.
Daw'r sylw gan Adam Price, y comisiynydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol, wedi iddi ddod i'r amlwg fod cyfraniadau Cymraeg yn isel yn y Senedd.
Dim ond 1% o gwestiynau ysgrifenedig i weinidogion a gyflwynwyd yn Gymraeg yn 2023-24, a dim ond 3% o'r cynigion sy'n cael eu trafod mewn cyfarfodydd llawn a gyflwynwyd yn Gymraeg.
Dim ond 9% o drafodion pwyllgorau oedd yn Gymraeg yn 2023-24, o gymharu â 12% yn 2021-22 ac 8% yn 2022-23.
Mae canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn wedi gostwng ychydig i 28%, o 30% yn y ddwy flynedd flaenorol.
Mae Siân Gwenllian, AS Arfon, wedi dweud fod y Senedd yn gweithredu dan fframwaith sy'n "hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na’r Gymraeg" sy'n "tanseilio'r ymdrechion" i hyrwyddo’r Gymraeg "ac yn beth od iawn i'w wneud".
'Ffigyrau'n destun pryder'
O ran dewis iaith yr aelodau wrth gyflwyno busnes, ymatebodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - bod "hyfforddiant ar gael i aelodau a staff cymorth sy’n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg ysgrifenedig, a byddwn yn mynd ati i hyrwyddo’r hyfforddiant ymhellach er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus i ddefnyddio’u sgiliau wrth gyflwyno busnes".
O ran canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau a chyfarfodydd llawn, dywedodd Comisiwn y Senedd: "Gall aelodau dderbyn cefnogaeth yn eu dewis iaith swyddogol wrth baratoi ar gyfer trafodion y cyfarfod llawn a phwyllgorau, gan gynnwys dogfennau briffio.
"Mae nifer o faterion allanol yn effeithio ar ganran y cyfraniadau gan gynnwys dewis iaith tystion sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau, a natur llai strwythuredig y trafodaethau mewn cyfarfodydd pwyllgorau."
Serch hynny, meddai'r Comisiwn, "mae’r ffigyrau yn destun pryder".
"Byddwn yn parhau gyda’n hymdrechion i sicrhau bod aelodau ac eraill sy’n cymryd rhan mewn trafodion yn ymwybodol o’u hawl i ddefnyddio’u dewis iaith mewn trafodion, ac yn hyderus i wneud hynny.
"Yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaethau megis hyfforddiant wedi’i deilwra i’r Aelodau sy’n dysgu Cymraeg, dogfennau briffio dwyieithog a geirfaoedd, byddwn hefyd yn mynd ati i ymgysylltu ag Aelodau, Staff Cymorth a Staff y grwpiau i drafod y mater.
"Y bwriad yw deall yn well y rhesymau dros y gostyngiad mewn cyfraniadau Cymraeg, a thrafod pa fath o gefnogaeth fyddai’n eu hannog i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn trafodion."
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol gan y Comisiwn am eu darpariaeth o ran cydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn 2023-24.
Dywedodd Adam Price: "Byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau o’r Comisiwn a fforymau allweddol eraill, megis Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgorau, pa gamau ymarferol pellach y gallwn eu rhoi ar waith dros y misoedd nesaf gyda golwg ar geisio adfer perfformiad i lefelau blaenorol yn y lle cyntaf, ac i esgor ar ragor o ddefnydd o’r Gymraeg wrth i aelodau a’u staff gyflwyno busnes yn ysgrifenedig ac i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn a’r Pwyllgorau maes o law."
Ychwanegodd: "Fel aelodau, partneriaid, ac heb os, fel dinasyddion Cymru, rwyf am i ni herio’n gilydd a holi: beth mwy sydd angen ei wneud i sicrhau y gellir ymwneud yn llwyr ac yn ddirwystr â busnes a gwaith y Senedd yn Gymraeg, fel y gellir ei wneud yn Saesneg ar hyn o bryd?
"Sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol gydradd â’r Saesneg yn ein trafodion ac yng ngweinyddiaeth y Senedd?
"Ac yn bwysicach oll, sut ydym ni’n atebol i’r bobl ydym ni’n eu gwasanaethu – sef dinasyddion Cymru – am ein perfformiad ac yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech genedlaethol, drawsbleidiol, i gynllunio dyfodol i’r Gymraeg?"
Tra bod cyfraniadau Aelodau o'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer cofnod y Senedd, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu o Gymraeg i Saesneg yn unig.
'Peth od iawn'
Mewn dadl yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Siân Gwenllian, AS Arfon, fod ganddi "bryderon am sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i defnyddio" yn y Senedd.
Esboniodd, "mae’r Senedd yma yn gweithredu o dan fframwaith cyfreithiol sy’n rhoi pwyslais ar hyrwyddo dewis iaith, yn hytrach na hyrwyddo’r Gymraeg".
"Ond mae pob dim rydyn ni’n ei wybod am gynllunio ieithyddol yng Nghymru, ac yn wir, polisi iaith cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio hyrwyddo’r Gymraeg.
"Yn anffodus, mae’r fframwaith presennol, sydd yn arwain at hyrwyddo dewis iaith yn hytrach na’r Gymraeg, yn tanseilio'r ymdrechion ac yn beth od iawn i fod yn ei wneud."
Atebodd Adam Price, “ry’ ni yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, yn hytrach na hyrwyddo. Ac, wrth gwrs, does dim problem gyda ni yn y Senedd ynglŷn â'r Saesneg”.
O ran y defnydd isel o'r Gymraeg mewn pwyllgorau, dywedodd AS Plaid Cymru Heledd Fychan, "mae hi’n anodd os ydych chi’r unig berson sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar adegau".
"Mae yna rôl bwysig gan y cadeiryddion, dwi’n credu, o ran atgoffa, pan mae tystion yn dod i fewn, bod croeso iddyn nhw ateb yn y Gymraeg."
Dywedodd AS Llafur Delyn, Hannah Blythyn: "Fis diwethaf, fe wnes i fy arholiad Cymraeg cyntaf".
"Dwi’n hapus i fod yn dysgu Cymraeg, a dwi’n ceisio defnyddio ychydig o Gymraeg pan allaf i.
"Dwi’n cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cynllun ieithoedd swyddogol yn cefnogi hyn".
Dywedodd Tom Giffard AS bod y Ceidwadwyr Cymreig "yn gwybod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a hefyd pwysigrwydd rydym ni fel Senedd yn rhoi fel enghraifft i bobl, dwi’n credu, ar draws Cymru, am beth rydych chi’n gallu gwneud yn y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg drwy’r dydd".
Pam gosod is-ddeddfwriaeth yn Saesneg yn unig?
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Senedd Cymru wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â mater hirsefydlog yn ymwneud â rhai mathau o is-ddeddfwriaeth sy'n cael eu gosod yn Senedd Cymru yn Saesneg yn unig.
Esboniodd Comisiwn y Senedd: "Pan mae'n ofynnol gosod rhai mathau o is-ddeddfwriaeth yn y Senedd a Senedd y DU, mae Llywodraeth Cymru o’r farn – gan nad oes unrhyw weithdrefnau seneddol arferol yn bodoli yn San Steffan ar gyfer gosod offerynnau statudol dwyieithog – fod yn rhaid eu gosod yn y Senedd yn uniaith Saesneg.
"Mae'r pwyllgor a'i ragflaenwyr wedi dwyn achosion o'r fath i sylw'r Senedd.
"Fodd bynnag, yn hydref 2023 penderfynodd ofyn i bwyllgorau yn Senedd y DU am eu barn ar y rhwystrau gweithdrefnol a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth Cymru.
"Ym mis Ionawr 2024, ymatebodd pwyllgorau gweithdrefnau dau Dŷ'r Senedd i'r pwyllgor yn dweud nad oes unrhyw weithdrefnau'n atal gosod offerynnau dwyieithog yn y naill Dŷ neu'r llall.
"Yn dilyn hynny, trosglwyddodd y pwyllgor y wybodaeth hon i Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru."
Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw: "Rwy’n hynod falch nodi bod pwyllgorau perthnasol Senedd y DU wedi cadarnhau nad oes rhwystrau gweithdrefnol rhag gosod offerynnau dwyieithog ger eu bron".
"Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd y gyfraith ac fel rhan o’n gweledigaeth ar gyfer hybu a hwyluso’r Gymraeg fel iaith y gyfraith, rydym am weld pob offeryn statudol, gan gynnwys cyd-offerynnau ac offerynnau cyfansawdd, yn cael eu gwneud yn ddwyieithog".
Ond ychwanegodd, "oni bai bod Llywodraeth y DU am newid ei safbwynt hirsefydlog mai yn Saesneg yn unig y dylid gwneud cyd-offerynnau, a hyd nes i hynny ddigwydd, cawn ein llesteirio gan rwystr sylweddol rhag gwneud cyd-offerynnau yn ddwyieithog.
"Mae’n destun siom mai cyfyngedig yw’r datrysiadau sydd ar gael inni ar gyfer newid hyn".