Dyn o Fôn ymhlith yr 16 fu farw ar ôl damwain ffwnicwlar Lisbon

Dywedodd teulu David Young ei fod yn mwynhau teithio ac yn ymddiddori mewn gwahanol fathau o drafnidiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Heddlu wedi cadarnhau fod dyn o Ynys Môn ymhlith yr 16 o bobl fu farw mewn damwain ffwnicwlar yn Lisbon wythnos diwethaf.
Roedd David Young, 82, o ardal Caergybi yn teithio ar ffwnicwlar Glória pan ddaeth y cerbyd oddi ar y rheiliau a gwrthdaro ag adeilad am tua 18:15 ddydd Mercher, 3 Medi.
Dros y penwythnos fe gadarnhaodd Heddlu Sir Caer bod dau berson arall o Brydain wedi marw yn y digwyddiad - Kayleigh Smith, 36, a'i phartner Will Nelson, 44.
Wrth roi teyrnged i Mr Young dywedodd ei deulu ei fod yn gysur gwybod bod y teithiwr brwd wedi treulio "ei eiliadau olaf wrth ddilyn yr hobi a roddodd gymaint o hapusrwydd iddo".

Bu farw 16 o bobl wedi'r gwrthdrawiad ar ddydd Mercher, 3 Medi
Gydag 20 arall wedi eu hanafu a phump yn ddifrifol wael, mae'r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel un o'r rhai gwaethaf yn hanes Portiwgal.
Mae rheilffyrdd ffwnicwlar y ddinas - Glória, Lavra, Bica a Graça - yn atyniadau poblogaidd iawn ac yn adnabyddus am eu cerbydau melyn tebyg i dramiau.
Dydy'r awdurdodau dal ddim yn gwybod beth achosodd y digwyddiad.
Mae gweithredwr trafnidiaeth gyhoeddus Portiwgal, Carris, wedi dweud y byddai pob ffwnicwlar yn cael eu harchwilio a bod ymchwiliad annibynnol wedi'i lansio.
Ymhlith y rhai fu farw mae dinasyddion o wledydd ar draws y byd gan gynnwys Portiwgal, De Corea, Y Swistir, Canada, Wcráin, Ffrainc a'r Unol Daleithiau, meddai'r heddlu.

Mae'r awdurdodau ym Mhortiwgal yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad
Wrth roi teyrnged i Mr Young dywedodd ei deulu ei fod "yn frwdfrydig dros drafnidiaeth drwy gydol ei oes" ac ar ôl iddo ymddeol roedd yn "mwynhau ymweld â rheilffyrdd treftadaeth a thramffyrdd ledled y byd.
"Mae'n gysur i'w feibion, eu mam, a'i frodyr y treuliodd ei eiliadau olaf yn dilyn yr hobi a roddodd gymaint o hapusrwydd iddo."
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Mr Young, sydd wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod yr amser anodd hwn.

Roedd David Young yn "gymeriad", meddai AS Ynys Môn, Llinos Medi
Mae marwolaeth Mr Young "yn drychinebus i'r teulu, i'w ffrindia' ac i'r gymuned yng Nghaergybi ac ar draws Ynys Môn", medd AS Ynys Môn, Llinos Medi.
Dywedodd ei bod wedi "dod ar ei draws yn bersonol sawl gwaith ac roedd yn gymeriad rhadlon".
"Mae'n rhaid i ni [fel cymuned] ddod at ein gilydd i ddangos ein cefnogaeth [i'r teulu] ac i fi yn y swydd yma hefyd weld sut galla'i fod o gymorth i'r teulu yn yr amser trist ofnadwy yma."
Ychwanegodd ei bod mewn cysylltiad â'r teulu i gynnig cymorth gyda materion fel hwyluso trefnu cludo'i gorff o Bortiwgal.
'Cario rhubanau du er cof amdano'
Mewn teyrnged iddo dywedodd Rheilffordd Talyllyn fod David Young wedi gwirfoddoli gyda nhw am sawl blwyddyn.
"Mae ein calonnau'n mynd allan at ei deulu a'i ffrindiau, ac wrth gwrs at bawb sydd hefyd wedi colli rhywun yn y ddamwain drasig yma," meddai llefarydd.
"Heddiw bydd ein trenau'n cario rhubanau du er cof amdano."
Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer, ei fod yn "drist iawn" a bod "ei feddyliau gyda'r teuluoedd a'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn".
"Rydym yn sefyll yn unedig â Phortiwgal yn ystod yr amser anodd hwn" ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.