Glan-llyn yn 75 : Cofio'r dyddiau cynnar a 'gormod o sŵn o room 8!'

Gwenda Morgan (ar y dde) a'i ffrindiau yng Ngwersyll Glan-llyn yn 1951Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwenda Morgan (ar y dde) a'i ffrindiau yng Ngwersyll Glan-llyn yn 1951

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Wersyll yr Urdd, Glan-llyn gynnal gŵyl arbennig i nodi eu pen-blwydd yn 75 oed, mae un o ymwelwyr y blynyddoedd cynnar wedi bod yn hel atgofion.

Aeth Gwenda Morgan i'r gwersyll ar lan Llyn Tegid yn 1951 - blwyddyn ar ôl i'r drysau agor am y tro cyntaf.

Tri pherson ar gwch Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Argraff gynta Gwenda Morgan o'r gwersyll oedd gweld Cwch 'Brenin Arthur' oedd yn cludo gwersyllwyr ar draws y llyn

"O'dd pedair ohonon ni yn cynrychioli Aelwyd Amanwy ym Mrynaman, a chael y cyfle i fynd i Lan-llyn.

"Wrth gwrs o'dd hi wedi bod yn amser rhyfel - o'n i ddim wedi bod ar wyliau o gwbl, felly odd e rhyw antur fawr i ddweud y gwir," meddai.

Mae'n cofio ei hargraffiadau cyntaf o gyrraedd y gwersyll, a chroesi'r llyn ar gwch 'Y Brenin Arthur' draw i'r plasty

"Wedyn on i'n cael ein rhannu - bechgyn lawr i'r pebyll yng nghornel y cae, a ninnau yn mynd i'r plasty, a'r bedair ohonon ni yn yr un ystafell fawr."

Profiadau newydd

Roedd rhannu ystafell yn brofiad newydd, ac yn amlwg roedd y bedair o Frynaman yn llawn cyffro.

"Y bore cynta, - bore dydd Sul, ar ôl i'r warden wneud y cyhoeddiadau, 'mae un gŵyn da fi' medde fe, 'gormod o swn o room eight'.

"Dydd Llun yr un peth... wel erbyn dydd Mawrth odd hi'n fath o gorws Groegaidd a phawb yn ymuno i ddweud 'gormod o swn o room eight'!

"Bore dydd Mercher fe geson ni'n galw mewn i swyddfa'r warden a rhybudd ola' - os oes rhagor o sŵn, pack your bags fydde hi a gartref â ni!"

Gwenda Morgan yn ei chartref yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae atgofion y gwyliau yng Nglan-llyn yn glir yng nghof Gwenda Morgan

"Bore dydd Sul, fe gerddon ni i Lanuwchllyn, i'r gwasanaeth.... oedd yn dipyn o daith," ychwanegodd Gwenda Morgan wrth gofio am y dyddiau cynnar yn y gwersyll.

"Wedyn un prynhawn fe gethon ni'n hala mas i grwydro'r Aran ar ôl cinio, a ni'n pedair oedd yr ola' i gyrraedd yn ôl erbyn swper - o'n i wedi colli'n ffordd.

"Peth arall dwi'n cofio ar ddydd Iau o'dd carnifal a'r rhai enillodd o'dd dau fachgen o'r gogledd wedi'u gwisgo fel Adda ac Efa - so fe gawson nhw eu taflu mewn i'r llyn!"

Rhialtwch y noson olaf

"Ar y noson olaf o'n ni i gyd wedi bod yn yr epilog, a lan â ni i'r ystafelloedd, a wedyn edrych mas trwy'r ffenest a gweld rhyw griw lawr wrth y 'Brenin Arthur'.

"Fe aethon ni lawr i ymuno â nhw, a mynd ar y 'Brenin Arthur' lan y llyn, ac odd hi siwr o fod tua chwarter i unarddeg y nos, a fel odd y cwch yn mynd, och chi'n gweld goleuadau yn dod mlaen yn ffenestri'r ffermydd

"Pan ddethon ni nôl, odd 'na warden a'r swyddogion yn aros amdanon ni - o'n nhw wedi cael galwadau ffôn bod shwd sŵn....

"O'n i wedi bod yn canu trwy'r amser, odd 'Bing Bong' yn ei chael hi, a 'Ffarwel i Blwy Llangywer' - odd hi wedi bod yn dipyn o sbri a helynt."

Mae cyfle i gwrdd â ffrindiau o rannau eraill o Gymru hefyd wedi creu argraff ar dair cenhedlaeth o deulu Gwenda Morgan

"Fe aeth y ferch, Eleri, yno yn ei harddegau ac mae wedi gwneud ffrindiau oes, a nawr mae'r wyres, Mari, wedi bod yno a gweud yr un peth.

"Ond wrth gwrs doedd dim byd i gymharu ... basic iawn oedd hi pan o'n i yno!"

Cwch yn croesi Llyn Tegid gyda Glan-llyn yn y cefndirFfynhonnell y llun, Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn, mae Glan-llyn yn denu 30,000 o wersyllwyr y flwyddyn

Wrth edrych yn ol dros bron i dri chwarter canrif, mae'n amlwg bod yr wythnos yng Nghlan-llyn wedi creu argraff

"Mae'n atgof i o'r gwyliau 'na, lawer mwy byw na phan dwi wedi bod ar wyliau ar hyd y byd wedyn," ychwanegodd Gwenda Morgan.

"Mae wedi sefyll gyda ni oherwydd, efallai, y cyfnod - pedair blwydd oed o'n pan ddechreuodd y rhyfel, o'dd pethe wedi bod mor wael...

"Hyd yn oed lan hyd at yr amser aethon ni, o'n i ar rations, so odd e'n rhywbeth hollol newydd, a thipyn o hwyl a sbri."

Daeth degau o bobl ynghyd ddydd Sadwrn i ŵyl Glan-llyn, a dyma gip o'r dathlu.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Plant yn glan llyn,