Beth yw gwerth gwersyll Glan-llyn i economi Gwynedd?

Caiacau yn arnofio ar Lyn Tegid tra bod plant i'w gweld yn rhywfo ar gwch arall yn y gorwel.
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad diweddar yn dweud bod gwersyll Glan-llyn gwerth £3.2m i economi Gwynedd bob blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy penwythnos o ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu gwersyll Glan-llyn, mae economegydd yn dweud bod gwerth economaidd y ganolfan yn "fwy na mae ffigyrau yn ei ddangos".

Mae cyfraniad uniongyrchol y gwersyll i economi Gwynedd gwerth oddeutu £3.2m yn flynyddol gyda'r "profiadau i bobl ifanc" yn werthfawr i'r economi hefyd, yn ôl Dr Edward Tomos Jones.

Mae dros filiwn o bobl wedi ymweld â gwersyll Glan-llyn ers ei sefydlu fel canolfan swyddogol gan yr Urdd yn 1950.

Bydd yr Urdd yn cynnal Gŵyl Glan-llyn i nodi pen-blwydd arbennig y gwersyll ger Y Bala.

Dynes gyda gwallt melyn a llygaid glas yn eistedd o flaen wal sydd wedi eu gorchuddio mewn logo coch, gwyn a gwyrdd Urdd Gobaith Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis yn gobeithio buddsoddi mwy yn y ganolfan dros y blynyddoedd nesaf

Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, agorodd ddrysau'r gwersyll, a hynny am ei fod am weld canolfan parhaol a phwrpasol yn cael ei sefydlu yng ngogledd Cymru.

Y nod oedd creu cyfleoedd i gymdeithasu, a phrofi gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.

'Buddsoddi, buddsoddi, buddsoddi'

"Buddsoddi, buddsoddi, buddsoddi," yw gweledigaeth yr Urdd ar gyfer datblygu Glan-llyn, yn ôl y Prif Weithredwr Sian Lewis.

"Maen bwysig ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu ni, yn parhau i ddatblygu gweithlu ifanc a chymhwyso a chadw gweithlu yng Nglan-llyn," meddai.

"Ond hefyd, buddsoddi o ran isadeiledd y gwersyll achos 'dan ni yn barod wedi gwario £2m ar ganolfan ddŵr newydd a llety newydd yng Nglan-llyn isaf.

"Ar gyfer y dyfodol, mae bwrdd ymddiriedolwyr yr Urdd yn barod wedi buddsoddi arian sylweddol dros y tair blynedd nesaf i wella isadeiledd llety'r gwersylloedd.

"'Dan ni'n trafod gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gael canolfan fowlio deg newydd yng Nglan-llyn ac ehangu'r ffreutur.

"Mae'r nifer sy'n ymwneud a Glan-llyn llawer iawn mwy nag oedd o 20 mlynedd yn ôl felly rydyn ni angen parhau i ddatblygu i ymateb i'r anghenion yna."

Erbyn heddiw, mae Glan-llyn yn denu 30,000 o wersyllwyr y flwyddyn, yn cyflogi hyd at 60 aelod o staff ac yn cynnig prentisiaethau ym maes gweithgareddau awyr agored.

Yn ôl Dr Edward Tomos Jones, sydd yn economegydd ym Mhrifysgol Bangor, mae'n anodd mesur neu roi ffigwr ar gyfraniad economaidd yr Urdd a Glan-llyn.

"Mae mwy o effaith nag beth mae'r ffigyrau yn dangos. Os ydyn ni'n meddwl am y profiad mae'r plant yn ei gael o fynd yna - maen nhw'n dysgu i fod yn greadigol, i arwain tîm ac i gyfathrebu a chyflwyno," esboniodd.

"Os ydyn ni'n meddwl am economi'r dyfodol a'r effaith bydd AI [deallusrwydd artiffisial] yn ei gael ar fusnesau. Dyna'r sgiliau fydd busnesau eu hangen. Nid yn unig mae llefydd fel hyn yn rhoi cyfleoedd i blant ond bydd y plant hefyd yn cael effaith bositif ar economi'r dyfodol."

Yn ôl adroddiad gan Arad Research ar werth economaidd yr Urdd yn 2022-2023, mae'r gwersyll yn cyfrannu £3.2m i economi Gwynedd yn flynyddol.

Mae'n ychwanegu bod £0.9m yn cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol pob blwyddyn gyda £1.3m yn cael ei wario ar gyflogau staff sydd yn byw yng Ngwynedd.

Cigydd yn ei got wen yn gwisgo ffedog streipiog ac yn sefyll yn ei siop o flaen y cownter cig.
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n hawdd adnabod plant Glan-llyn", meddai Mark Watkins

Pob deuddydd, mae Mark Watkins yn paratoi archeb o gig sydd yn mynd i wersyll Glan-llyn. Mae'n cynnig llif cyson o arian iddo, trwy fisoedd tawelach y gaeaf.

Fe ddywedodd fod "busnesau lleol yn elwa o gael y gwersyll yma".

"Maen nhw'n cefnogi busnesau lleol sydd yn dda. Gallen nhw fynd i'r firms mawr a chael pethau ychydig yn rhatach falle, ond maen nhw'n dewis cefnogi busnesau lleol.

"Mae digon hawdd gweld y plant sydd wedi dod o Lan-llyn pan maen nhw'n cerdded o gwmpas y dref yma."

Perchennog yn sefyll yn ei siop o flaen rhai o'r nwyddau. Mae ganddi wallt cyrliog brown ac yn gwisgo sbectol.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwersyll "yn bendant" yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau cyfagos, meddai Ria Fergus-Jones

Cytuno mae Ria Fergus-Jones gan ddweud bod "un diwrnod yr wythnos lle mae criwiau o bobl ifanc yn dod i mewn i'w siop ac yn gwario eu pres poced ar anrhegion i fynd adref".

"Plant ydyn ni'n sylwi arnyn nhw sydd yn dod o Lan-llyn ond maen siŵr bod 'na deuluoedd hefyd ond ein bod ni ddim yn sylweddoli bod nhw'n aros yng Nglan-llyn," meddai.

"Weithiau mae grwpiau o ddysgwyr yn dod i'r siop i gael ymarfer eu Cymraeg, mae o'n bendant yn cyfrannu i'r dref trwy'r arian sy'n cael ei wario gan yr ymwelwyr yma."

Bydd Gŵyl Glan-llyn yn cynnwys gweithgareddau anturus megis canŵio a chwrs rhaffau uchel, yn ogystal â sgyrsiau am hanes cyfoethog y Gwersyll. Daw'r dathliadau i ben gyda cherddoriaeth fyw gan fandiau Cymraeg.