Mab biliwnydd o Gymru yn y ras am 10 Oscar
- Cyhoeddwyd
Mae mab un o ddynion busnes mwyaf llwyddiannus Cymru yn y ras am 10 Oscar yng Ngwobrau'r Academi eleni.
Trevor Matthews - mab perchennog Celtic Manor Resort ger Casnewydd a biliwnydd cyntaf Cymru, Syr Terry Matthews - ydy un o gynhyrchwyr y ffilm The Brutalist.
Mae'r ffilm wedi derbyn cryn ganmoliaeth ac eisoes wedi ennill tair Golden Globe.
Wrth siarad â BBC Radio Wales Drive, dywedodd Matthews: "Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi byth yn disgwyl y math yma o lwyddiant wrth wneud celf, ond mae'n sicr wedi mynd tu hwnt i'n disgwyliadau."
'Teimlo mod i adref'
Cafodd Trevor, 42, ei fagu yng Nghanada cyn symud i'r Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa actio ac fe ymddangosodd mewn sawl ffilm fer.
Ond mae wedi cael mwy o lwyddiant fel cynhyrchydd ar ôl sefydlu Brookstreet Pictures yn 2004.
Mae'r cwmni yn Los Angeles wedi'i enwi ar ôl stryd yn nhref Abercarn, sir Caerffili, lle cafodd ei dad Terry ei fagu.
"Cefais fy magu yng Nghanada ond rydw i wastad wedi teimlo'n falch iawn o fy nhreftadaeth Gymreig," meddai.
"Bob tro dwi yno dwi'n teimlo fy mod i adref."
Ychwanegodd: "Dwi'n ffodus, mae gen i un o'r modelau rôl gorau yn y byd. Rydw i mor falch o fy nhad.
"Mae'n arwain trwy esiampl a dwi'n ceisio gwneud yr un peth.
"Dwi wedi bod â diddordeb mewn ffilm erioed ac mae wedi bod yn fy nghefnogi ers cymaint o amser. Mae pawb yn fy nheulu wedi. Rhoddodd y sicrwydd a'r gallu i mi fod yn entrepreneur."
Cwmni cynhyrchu Matthews oedd y tu ôl i ffilm Bruce Willis, First Kill (2017) a The Forgiven (2021) gyda Ralph Fiennes a Jessica Chastain yn serennu.
Ond yr epig tair awr a hanner, The Brutalist, gydag Adrien Brody yn serennu, sydd wedi dod ag enwogrwydd byd-eang i'r cwmni.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes goroeswr holocost o Hwngari yn ailadeiladu ei fywyd fel pensaer yn America ar ôl y rhyfel.
Dywedodd Trevor ei bod wedi bod yn "dipyn o daith" i oresgyn heriau'r pandemig i wneud "ffilm indie go iawn".
"Mae wedi bod yn daith anhygoel ac rydym mor falch ohoni," meddai.
Bydd seremoni Gwobrau'r Academi 2025 yn cael ei chynnal ar 2 Mawrth yn Los Angeles.